Rhufeiniaid 6:17-18
Rhufeiniaid 6:17-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6Rhufeiniaid 6:17-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi’i ddysgu i chi. Dych chi wedi’ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy’n iawn.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6Rhufeiniaid 6:17-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo. Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.
Rhanna
Darllen Rhufeiniaid 6