Luc 12
12
Rhybuddio rhag rhagrith
1Yn y cyfamser, wedi i dyrfa o filoedd ddod ynghyd, nes bod pobl yn sathru ar draed ei gilydd, dechreuodd yn gyntaf ddweud wrth ei ddisgyblion, “Gwyliwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, rhagrith. 2Oherwydd does dim wedi ei guddio na chaiff ei ddatguddio, a does dim yn ddirgel na ddaw yn amlwg. 3Felly, beth bynnag a ddywedwch yn y tywyllwch a ail-adroddir yng ngolau dydd, a’r hyn a sibrydwch mewn stafelloedd a gyhoeddir o bennau’r tai.
Ofni Duw yn unig
4“Rwy’n dweud wrthych fy ffrindiau, nad oes rhaid ofni’r rhai sy’n lladd y corff: yna does dim mwy y medran nhw ei wneud. 5Dywedaf wrthych pwy i’w ofni: ofnwch yr hwn y mae hawl ganddo, wedi iddo ladd, i daflu i uffern. Ie, credwch fi, ef sydd i’w ofni. 6Onid dwy ffyrling yw pris pump o adar y to, eto nid oes un ohonyn nhw yn cael ei fwrw’n angof gan Dduw. 7Mwy na hyn, y mae hyd yn oed pob blewyn ar eich pen wedi’i gyfrif! Peidiwch ag ofni, rych chi’n werth mwy na llawer o adar y to. 8Clywch: pwy bynnag fydd yn f’arddel i o flaen dynion, byddaf innau, Mab y Dyn, yn ei arddel ef o flaen angylion Duw. 9Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i o flaen dynion, fe’i gwedir o flaen angylion Duw.
10“Mae maddeuant i bwy bynnag sy’n dweud gair yn erbyn Mab y Dyn, ond nid i’r sawl sy’n siarad yn erbyn yr Ysbryd Glân. 11A phan ddygir chi o flaen y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, peidiwch â phoeni am ddull na deunydd eich amddiffyniad. 12Bydd yr Ysbryd Glân yn eich dysgu ar y pryd beth i’w ddweud.”
Rhybudd rhag trachwant bydol
13Meddai rhyw ddyn o’r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu gyda mi yr arian a etifeddodd.”
14Atebodd yntau, “Gyfaill annwyl, pa bryd y dewiswyd fi yn farnwr neu’n rhannwr rhyngoch!” 15Ac yna, meddai wrthyn nhw, “Sylwch chithau ar hyn, a gwyliwch rhag pob math o gybydd-dod, oherwydd er i ddyn fod uwchben ei ddigon nid ei gyfoeth fydd yn rhoi bywyd iddo.”
16Yna traethodd ddameg.
“Un tro, cafodd amaethwr cyfoethog gynhaeaf campus. 17Ac fe ddechreuodd feddwl fel hyn, ‘Beth wnaf fi, gan fod y lle’n fach i ddal yr holl gynnyrch? 18Fe wn i beth wnaf fi.’ Tynnu’r hen sguboriau i lawr, a chodi rhai mwy, a hel yr ŷd a’r cyfan i mewn iddyn nhw. 19Yna gallaf ddweud wrthyf fy hun: ‘Mae gen ti ddigon am flynyddoedd lawer. Cymer hi’n esmwyth, bwyta, ŷf a mwynha dy hun.’ 20Ond meddai Duw wrtho, ‘Y ffwl! Fe hawlir dy fywyd oddi wrthyt heno nesa, a’r pethau rwyt wedi eu paratoi, eiddo pwy fyddan nhw?’ 21Dyna hanes yr hwn sydd yn casglu iddo’i hun, ond sydd yn dlawd yng ngolwg Duw.”
