Luc 11

11
Gweddi’r Arglwydd
1Roedd yn gweddïo mewn rhyw le, ac wedi iddo orffen, dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg inni sut i weddïo, fel y dysgodd Ioan ei ddisgyblion.”
2“Pan weddïwch,” atebodd yr Iesu, “fe ddylech ddweud,
‘O Dad,
Gad i’th enw gael ei barchu,
Gad i’th Deyrnasiad ddod.
3Dyro inni fara yn ôl ein hangen bob dydd,
4A maddau inni y drwg a wnaethom,
Fel y mae’n arfer gennym ninnau faddau i’r sawl a wnaeth ddrwg i ni.
Paid â’n dwyn ni i’r prawf’.”
Pwysigrwydd gweddïo
5Ac meddai wrthyn nhw, “Dywedwch eich bod yn mynd at gyfaill ganol nos, a dweud, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi. 6Mae ffrind imi wedi galw heibio, a finnau heb fwyd i’w osod o’i flaen.’ 7Mae yntau’n ateb o’r tu mewn, ‘Paid â’m poeni i. Mae’r drws wedi’i fario, a’r plant a minnau yn y gwely. Mae’n amhosibl imi godi nawr i estyn dim iti.’ 8Eto, er na chwyd ar unwaith, oherwydd ei fod yn gyfaill iddo, mae’n siŵr o godi, a rhoddi faint fyn ef, os bydd yn daer. 9Felly, dweud rydw i: Gofynnwch ac fe roddir i chi, chwiliwch ac fe gewch, curwch ac agorir ichi. 10Oherwydd mae pob un sydd yn gofyn yn derbyn, a’r sawl sydd yn chwilio yn cael, a’r sawl sydd yn curo yn cael drws agored. 11Mae rhai ohonoch yn dadau, ac os daw’r mab a gofyn am bysgodyn ai sarff a roddwch iddo? 12Neu ysgorpion yn lle ŵy? 13Wel ynteu, os gwyddoch chi er gwaetha’ch drygioni, sut i roi i’ch plant yr hyn sydd dda iddyn nhw, mae eich Tad Nefol yn debycach o roi yr Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.”
Diwreiddio cabledd
14Roedd yn bwrw cythraul allan o fudan. Pan ddaeth yr ysbryd drwg allan fe wnaeth y dyn lefaru a rhyfeddodd pawb. 15Ond dywedodd rhai ohonyn nhw, “Trwy allu Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae hwn yn gyrru allan gythreuliaid.”
16Roedd eraill, i’w brofi, yn gofyn am arwydd o’r nefoedd. 17Ond gwyddai beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, ac meddai, “Pob teyrnas wedi ymrannu, mae’n siŵr o chwalu, a syrthio wna teulu wedi ymrannu. 18Os yw Satan wedi ymrannu, sut y gall ei deyrnas sefyll? Oherwydd dweud rydych fy mod yn gyrru allan gythreuliaid drwy allu Beelsebwl. 19Ac os â grym Beelsebwl rydw i yn gyrru cythreuliaid allan, drwy help pwy y mae eich dilynwyr chi’n eu gyrru nhw allan? Am hyn byddan nhw’u hunain yn eich condemnio. 20Ond os drwy fys Duw rydw i yn gyrru allan gythreuliaid, mae’n rhaid bod teyrnasiad Duw wedi dod arnoch yn barod. 21Pryd bynnag y bydd un cryf ac arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo i gyd yn ddiogel. 22Ond pan ddêl un cryfach yn ei erbyn a’i orchfygu, fe ddwg hwnnw ymaith yr holl arfogaeth yr ymddiriedodd ynddo, a rhannu ei ysbail. 23Mae pwy bynnag nad yw gyda mi yn f’erbyn i, a phwy bynnag nad yw’n casglu gyda mi, mae’n gwasgaru.
24“Pan fo ysbryd aflan yn mynd allan o ddyn, mae’n crwydro drwy leoedd sychion yn chwilio am orffwys; o fethu ei gael, mae’n dweud, ‘Fe af i’n ôl i’r tŷ a adewais.’
25“Felly, mae’n dychwelyd, a chael y tŷ yn lân ac yn drefnus; 26fe â i gael hyd i saith ysbryd arall gwaeth nag ef ei hun, ac fe ddôn nhw i mewn a gwneud eu hunain yn gartrefol yno. Ac y mae cyflwr y dyn hwnnw yn waeth ar y diwedd nag ar y dechrau.”
Harddwch ufudd-dod
27Tra dywedai hyn, gwaeddodd gwraig o’r dyrfa arno, “Mor ddedwydd y fam a ddaeth â thi i’r byd, a’th fagu.”
