Ruth 1:1-21
Ruth 1:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â’i wraig a’i ddau fab gydag e. Elimelech oedd enw’r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau’r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw’n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a’i gadael hi yn weddw gyda’i dau fab. Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr. Tra oedd hi’n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i’w bobl. Felly, dyma hi a’i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab. Dyma nhw’n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda. Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw. A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi’ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu’r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw’n dechrau crio’n uchel. “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.” Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw. Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i’n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau’n cael gŵr heno ac yn cael plant, fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi’n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.” Dyma nhw’n dechrau crio’n uchel eto. Wedyn dyma Orpa’n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio’n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” Ond atebodd Ruth, “Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di a throi cefn arnat ti. Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i’n mynd i aros ble bynnag fyddi di’n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi. Ble bynnag fyddi di’n marw, dyna lle fyddai i’n marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni’n dwy.” Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth. A dyma’r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?” A dyma hi’n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‘Naomi’. Galwch fi’n ‘Mara’. Mae’r Un sy’n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn. Roedd fy mywyd i’n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi’n ‘Naomi’ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a’r Un sy’n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
Ruth 1:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ystod y cyfnod pan oedd y barnwyr yn llywodraethu, bu newyn yn y wlad, ac aeth dyn o Fethlehem Jwda gyda'i wraig a'i ddau fab i fyw dros dro yng ngwlad Moab. Elimelech oedd enw'r dyn, Naomi oedd enw ei wraig, a Mahlon a Chilion oedd enwau'r ddau fab. Effrateaid o Fethlehem Jwda oeddent, ac aethant i wlad Moab ac aros yno. Ond bu farw Elimelech, gŵr Naomi, a gadawyd hi'n weddw gyda'i dau fab. Priododd y ddau â merched o Moab; Orpa oedd enw'r naill a Ruth oedd enw'r llall. Wedi iddynt fod yno tua deng mlynedd, bu farw Mahlon a Chilion ill dau; a gadawyd y wraig yn amddifad o'i dau blentyn yn ogystal ag o'i gŵr. Penderfynodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith ddychwelyd o wlad Moab, oherwydd iddi glywed yno i'r ARGLWYDD ymweld â'i bobl a rhoi bwyd iddynt. Gadawodd hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith y man lle'r oeddent, a chychwyn yn ôl am wlad Jwda. Ac meddai Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, “Ewch yn ôl adref, bob un at ei mam, y ddwy ohonoch; a bydded yr ARGLWYDD mor garedig wrthych chwi ag y buoch chwi wrth y rhai a fu farw ac wrthyf finnau, a rhoi i'r ddwy ohonoch orffwysfa mewn cartref gyda gŵr.” Yna fe'u cusanodd, a dechreuodd y ddwy wylo'n uchel, a dweud wrthi, “Ond yr ydym ni am ddychwelyd gyda thi at dy bobl.” Dywedodd Naomi, “Ewch adref, fy merched. Pam y dewch gyda mi? A oes gennyf fi ragor o feibion yn fy nghroth, iddynt ddod yn wŷr i chwi? Ewch yn ôl, fy merched, oherwydd yr wyf fi'n rhy hen i gael gŵr. Pe bawn i'n dweud bod gennyf obaith cael gŵr heno, ac yna geni plant, a fyddech chwi'n disgwyl nes iddynt dyfu? A fyddech yn ymgadw rhag priodi? Na, fy merched; y mae'n llawer chwerwach i mi nag i chwi am fod llaw yr ARGLWYDD yn f'erbyn i.” Wylodd y ddwy yn uchel eto; yna ffarweliodd Orpa â'i mam-yng-nghyfraith, ond glynodd Ruth wrthi. A dywedodd Naomi, “Edrych, y mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw; dychwel dithau ar ei hôl.” Ond meddai Ruth, “Paid â'm hannog i'th adael, na throi'n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di'n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau. Lle y byddi di farw, y byddaf finnau farw ac yno y'm cleddir. Fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, a rhagor, os bydd unrhyw beth ond angau yn ein gwahanu ni.” Gwelodd Naomi ei bod yn benderfynol o fynd gyda hi, ac fe beidiodd â'i hannog rhagor. Aeth y ddwy ymlaen nes dod i Fethlehem; ac wedi iddynt gyrraedd, bu cyffro trwy'r holl dref o'u plegid, a'r merched yn gofyn, “Ai Naomi yw hon?” Dywedodd hithau wrthynt, “Peidiwch â'm galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD â mi'n ôl yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod â drwg arnaf?”
Ruth 1:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab. Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a’i dau fab a adawyd. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab, ac o’i gŵr. A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara. A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo, a’i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda. A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr ARGLWYDD drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â’r meirw, ac â minnau. Yr ARGLWYDD a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di. A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi? Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd; A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi, am i law yr ARGLWYDD fyned i’m herbyn. A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi. A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith. A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th DDUW di fy NUW innau: Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y’m cleddir; fel hyn y gwnelo yr ARGLWYDD i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau. Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi. Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem. A phan ddaethant i Bethlehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi? A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi. Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollalluog fy nrygu?