Rhufeiniaid 8:6-8
Rhufeiniaid 8:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn farwolaeth, ond y mae bod â'n bryd ar yr Ysbryd yn fywyd a heddwch. Oherwydd y mae bod â'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw. Ni all y sawl sy'n byw ym myd y cnawd foddhau Duw.
Rhufeiniaid 8:6-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu! A dydy’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw.
Rhufeiniaid 8:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.