Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 13:1-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 13:1-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae’r awdurdodau presennol wedi’u rhoi yn eu lle gan Dduw. Mae rhywun sy’n gwrthwynebu’r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi’i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. Does dim rhaid ofni’r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy’n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy’n iawn a chei dy ganmol. Wedi’r cwbl mae’r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti’n gwneud drygioni, mae’n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae’n gwasanaethu Duw drwy gosbi’r rhai sy’n gwneud drwg. Felly dylid bod yn atebol i’r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw’r gydwybod yn lân. Dyna pam dych chi’n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i’w wneud. Felly talwch beth sy’n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.

Rhufeiniaid 13:1-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'n rhaid i bob un ymostwng i'r awdurdodau sy'n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu, ac y mae'r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw. Am hynny, y mae'r sawl sy'n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw. Ac y mae'r cyfryw yn sicr o dynnu barn arnynt eu hunain. Y mae'r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i'r sawl sy'n gwneud daioni ond i'r sawl sy'n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni'r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo. Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat ti er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae'n gwisgo'r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar ddrwgweithredwyr. Felly, y mae rheidrwydd arnom ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, ond hefyd o achos cydwybod. Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi, oherwydd gwasanaethu Duw y mae'r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn. Talwch i bob un ohonynt beth bynnag sy'n ddyledus, boed dreth, boed doll, boed barch, boed anrhydedd.

Rhufeiniaid 13:1-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus.