Rhufeiniaid 2:2-11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Rhufeiniaid 2:2-11 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni’n gwybod ei bod hi’n berffaith iawn i Dduw farnu pobl am wneud y fath bethau. Ond wyt ti felly’n meddwl y byddi di’n osgoi cael dy farnu? Ie, ti sydd mor barod i weld bai ar bobl eraill tra’n gwneud yn union yr un pethau dy hun! Neu wyt ti’n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd? Ond na, rwyt ti’n rhy ystyfnig! Felly rwyt ti’n storio mwy a mwy o gosb i ti dy hun ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw’n barnu. A bydd Duw’n barnu’n hollol deg. Bydd yn talu nôl i bob un beth mae’n ei haeddu. Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw – sef y rhai sy’n dal ati i wneud daioni – yn cael bywyd tragwyddol. Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy’n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw. Poen a dioddefaint fydd i’r rhai sy’n gwneud drwg – i’r Iddew ac i bawb arall; ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i’r rhai sy’n gwneud daioni – i’r Iddew ac i bawb arall. Mae pawb yr un fath – does gan Dduw ddim ffefrynnau!
Rhufeiniaid 2:2-11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wyddom fod barn Duw ar y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn gwbl gywir. Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw? Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch? Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw. Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd: bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb; ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder. Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.
Rhufeiniaid 2:2-11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.