28Ond meddai’r Iesu, “Na, y rhai dedwydd yw’r rhai a glyw air Duw ac ufuddhau iddo.”
Beirniadu ei oes
29Ac fel roedd y dyrfa fawr yn gwasgu ato, meddai’r Iesu ymhellach, “Cenhedlaeth ddrwg yw hon. Y mae’n ceisio arwydd, a’r unig arwydd gaiff hi yw arwydd Jona. 30Fel y daeth Jona yn arwydd i ddynion Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn i’r genhedlaeth hon. 31Yn y farn, fe gwyd Brenhines y De i gondemnio gwŷr yr oes hon, o achos fe ddaeth hi o ben draw’r byd i wrando ar ddoethineb Solomon, ac y mae rhywbeth mwy na Solomon yma. 32Yn y farn, fe gwyd pobl Ninefe i gondemnio’r oes hon, o achos pan bregethodd Jona iddyn nhw, fe newidiason nhw’u ffordd o fyw, ac mae rhywbeth mwy na Jona yma.
Yr angen am ddidwylledd
33“Ni fydd neb yn goleuo lamp ac yn ei rhoi yn y cwpwrdd neu dan ddysgl, ond ar stand, i bawb a ddaw i mewn gael gweld y goleuni. 34Lamp y corff yw’r llygad: pan fo’r llygad yn iach, fe fydd dy gorff i gyd yn llawn goleuni, ond pan fydd y llygad yn ddrwg, fe fydd dy gorff mewn tywyllwch. 35Bydd ofalus gan hynny nad tywyllwch yw’r hyn a dybi yn oleuni. 36Os byddi yn llawn goleuni heb arwydd o dywyllwch, fe fydd fel petai gennyt lamp lachar i’th oleuo.”
37Wedi iddo orffen llefaru, gwahoddodd Pharisead ef i ginio yn ei dŷ. Aeth i mewn, ac eistedd i fwyta. 38A phan welodd y Pharisead hyn, synnodd na fuasai’r Iesu wedi ymolchi yn gyntaf cyn y pryd. 39Ond meddai’r Arglwydd wrtho, “Rydych chi’r Phariseaid yn hoffi golchi tu allan i’r cwpan a’r plât, ond rydych oddi mewn yn llawn trachwant a drygioni. 40Ddynion ynfyd! Onid yr Hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd? 41Ond rhoddwch yr hyn sydd yn y cwpan i’r tlodion, ac fe fydd popeth yn lân i chi.
42“Gwae chi’r Phariseaid, yn talu eich degwm o’r mintys a’r ryw a phob llysieuyn, ac yn colli golwg ar gyfiawnder a chariad Duw. Dyma’r pethau y dylasech chi ofalu eu hymarfer, heb esgeuluso’r lleill. 43Gwae chi’r Phariseaid am garu’r lleoedd blaenaf yn y synagogau, a sylw pobl yn y marchnadoedd. 44Gwae chi! Rydych fel beddau dirgel, a dynion yn cerdded drostyn nhw heb wybod eu bod yno.”
Ceryddu’r dysgedig am guddio’r gwir
45Dywedodd un o athrawon y gyfraith wrtho, “Athro, wrth ddweud hyn, rwyt yn ein sarhau ninnau hefyd.”
46Atebodd yntau, “Ie, gwae chi athrawon y Gyfraith hefyd. Rydych yn pentyrru beichiau annioddefol ar gefnau dynion heb symud bys i’w helpu. 47Gwae chi am godi colofnau i’r proffwydi, yr union rai a lofruddiwyd gan eich tadau. 48Rydych yn dangos eich bod yn cytuno â’r hyn a wnaeth eich tadau: nhw’n llofruddio, a chithau’n codi maen i goffáu hynny. 49Dyna paham y dywedodd doethineb Duw, ‘Anfonaf atyn nhw broffwydi ac apostolion, ac fe laddan rai ac erlid eraill ohonyn nhw.’ 50Bydd yr oes hon yn atebol am waed yr holl broffwydi o greadigaeth y byd, 51o Abel i Sachareias, a fu farw rhwng yr allor a’r cysegr. 52Ie, credwch fi, bydd yr oes hon yn atebol amdano. Gwae chi athrawon y Gyfraith, rydych wedi cymryd i ffwrdd allwedd gwybodaeth: aethoch chi ddim i mewn eich hunain, ac fe wnaethoch rwystro y rhai oedd yn dymuno mynd i mewn.”
53Wedi iddo ymadael, dechreuodd athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid ymosod yn ffyrnig arno a holi llawer arno, 54gan ddisgwyl iddo dramgwyddo wrth ateb yn ddifeddwl.

اکنون انتخاب شده:

Luc 11: FfN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید