Luc 10

10
Crist yn anfon y deuddeg efengylydd a thrigain allan
1Wedi’r pethau hyn, apwyntiodd yr Iesu ddeuddeg a thrigain eraill o ddisgyblion, gan eu hanfon ymlaen llaw bob yn ddau a dau i’r mannau y bwriadai ymweld â nhw.
2“Mae cynhaeaf toreithiog,” meddai wrthyn nhw, “ond prinder o weithwyr. Gweddïwch, felly, ar berchennog y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. 3Ewch, rwy’n eich anfon fel ŵyn i ganol bleiddiaid. 4Ni fydd angen pwrs arnoch, na chod, na sandalau. A pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. 5Pan ewch i dŷ, dywedwch yn gyntaf ‘Tangnefedd ichi yma.’ 6Ac os bydd yno un yn caru tangnefedd, fe dderbyn eich bendith. Onid e, fe ddychwel arnoch chi. 7Arhoswch yno, gan gyfranogi o’u bwyd a’u diod, oherwydd mae’r gweithiwr yn deilwng o’i dâl. Ond peidiwch â symud o’r naill dŷ i’r llall.
8“Ac ym mha ddinas bynnag y bydd croeso ichi, bwytewch bopeth a roddir o’ch blaen. 9Iachewch eu cleifion, a dywedwch wrthyn nhw, ‘Mae teyrnasiad Duw wedi agosáu atoch.’ 10Ond pan ddewch i ddinas ddi-groeso, ewch allan i’w strydoedd i ddweud, 11‘Rydym hyd yn oed yn sychu llwch eich dinas oddi ar ein sandalau, er cywilydd i chi. Ond cofiwch, mae teyrnasiad Duw wedi agosáu atoch.’ 12Coeliwch fi, fe fydd yn esmwythach ar Sodom ar Ddydd y Farn nag ar y ddinas honno.
13“Gwae chi, Chorasin a Bethsaida! Petai’r gwyrthiau a wnaed ynoch wedi eu gwneud yn Nhyrus a Sidon, fe fydden nhw wedi edifarhau ers talwm gan eistedd mewn sachliain a lludw. 14Fe fydd hi’n well i Tyrus a Sidon yn y Farn nag arnoch chi. 15A thithau, Capernaum, wyt ti am gael dy ddyrchafu i’r entrychion? Na, fe gei di dy ddarostwng i’r dyfnderoedd.
16“Bydd y sawl a wrendy arnoch chi yn gwrando arnaf fi, a’r sawl a’ch anwybyddo yn f’anwybyddu innau, a’r Hwn a’m hanfonodd i.”
Rhybudd i fod yn wylaidd
17Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen gan ddweud, “Arglwydd, pan ddefnyddiwn d’enw, fe ufuddha hyd yn oed y cythreuliaid inni.”
18Ac meddai wrthyn nhw, “Gwelais Satan yn syrthio o’r nef fel mellten. 19Yn awr fe welwch fel y rhoddais ichi awdurdod i sathru ar seirff a sgorpionau a holl allu’r gelyn, heb i ddim wneud niwed ichi. 20Ond llawenhewch nid am i’r ysbrydion drwg ufuddhau ichi, ond am fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”
Diolch am gael rhannu cyfrinachau Duw
21Meddai’r Iesu yr adeg honno, yn llawen gan mor llawn oedd o’r Ysbryd Glân, “Rydw i’n diolch, O! Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio’r pethau hyn oddi wrth y galluog a’r deallus, a’u datguddio i rai syml! Ie, O Dad, hyn oedd dy ddymuniad di. 22Mae fy Nhad wedi ymddiried popeth i mi a does neb yn gwybod pwy yw y Mab ond y Tad, na neb ond y Mab yn gwybod pwy yw y Tad, a phwy bynnag y mae’r Mab yn dewis ei ddatguddio iddo.”
23Yna trodd at y disgyblion a dweud o’r neilltu, “Mor ddedwydd yw’r llygaid a wêl yr hyn welwch chi. 24Fe fuasai llawer proffwyd a brenin wedi dymuno gweld yr hyn a welwch, ond ni chawson nhw, a chlywed yr hyn a glywch chi, ond ni chawson nhw ddim.”
Perthynas crefydd a bywyd-bob-dydd
25Cododd rhyw gyfreithiwr i’w brofi, a gofyn, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i ennill bywyd tragwyddol?”
26“Beth a ddywed y Gyfraith?” gofynnodd Iesu; “sut rwyt ti’n ei deall?”
27Atebodd, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gyd-ddyn fel ti dy hun.”
28“Mae’r ateb yn iawn,” meddai’r Iesu, “gwna hyn, a dyna’r bywyd gennyt.”
29Ond yn dymuno i glirio’i hun, holodd yntau eilwaith, “Ond pwy yw fy nghyd-ddyn?”
30Ac ateb yr Iesu oedd, “Syrthiodd rhyw ddyn, wrth gerdded o Jerwsalem i Jericho, ymhlith lladron, ac wedi ymosod arno a rhwygo ei ddillad oddi amdano, fe’i gadawson ef yn hanner marw. 31A digwyddodd i offeiriad ddod y ffordd honno, ac wedi gweld y dyn, croesodd y ffordd a mynd yn ei flaen. 32A’r un peth yn union a wnaeth Lefiad a ddaeth ar ei ôl — wedi ei weld, croesi a mynd yn ei flaen. 33Ond daeth Samariad heibio ar ei daith, a phan welodd hwnnw ef, tosturiodd. 34Aeth ato a rhwymo ei friwiau, wedi tywallt olew a gwin arnyn nhw, a chan ei osod ar ei anifail ei hun, fe’i dygodd i lety a chymryd gofal mawr ohono. 35A thrannoeth, cyn mynd, rhoddodd ddau ddarn arian i’r gwestywr, gan ddweud wrtho, ‘Cymer ofal ohono. A phan alwaf fi nesa, mi dalaf bopeth chwaneg fyddi di wedi’i wario.’
36“Pa un o’r tri, yn dy dyb di, oedd cyd-ddyn y dyn a syrthiodd ymhlith lladron?”
37“Yr un a fu’n garedig wrtho,” oedd yr ateb. Ac meddai’r Iesu, “Dos, a gwna’n debyg iddo.”
Yr angen am wrando. Hanes Mair a Martha
38A nhwythau’n dal i deithio, fe ddaeth ef i bentref arbennig, a chroesawodd merch o’r enw Martha ef. 39Roedd ganddi chwaer o’r enw Mair, a eisteddai wrth draed yr Arglwydd yn gwrando ar bob gair a lefarai. 40Roedd Martha’n or-brysur gyda’r holl waith, felly dyma hi’n dod at yr Iesu ac meddai, “Arglwydd, wyt ti’n fodlon i’m chwaer adael imi wneud y cwbl fy hun? Dywed wrthi am roi help llaw imi.”
41Ac meddai yntau, “Martha fach, rwyt ti’n poeni a ffwdanu gormod o’r hanner. 42Un peth sydd yn rhaid inni wrtho. Mynnu’r rhan dda y mae Mair, a chollith hi byth mohoni.”

اکنون انتخاب شده:

Luc 10: FfN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید