Psalmau 1

1
Y Psalm. I. Kywydh deuair hirion.
1Gwnnfyd oi febyd gwinfaeth,
Gwirion don ir gwrnid aeth
Ar ol kyngor lwck angall
Y drwg a roe i fryd ar wall:
Ni saif yn ffordh briffordh brys
Bechaduriaid baich dyrys,
Nag ar gadair gyfair gawdh
Gwatorwyr a gydtariawdh.
2Ond kyfraith dhuw ’n faith dhawn fydh
I dhidhanwch dha dhevnydh:
Ai myfyrio mwy fowredh
Ddydh a nos yn dhidhan wedh.
3Bydh ail i bren a blennir
Ynglann afon dirion dir:
A dhwg ffrwyth dhigyffro hawl
Is irwydh yn amserawl;
Ag ar y brig deg ir breun
Ni dhielwa vn dheilen;
Ag oll a wnel gwell-ha ’n wir
At law dhyn a lwydhiannir.
4Annvwiol fraint dhynol fry
O fall‐haint ni bydh felly,
Hwn o fab hoewan a fydh
Fal manus ar fol mynydh:
Oi flaen y gwynt flina gwaith
Chwith amod, ai chwyth ymaith
5Ni welir annvwiolion
Ofer yn hir ir farn honn
A gwnn na saif, gwann o said,
Deirawr y pechaduriaid,
Drwy fawl oll ir dyrfa lawn
O wyr kofus — rai ky fiawn.
6Duw a edwyn ffordh dyn da:
Dinystrir enwir yna.

Zur Zeit ausgewählt:

Psalmau 1: SC1595

Markierung

Teilen

Kopieren

None

Möchtest du deine gespeicherten Markierungen auf allen deinen Geräten sehen? Erstelle ein kostenloses Konto oder melde dich an.