Rhufeiniaid 1:26-28
Rhufeiniaid 1:26-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn; a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw’n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu’r gosb maen nhw’n ei haeddu. Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy’n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw’n gwneud popeth o’i le
Rhufeiniaid 1:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly y mae Duw wedi eu traddodi i nwydau gwarthus. Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol; a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol â merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl anochel am eu camwedd. Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud
Rhufeiniaid 1:26-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i’r hon sydd yn erbyn anian: Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o’r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i’w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid. Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd