Ruth 1:20-21
Ruth 1:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma hi’n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‘Naomi’. Galwch fi’n ‘Mara’. Mae’r Un sy’n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn. Roedd fy mywyd i’n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi’n ‘Naomi’ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a’r Un sy’n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
Ruth 1:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd hithau wrthynt, “Peidiwch â'm galw'n Naomi, galwch fi'n Mara; oherwydd bu'r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr ARGLWYDD â mi'n ôl yn wag. Pam y galwch fi'n Naomi, a'r ARGLWYDD wedi tystio i'm herbyn, a'r Hollalluog wedi dod â drwg arnaf?”
Ruth 1:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi. Myfi a euthum allan yn gyflawn, a’r ARGLWYDD a’m dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i’r ARGLWYDD fy narostwng, ac i’r Hollalluog fy nrygu?