Yr Actæ 8

8
Pen. viij.
Dwyn ’alar Stephan a’ ei gladdy. Cynddaredd yr Iuddeon a’ Saul yn y herbyn hwy. Y ffyddlonieit wedy ei goyscaru, ac yn precethu yma a’ thraw. Twyllo Samareia gan Simon #* ddewinriniwr, eithyr hei ymchwelyt ir iawn gan Philip, a’ ei chadarnhay gan yr Ebestyl. Cupyðtot a’ffuc santeiddrwydd Simon. Ae ymchweliat yr Eunuch ir ffydd.
1AC Saul a gytsynniesei am y varwolaeth ef. A’r #8:1 * amserdyddgwaith hwnw, y bu ymlit dirvawr #8:1 yn erbynar yn Eccles, yr hon ytoedd yn‐Caerusalem, ac ydd oeddent yvv oll wedy ei goyscary rhyd gwledydd Iudaia a’ Samareia, dyeithyr yr Apostolon. 2Yno ryvv wyr dwywol, a #8:2 * gynhebrēgesant,ddugesont Stephan ganthynt, yvv gladdu, ac a wnaethant #8:2 alar,gwynvan mawr #8:2 * am dano, drostaw.uch ei benn. 3A’ Saul yntef oedd yn anreithiaw yr Eccles, gan vyned y mewn y bop tuy, a’ thynny allan ’wyr a’ gwragedd, a ei dody yn‐carchar. 4Ac wyntwy yr ei ’oyscaresit ar lled, a dramwyesont gan praegethy y gair.
5Yno yd aeth Philip i ddinas o Samareia, ac a precethawdd Christ yddwynt. 6A’r popul a ddalioð ar yr hyn a ddywedei Philip, o vnvryd, yn gwrandaw ac yn gweled y gwyrthiae ’r ei wnaethei ef. 7Can ys ysprytion aflan gan lefain a llef vchel, a ddaeth allan o lawereð a berchenogit ganthvvynt: a’llaweredd yn gleifon o’r parlys, ac yn gloffion, a iachawyt. 8Ac ydd oedd #8:8 * llawenyðgorvoledd mawr yn y dinas hono. 9Ac ydd oeð o’r blaen yn y dinas #8:9 rywneb gwr aei enw Simon, yr hwn ytoedd swynwr, ac a #8:9 * ehudeseiampwyllesei bopul Samareia, gan ðywedyt, e vot ehun yn ryvv vvr mawr. 10Wrth ba vn ydd ydd oeddent wy yn dysgwyl o’r lleiaf yd y mwyaf, gan ddywedyt, Y gvvr hwn yw ’r mawr allu Dew, 11Ac wyntwy #8:11 * dal selwoedd yn dysgwyl wrthaw, erwydd iddaw yn hir o amser y ehudaw hwy a #8:11 rrinieuswynion. 12Eithyr yn gyflym ac y credesont i Philip, y ytoedd yn precethy y pethe y berthynent #8:12 * at, ari deyrnas Dew, ac yn Enw Iesu Christ, ei batyddit #8:12 y gwyr, a’r gwragedd. 13Yno Simon yntef hefyt a gredawdd ac a vatyddiwyt, ac a #8:13 arosodd gyd addylynawdd Philip, ac a chwithawdd arno, pan welawdd yr arwyddion ar gwyrthiae mawrion r’ ei wnaethoeddit.
Yr Epistol ddie Marth y Sul gwyn.
14A’ phan glybu yr Apostolon oedd yn‐Caerusalem, dderbyn o Samareia ’air Dew, ys anvonesont attwynt Petr ac Ioan: 15yr ei wedy ei dyvot i waered, y weddiesont drostwynt, ar dderbyn o hauwynt, yr Yspryt glan: 16(Can na ddaethei ef eto ar yr vn o hāwynt, amyn ei batyddiaw a wnaethit yn vnic yn Enw yr Arglwydd Iesu. 17Yno y gesodesont ei dwylaw arnaddvvynt, ac wy a dderbyniesont yr Yspryt glan. 18Ac pan welawdd Simon, #8:18 * tawmae trwy ’osot dwylaw yr Apostolon y dodit yr Yspryt glan, e gynygawdd yddwynt ariant, 19gan ddywedyt, Rowch i minef hefyt y meddiant hwn, yd pan yw ar bwy bynac y gesodwyf vy dwylo, bod iddo dderbyn yr Yspryt glan. 20Yno y dyvot Petr wrthaw, Coller dy ariant y gyd a thi, can ys tybieist y #8:20 ceffirperir #8:20 * Rodddawn Dew ac ariant. 21Nid oes yty ran na chymdeithas yn y #8:21 negesdevnyð hwn: can nad yw dy galon yn vnion geyr bron Dew. 22Edivarha gan hyny #8:22 * am, raco bleit dy ddrugioni hyn, ac gweddia Ddew, #8:22 odid, possibila’s agatvydd, bod maddae meddwl dy galon. 23Can ys gwelaf dy vot ym‐bystyl chwerwder, ac yn rhwymedigaeth enwiredd. 24Yno ydd atebawdd Simon ac y dyvot, Gweddiw‐chwi drosof ar yr Arglwyð, na bo i ddim o hyn a ddywedesoch, #8:24 ddescenðyvot arnaf.
