Luc 14

14
Iacháu’r dropsi ar y Dydd Gorffwys
1Ar Ddydd Gorffwys, aeth am fwyd i dŷ un o’r Phariseaid amlycaf, ac roedd pawb yn craffu arno. 2O’i flaen roedd gŵr yn dioddef o’r dropsi. 3Arweiniodd hyn yr Iesu i holi athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid, “A yw’n iawn imi iacháu ar y Dydd Gorffwys ai peidio?”
4Ond ni chafwyd ateb. A chymerodd y dyn a’i iacháu, ac yna ei anfon ymaith. 5A chan droi atyn nhwythau, gofynnodd, “Pan fydd asyn neu ych rhywun ohonoch yn syrthio i ffynnon ar y dydd hwn, onid ei dynnu allan y byddwch, Dydd Gorffwys neu beidio?”
6Ond doedd ganddyn nhw ddim ateb i hyn.
Gwers mewn gwyleidd-dra
7Sylwodd fel roedd y rhai a wahoddwyd yn anelu am y seddau gorau, a dywedodd ddameg wrthyn nhw, 8“Pan wahoddir chi gan rywun i wledd briodas, gofelwch beidio ag eistedd yn y lle gorau, rhag ofn bod rhywun enwocach na chi wedi ei wahodd, 9ac i’r hwn a’ch gwahoddodd chi ac yntau ddod a dweud wrthych, ‘Ef sydd i fod yn y sedd yna.’ Fe fyddwch yn cywilyddio wrth orfod symud i’r gwaelod. 10Na, pan wahoddir chi, eisteddwch yn y sedd olaf, fel pan ddaw yr hwn a’ch gwahoddodd, y gall ef ddweud, ‘Gyfaill hoff, symud i fyny.’ Daw hyn ag anrhydedd i chi yng ngolwg pawb o’ch cyd-wahoddedigion. 11Oherwydd caiff pob un a’i dyrchafo’i hun ei ostwng, a’r sawl a’i gostyngo ei hun ei ddyrchafu.”
12Dywedodd hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi’n trefnu cinio neu swper mawr, paid â gwahodd dy ffrindiau neu dy frodyr, neu ryw deulu neu gymdogion ariannog, rhag iddyn nhw dalu iti drwy dy wahodd yn ôl. 13Gwell o lawer yw gwahodd y tlodion, yr anafus, y cloffion a’r deillion, pan fyddi di’n rhoi parti. 14Byddi’n fwy dedwydd o’r hanner, am na allan nhw dy dalu di’n ôl. Telir yn ôl i ti yn yr Atgyfodiad, gyda’r dynion da.”
Dameg y Swper Mawr
15Wedi gwrando hyn i gyd, meddai un o’r gwahoddedigion wrtho, “Dedwydd yw y sawl a gaiff wledda yn nheyrnas Dduw!”
16Atebodd yr Iesu, “Un tro, trefnodd rhyw ddyn swper mawr, a gwahodd llaweroedd yno. 17A phan ddaeth yn amser, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai a wahoddwyd, ‘Dewch, mae popeth yn barod.’ 18Ond yn ddi-eithriad, dyma nhw’n dechrau ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf, ‘Prynais gae, a rhaid imi fynd i gael golwg arno. Esgusoda fi, os gweli’n dda.’ 19Meddai’r ail, ‘Prynais bum pâr o ychen, a rhaid imi eu gweld yn gweithio. Esgusoda fi, os gweli’n dda.’ 20A rheswm y trydydd oedd, ‘Rydw i newydd briodi, ac felly mae’n amhosibl i mi ddod.’ 21Daeth y gwas yn ôl â’r negeseuau at ei feistr. Digiodd yntau wrthyn nhw, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos ar d’union ar hyd y strydoedd a ffyrdd y ddinas, a hel i mewn yma y tlodion, a’r anafus a’r deillion a’r cloffion.’ 22Dywedodd y gwas wrtho, ‘Arglwydd, gwnes fel y dywedaist. Ac mae digon o le ar ôl o hyd.’ 23Ac meddai’i feistr, ‘Dos, ynteu, a galw nhw o’r priffyrdd a’r caeau a gorfoda nhw i ddod i mewn, imi gael y tŷ yn llawn. 24Oherwydd mae un peth yn sicr, na chaiff yr un o’r rhai a wahoddwyd gyntaf brofi fy ngwledd.’”
Y gost o fod yn ddisgybl
25Dilynid yr Iesu gan dorfeydd mawr. Trodd atyn nhw a dweud, 26“Os daw rhywun ataf, ac yntau heb fod yn barod i gasáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant neu ei frodyr a’i chwiorydd, a’i fywyd ei hun hyd yn oed, ni all fod yn ddisgybl i mi. 27Y sawl nid yw yn fodlon dwyn ei groes a’m dilyn i, ni all fod yn ddisgybl i mi.
28“A bod gennych awydd codi tŵr, onid ydych yn eistedd yng nghyntaf peth a gweithio allan y gost, i edrych a oes gobaith ei orffen? 29Rhag ofn ichi, wedi gorfod ei roddi heibio ar ôl gosod y sylfeini, fynd yn gyff gwawd i bawb, 30ac iddyn nhw ddweud, ‘Dyma’r dyn ddechreuodd adeiladu tŵr, a methu gorffen y gwaith!’
31“Neu pa frenin a feddyliai am wynebu un arall mewn rhyfel heb ystyried yn ofalus a yw’n bosibl iddo ef, a deng mil o filwyr, wrthwynebu ei elyn y mae ganddo ugain mil? 32Ac os nad yw’n bosibl, fe enfyn neges i geisio cymodi, cyn bod y fyddin arall o fewn cyrraedd. 33Felly yn eich hanes chithau, ni all neb ohonoch fod yn ddisgyblion i mi heb ildio popeth sydd yn eich meddiant.
34“Peth da yw halen, ond os cyll yr halen ei hun ei flas, pa fodd mae ei adfer? 35Nid yw dda i ddim, nac i’r tir na’r domen — dim ond i’w daflu allan. Os oes clustiau gennych i wrando, gwrandewch.”

اکنون انتخاب شده:

Luc 14: FfN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید