Rhufeiniaid 11:17-18
Rhufeiniaid 11:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden, paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di.
Rhufeiniaid 11:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae rhai o’r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau’n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu’r maeth sy’n dod o wreiddiau’r olewydden. Ond paid meddwl dy fod ti’n wahanol i’r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy’n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy’n dy gynnal di!
Rhufeiniaid 11:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.