22Yna ychwanegodd wrth y disgyblion, “Dyna pam rydw i’n dweud wrthych chi am beidio â phryderu am beth rydych yn ei fwyta neu beth a wisgwch amdanoch. 23Y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff yn bwysicach na’r dillad. 24Meddyliwch am y brain: dydyn nhw ddim yn hau nac yn medi, a does dim ystordy nac ysgubor ganddyn nhw, ac eto mae Duw yn eu bwydo nhw. Cymaint mwy gwerthfawr rydych chi na’r adar! 25Pwy ohonoch, er ymdrechu’n ddiwyd, a fedr dyfu fodfedd yn dalach? 26Ac os na ellwch wneud hyd yn oed peth bach felly, i beth mae eisiau poeni am y gweddill? 27Sylwch ar y lili yn tyfu: dydyn nhw ddim yn nyddu na gwau, ond rwy’n dweud wrthych chi, nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei odidowgrwydd i gyd wedi ei wisgo fel un ohonyn nhw. 28Wel, ynteu, os yw Duw’n dilladu porfa’r maes, sy’n fyw heddiw, ac yn cael ei daflu i’r tân yfory, mae e’n siŵr o ofalu am eich dilladu chi — chi sydd mor wan eich ffydd! 29Rhowch y gorau i holi beth gewch i’w fwyta a’i yfed, a pheidiwch â phryderu. 30Mae paganiaid yn ceisio’r pethau hyn i gyd. Mae’ch Tad yn gwybod fod arnoch chi angen y pethau hyn. 31Yn unig rhowch eich bryd ar ei Deyrnasiad ef, ac fe ddaw’r pethau hyn yn ychwanegol i chi. 32Braidd bychan, paid ag ofni! Dymuniad eich Tad yw rhoddi’r Deyrnasiad ichi. 33Gwerthwch eich eiddo, a rhoddwch i’r tlawd. Darperwch i chi eich hunain byrsau na fyddan yn treulio a chyfoeth diddarfod yn y nefoedd, pell o gyrraedd lleidr a gwyfyn. 34Oherwydd lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
Cyfrifoldeb y disgyblion i fod yn wyliadwrus
35“Byddwch wedi’ch gwisgo yn barod bob amser, a’ch lampau’n olau, 36a byddwch fel rhai’n disgwyl eu meistr o’r wledd briodas, er mwyn cael agor iddo ar unwaith pan ddaw a churo. 37Mor ddedwydd yw hi ar y gweision hynny fydd ar eu gwyliadwriaeth pan ddaw eu meistr. Yn wir, fe rydd ffedog o’i flaen a gwneud iddyn nhw eistedd wrth y bwrdd a bwyta, ac ef ei hun yn gweini arnyn nhw. 38Ac os daw cyn hanner nos neu yn y bore bach a’u cael yn para i ddisgwyl, gwyn eu byd. 39Gellwch fod yn sicr o hyn — pe gwyddai gŵr y tŷ pa bryd y deuai’r lleidr, ni adawsai iddo dorri i mewn i’w dŷ. 40Byddwch chithau hefyd yn barod, oherwydd fe ddaw Mab y Dyn pan na fyddwch chi’n ei ddisgwyl.”
41Gofynnodd Pedr iddo, “Arglwydd, ai dameg i ni yw hon, neu i bawb?”
42Ac meddai’r Arglwydd, “Pwy yw’r swyddog synhwyrol a ffyddlon y rhydd y meistr ei weision yn ei ofal, a gofalu am eu lluniaeth yn rheolaidd? 43Dedwydd iawn yw’r gwas hwnnw y daw ei feistr o hyd iddo, pan ddychwelo, yn gwneud hyn. 44Rwy’n dweud yn bendant, fe rydd iddo awdurdod dros ei holl eiddo. 45Ond bwriwch bod y gwas hwnnw’n dweud wrtho’i hun, ‘Y mae fy meistr yn cymryd ei amser’; a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a gloddesta ac yfed a meddwi. 46Fe ddaw meistr y gwas hwnnw adref ar ddiwrnod hollol annisgwyl, ac ar awr ddiarwybod iddo, a’i dorri’n ddarnau, a dwyn arno dynged pobl anffyddlon. 47Y gwas hwnnw a gafodd wybod dymuniad ei Arglwydd, ond heb baratoi dim na gwneud ei ddymuniad, fe’i curir yn llym. 48Ond yr hwn ni wyddai hynny, er iddo wneud drwg, yn ysgafnach y curir ef. Disgwylir llawer oddi wrth yr hwn a dderbyniodd lawer, a pho fwyaf a ymddiriedwyd i ddyn, mwyaf yn y byd fydd ei gyfrifoldeb.
Proffwydo erledigaeth
49“Deuthum i roddi’r ddaear ar dân, a gresyn na fyddai wedi ei gynnau eisoes! 50Y mae gennyf fedydd i’w dderbyn ac mor gaeth wyf hyd onid êl heibio! 51Ydych chi’n credu fy mod wedi dod i sefydlu heddwch ar y ddaear? Naddo’n wir, ond ymraniad. 52O hyn allan, bydd pump yn yr un tŷ ym mhennau’i gilydd, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri. 53Fel hyn mae hi i fod, y tad yn erbyn y mab a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch a’r ferch yn erbyn y fam, y fam-yng-nghyfraith yn erbyn ei merch-yng-nghyfraith, a’r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.”
Dod i berthynas gywir â Duw
54Dywedodd hefyd wrth y bobl, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr hyn a ddywedwch ar unwaith yw, ‘Mi ddaw’n gawod,’ ac fe ddaw. 55A phan chwyth y gwynt o’r De fe fyddwch chi’n proffwydo tywydd poeth, ac felly y bydd. 56Ragrithwyr! Onid ydych yn gallu deall arwyddion y ddaear a’r awyr, ond heb ddeall yr amser presennol? 57A pham na ellwch benderfynu drosoch eich hun beth sy’n gywir? 58Er enghraifft, pan ei o flaen yr ynadon gyda’th wrthwynebydd, ceisia ddod i delerau ag ef mewn pryd y tu allan i’r llys, rhag iddo dy lusgo o flaen y barnwr, ac i hwnnw dy drosglwyddo i law’r heddwas, ac i hwnnw drachefn dy daflu i’r carchar. 59Rwy’n dy sicrhau na chei ddod allan oddi yno heb dalu’r hatling olaf.”
اکنون انتخاب شده:
Luc 12: FfN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: