Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 6:22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 6:22 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond nawr dych chi’n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy’r bywyd glân sy’n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.

Rhufeiniaid 6:22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.

Rhufeiniaid 6:22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.