25Ac velly wynt vvy gwedy yðwynt testio a’ #8:25 * phrecethulavaru gair yr Arglwyð, a ymchwelesont y Caerusalem, ac a precethesont‐yr‐Euangel yn llawer o ddinasoedd y Samareieit. 26Yno Angel yr Arglwydd a lavarodd wrth Philip, gan ddywedyt, Cyvot, a’ cherdd tu a’r Dehau ir ffordd ’sy yn mynet y waeret o Gaerusalem i ddinas Gaza, yr hon ’sy yn #8:26 * ddisathr eb gyvanneddðyffaith. 27Ac ef a gyvodes ac aeth rac ddaw: ac wele ryw Eunuch o Ethiopia sef Raglaw Candace Brēhines yr Ethiopiait, yr hwn oeð yn llywodraethy y oll drysor hei, ac oedd yn dyvot i Gaerusalem y addoly. 28Ac val ydd oedd ef yn adymchwelyt ac yn eistedd yn y #8:28 siarretgerbyt, y darllenai ef Esaias y Prophwyt. 29Yno y dyvot yr Yspryt wrth Philip, Cerdda‐yn‐nes ac ymwasc a’r cerbyt acw. 30Ac Philip a redawdd #8:30 * ynoattaw, ac ei clywodd yn darllen y Prophet Esaias, ac a ddyvot. A ddeelly di yr hynn ydd wyt yn ei ddarllen? 31Ac ef a ddyvot, Py wedd y metraf, o ðiethyr bot ryw vn #8:31 im arwein ir ffordd? Ac ef deisyvawdd ar Philip #8:31 yn fforddiwr ymyescen y vynydd, ac eistedd gyd ac ef. 32A’r lle, or Scrythur ydd oedd ef yn ei ddarllen ytoedd hwn, Ef a #8:32 * ddringoarwenit mal davat ir lladdfa: ac mal oen #8:32 yn vutmut ger‐bron ei gneifiwr, velly nid agorai ef ei enae. 33Yn ei ’oystyngeiddrwydd ydarchafwyt ei varnedigeth: a’ phwy a #8:33 * ddatcan, ddosparthvenaic ei #8:33 genedlaeth’enedigaeth? can ys dugir ei vuchedd oyar y ddaear. 34Yno ydd atebawdd yr Eunuch wrth Philip, ac y dyvot, atolwg yty, am pwy y dywait y Prophet hynn? am dano ehun, ai am vn arall? 35Yno ydd agores Philip ei enae, ac a ddechreawdd ar yr Scripthur hwnw, ac a a precethawdd iddo’r Iesu. 36Ac mal ydd oeddent yn #8:36 * cydgerðetcyd ymddeith ffordd, y daethant at ryw ðwfr a’r Eunuch a ddyvot, Wele, llyma ddwfyr: pa beth a #8:36 rwystrlestair na’m badyddijr? 37Ac Philip a ddyvot wrthaw, A’s credy oth oll calon, ef ellir. Ac ef atebawdd ac a ddyvot. #8:37 * ydd wyf yn credyCredaf vot Iesu Christ yn vap Dew, 38Yno y gorchymynodd ef bot sefyll o’r cerbyt: ac vvy ddescenesont ill dau ir dwfr, a’ Philip a’r Eunuch, ac ef ei batiddiawdd. 39Ac yn gytrym ac yr escenesont i vynydd o’r dwfr, #8:39 y cipioddydd aeth Yspryt yr Arglwydd a Philip canthavv, a’r Eunuch ny’s gweles ef mwyach: ac velly ydd aeth ef #8:39 rragddywy ffordd gan lawenhay. 40Ac Philip a gaffat yn dinas Azotus, ac ef a dramwyawdd gan precethy‐yr‐Euangel yn yr oll ddinasoedd, yd y ny ddaeth ef i Cesareia.

اکنون انتخاب شده:

Yr Actæ 8: SBY1567

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

مقایسه

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید