Piibli äpi logo
Otsingu Ikoon

Salm 52

52
Mae Duw yn barnu’r drwg ond yn dda at y rhai sy’n ffyddlon
I’r arweinydd cerdd: Mascîl. Salm gan Dafydd, pan aeth Doeg o Edom at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd wedi dod i dŷ Achimelech.”#1 Samuel 22
1Wyt ti’n falch o’r drwg wnest ti,
ac yn meddwl dy fod ti’n dipyn o arwr?
Wel, dw i’n gwybod fod Duw yn ffyddlon!
2Rwyt ti’n cynllwynio dinistr,
ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!
3Mae drwg yn well na da gen ti,
a chelwydd yn well na dweud y gwir.
Saib
4Ti’n hoffi dweud pethau sy’n gwneud niwed i bobl,
ac yn twyllo pobl.
5Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth.
Bydd yn dy gipio allan o dy babell,
ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw.
Saib
6Bydd y rhai sy’n iawn gyda Duw yn gweld y peth,
ac wedi’u syfrdanu.
Byddan nhw’n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,
7“Edrychwch! Dyma’r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help;
y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth,
ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”
8Ond dw i’n llwyddo fel coeden olewydd sy’n tyfu yn nhŷ Dduw!
Dw i’n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser.
9Bydda i’n dy foli di am byth, O Dduw,
am beth rwyt ti wedi’i wneud.
Dw i’n mynd i obeithio yn dy enw di.
Mae’r rhai sy’n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!

Praegu valitud:

Salm 52: bnet

Tõsta esile

Kopeeri

Võrdle

Jaga

None

Kas soovid, et sinu esiletõstmised oleksid salvestatud kõigis sinu seadmetes? Registreeru või logi sisse