Ioan 13
13
A.D. 33. —
1 Yr Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion: 14 yn eu hannog i ostyngeiddrwydd a chariad perffaith: 18 yn rhagfynegi ac yn datguddio i Ioan trwy arwydd y bradychai Jwdas ef: 31 yn gorchymyn iddynt garu eu gilydd; 36 ac yn rhybuddio Pedr y gwadai efe ef.
1A #Mat 26:2chyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. 2Ac wedi darfod swper, #Luc 22:3; Ioan 13:27wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; 3Yr Iesu yn gwybod #Mat 11:27; 28:18; Ioan 3:35; 17:2roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; 4Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. 5Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. 6Yna y daeth efe at Simon Pedr: #13:6 A Phedr a, & c.ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, #Edrych Mat 3:14a wyt ti’n golchi fy nhraed i? 7Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. 8Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, #Pen 3:5; 1 Cor 6:11; Eff 5:26; Titus 3:5; Heb 10:22Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. 9Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 10Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac #Pen 15:3yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11Canys efe #Pen 6:64a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 12Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13#Mat 23:8, 10; 1 Cor 8:6; 12:3; Phil 2:11Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 14#Luc 22:27Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; #Gal 6:1, 2chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 15Canys #Mat 11:29; 1 Pedr 2:21; 1 Ioan 2:6rhoddais esiampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16#Mat 10:24; Luc 6:40; Ioan 15:20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17#Iago 1:25Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.
18Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, #Salm 41:9; Mat 26:23Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn. 19#13:19 Neu, O’r awr hon.#Pen 14:29; 16:4Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe. 20#Mat 10:40; Luc 10:16Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 21#Mat 26:21; Marc 14:18; Luc 22:21Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, #Pen 12:27efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, #Act 1:17; 1 Ioan 2:19y bradycha un ohonoch fi. 22Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 23Ac #Pen 19:26; 20:2; 21:7, 20, 24yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 25Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. 27Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 28Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 29Canys rhai oedd yn tybied, am fod #Pen 12:6Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. 30Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.
31Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32#Pen 17:1, 5, 6Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac #Pen 12:23efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, #Pen 7:34; 8:21megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 34#Lef 19:18; Ioan 15:12, 17; Eff 5:2; 1 Thess 4:9; 1 Ioan 2:7, 8; 3:23; 4:21Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 35#1 Ioan 2:5; 4:20Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.
36A Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned? Yr Iesu a atebodd iddo, Lle yr ydwyf fi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr #Pen 21:18; 2 Pedr 1:14ar ôl hyn y’m canlyni. 37Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, paham na allaf fi dy ganlyn yr awron? #Mat 26:33, 35; Marc 14:31; Luc 22:33mi a roddaf fy einioes drosot. 38Yr Iesu a atebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
Επιλέχθηκαν προς το παρόν:
Ioan 13: BWM1955C
Επισημάνσεις
Κοινοποίηση
Αντιγραφή
Θέλετε να αποθηκεύονται οι επισημάνσεις σας σε όλες τις συσκευές σας; Εγγραφείτε ή συνδεθείτε
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society