Genesis 12
12
Galw Abram
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a'th deulu, i'r wlad a ddangosaf i ti. 2Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith. 3Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear.”
4Aeth Abram fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ac aeth Lot gydag ef. Saith deg a phump oedd oed Abram pan aeth allan o Haran. 5A chymerodd Abram ei wraig Sarai, a Lot mab ei frawd, a'r holl feddiannau a gasglwyd ganddynt, a'r tylwyth a gawsant yn Haran, a chychwyn i wlad Canaan. Wedi iddynt ddod i wlad Canaan, 6tramwyodd Abram trwy'r tir hyd safle Sichem, at dderwen More. Y Canaaneaid oedd yn y wlad y pryd hwnnw, 7ond ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram a dweud, “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon.” Adeiladodd yntau allor yno i'r ARGLWYDD, a oedd wedi ymddangos iddo. 8Yna symudodd oddi yno i'r mynydd-dir tua'r dwyrain o Fethel a gosod ei babell, gyda Bethel o'i ôl ac Ai o'i flaen; adeiladodd yno allor i'r ARGLWYDD, a galw ar enw'r ARGLWYDD. 9A pharhaodd Abram i symud yn raddol tua'r Negef.
Abram yn yr Aifft
10Yr oedd newyn yn y tir, ac aeth Abram i lawr i'r Aifft i aros yno dros dro, am fod y newyn yn fawr yn y tir. 11A phan oedd ar gyrraedd yr Aifft, dywedodd wrth Sarai ei wraig, “Gwn yn dda dy fod yn wraig brydferth; 12a phan wêl yr Eifftiaid di, fe ddywedant, ‘Dyma ei wraig.’ A lladdant fi, a'th gadw di'n fyw. 13Dywed mai fy chwaer wyt, fel y bydd yn dda i mi o'th herwydd ac yr arbedir fy mywyd o'th achos.” 14Pan gyrhaeddodd Abram yr Aifft, gwelodd yr Eifftiaid fod y wraig yn brydferth iawn. 15A gwelodd tywysogion Pharo hi a'i chanmol wrth Pharo, a chymerwyd y wraig i dŷ Pharo. 16Bu yntau'n dda wrth Abram er ei mwyn hi; a chafodd Abram ganddo ddefaid, ychen, asynnod, gweision, morynion, asennod a chamelod.
17Ond trawodd yr ARGLWYDD Pharo a'i dŷ â phlâu mawr, o achos Sarai gwraig Abram. 18A galwodd Pharo ar Abram a dweud, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i mi? Pam na ddywedaist wrthyf mai dy wraig oedd hi? 19Pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’, fel fy mod wedi ei chymryd yn wraig imi? Dyma dy wraig; cymer hi a dos ymaith.” 20A rhoes Pharo orchymyn i'w wŷr amdano, ac anfonasant ef a'i wraig a'i holl eiddo ymaith.
Actualmente seleccionado:
Genesis 12: BCND
Destacar
Compartir
Copiar
¿Quieres guardar tus resaltados en todos tus dispositivos? Regístrate o Inicia sesión
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004