Titus 2:7-8
Titus 2:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd di dy hun yn esiampl iddyn nhw drwy wneud daioni. Dylet ti fod yn gwbl agored gyda nhw wrth eu dysgu. Gad iddyn nhw weld dy fod ti o ddifri. Gwna’n siŵr dy fod yn dysgu beth sy’n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny’n codi cywilydd ar y rhai sy’n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i’w ddweud amdanon ni.
Titus 2:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ym mhob peth dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da, ac wrth hyfforddi amlyga gywirdeb a gwedduster a neges iachusol, a fydd uwchlaw beirniadaeth. Felly codir cywilydd ar dy wrthwynebwr, gan na fydd ganddo ddim drwg i'w ddweud amdanom.
Titus 2:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb, Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi.