Titus 1:5-9
Titus 1:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mwriad wrth dy adael ar ôl yn Creta oedd iti gael trefn ar y pethau oedd yn aros heb eu gwneud, a sefydlu henuriaid ym mhob tref yn ôl fy nghyfarwyddyd iti: rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn ŵr i un wraig, a'i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus. Oherwydd rhaid i arolygydd fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio â bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy'n chwennych elw anonest, ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno'i hun. Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i'w gredu ac sy'n gyson â'r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill â'i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr.
Titus 1:5-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o’r trefi. Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd un sy’n arwain yn yr eglwys. Dylen nhw fod yn ffyddlon i’w priod, a’u plant yn ffyddlon a ddim yn wyllt ac yn afreolus. Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw. Ddylen nhw ddim bod yn benstiff, nac yn fyr eu tymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill. Dylen nhw fod yn bobl groesawgar, yn gwneud beth sy’n dda, yn gyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli eu chwantau. Dylen nhw fod yn rhai sy’n credu’n gryf yn y neges glir gafodd ei dysgu. Wedyn byddan nhw’n gallu annog pobl eraill gyda dysgeidiaeth gywir, ac argyhoeddi’r rhai sy’n dadlau yn eu herbyn.
Titus 1:5-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd.