Rhufeiniaid 6:16
Rhufeiniaid 6:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6Rhufeiniaid 6:16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae’n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6Rhufeiniaid 6:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; p'run bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6