Luc 5
5
Galw disgyblion
1Un tro, pan oedd yn sefyll gerllaw llyn Gennesaret, a’r dyrfa yn pwyso arno er mwyn clywed gair Duw, 2sylwodd ar ddau gwch pysgota ar y traeth; roedd y pysgotwyr wedi glanio, ac yn golchi eu rhwydau. 3Aeth i mewn i un ohonyn nhw, cwch Simon, gan ofyn iddo’i wthio ychydig oddi wrth y tir. Yna fe eisteddodd, a mynd ymlaen â’r gwaith o ddysgu’r bobl, o’r cwch.
4Wedi darfod, meddai wrth Simon, “Gwthia allan i ddŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau i gael dalfa dda.”
5“Feistr,” atebodd Simon, “buom wrthi’n galed drwy’r nos, a heb ddal dim un! Ond, os wyt ti’n dweud, fe ollyngaf y rhwydau i lawr.”
6Ac wedi iddyn nhw wneud hynny, dyna ddal llaweroedd o bysgod, nes i’r rhwydau ddechrau torri. 7Felly dyma nhw’n galw eu cyfeillion o’r cwch arall i ddod i’w helpu. Pan ddaethon nhw, llanwyd y ddau gwch nes roedden nhw bron â suddo. 8Pan welodd Simon Pedr hyn i gyd, syrthiodd wrth liniau’r Iesu gan ddweud, “Cadw draw oddi wrthyf. Dyn drwg ydw i, Arglwydd.”
9Roedd ef a phawb arall gydag ef wedi rhyfeddu wrth weld y fath ddalfa o bysgod. 10A’r un modd ei bartneriaid hefyd, Iago ac Ioan, meibion Sebedeus.
“Paid ag ofni,” meddai’r Iesu wrth Simon, “o hyn allan, dal dynion y byddi.”
11Cyn gynted ag y caed y cychod i’r lan, dyna nhw’n gadael y cyfan, a dilyn Iesu.
Iacháu gwahanglwyfus
12Dro arall, pan oedd mewn rhyw ddinas, daeth o hyd i ddyn oedd yn wahanglwyfus drosto i gyd. Pan welodd y dyn yr Iesu, syrthiodd ar ei wyneb, gan erfyn ei gymorth, “Syr, os wyt ti’n dewis, fe elli di fy ngwella i.”
13Dyma’r Iesu yn estyn ei law, yn cyffwrdd ag ef, ac yn dweud, “Rydw i’n dewis. Bydd yn iach.”
Ac ar unwaith aeth y gwahanglwyf oddi wrtho. 14Rhybuddiodd yr Iesu ef i beidio â sôn gair am y peth wrth neb. “Ond dos,” meddai, “dangos dy hun i’r offeiriad ac offryma dros dy lanhad, yn ôl gorchymyn Moses, i brofi dy fod yn iach.”
15Ond dal i fynd ar gynnydd roedd y siarad amdano. Deuai tyrfaoedd i’w glywed, ac i gael eu hiacháu ganddo o’u hafiechydon. 16Ond bob cyfle posibl, ciliai ef i leoedd unig i weddïo.
Iacháu’r dyn a barlyswyd
17Un diwrnod, pan oedd wrthi’n dysgu, eisteddai Phariseaid ac athrawon y Gyfraith yn gwrando arno, rhai wedi dod o bob pentref yng Ngalilea, Jwdea a Jerwsalem. Ac roedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iacháu. 18A dyma ryw bobl yn dod yn cludo dyn wedi ei barlysu yn gorwedd ar wely. Roedden nhw’n ceisio dwyn y dyn i mewn, a’i osod o flaen yr Iesu. 19Oherwydd maint y dyrfa, fe fethson nhw gael ffordd i mewn, felly, dyma nhw’n dringo ar do’r tŷ, a’i ollwng i lawr ar y gwely drwy’r llechi i’r canol o flaen yr Iesu. 20Pan welodd ef eu ffydd nhw, meddai wrth y dyn, “Gyfaill, mae dy bechodau wedi eu maddau.”
21“Pwy yw hwn sy’n cablu fel hyn?” gofynnodd athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid iddyn nhw’u hunain. “Pwy ond Duw yn unig sydd â hawl i faddau pechodau?”
22Fe wyddai’r Iesu beth oedd yn eu meddyliau, ac atebodd ar ei union, “Pam rych chi’n meddwl yn y ffordd yna? 23P’un sy hawsaf, dweud, ‘Mae dy bechodau di wedi eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a cherdda’? 24Ond er mwyn i chi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau,” meddai wrth y dyn a barlyswyd, “Rydw i’n dweud wrthyt, saf ar dy draed, cod dy wely a dos adref.”
25Fe gododd y dyn ar unwaith o’u blaenau, a chan afael yn y gwely y bu’n gorwedd arno, aeth adref dan ganmol Duw. 26Roedd pawb wedi’u syfrdanu, ac yn moli Duw gan ddweud yn llawn dychryn, “Fe welsom bethau rhyfedd heddiw!”
Galw Lefi
27Ar ôl hyn, aeth allan, a gwelodd gasglwr trethi o’r enw Lefi yn eistedd yn swyddfa’r dreth. Ac meddai wrtho, “Dilyn fi.”
28A dyna Lefi (sef Mathew) yn gadael y cyfan, yn codi, a’i ganlyn.
29Wedyn, fe drefnodd Lefi wledd fawr yn ei dŷ iddo, ac roedd nifer da o gasglwyr trethi ac eraill yn eistedd gyda nhw wrth y bwrdd. 30Ond cwynai’r Phariseaid ac athrawon y Gyfraith wrth ei ddisgyblion, “Pam rydych chi’n bwyta ac yfed gyda chasglwyr trethi a throseddwyr?”
31Ateb yr Iesu oedd, “Nid ar bobl iach mae angen meddyg, ond ar bobl afiach. 32Dod wnes i i wahodd troseddwyr, nid y ‘cyfiawn’ i newid eu ffordd o fyw.”
Ynglŷn ag ympryd, a dulliau newydd
33Medden nhw wrtho wedyn, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio llawer ac yn gweddïo, ond mae dy rai di yn bwyta ac yn yfed.”
34Atebodd yr Iesu, “A all ffrindiau’r priodfab ymprydio tra mae’r priodfab gyda nhw? 35Fe ddaw dydd pan ddygir y priodfab oddi arnyn nhw, dyna fydd yr amser iddyn nhw ymprydio.”
36Ac ychwanegodd ddameg, “Fydd neb yn cymryd darn o gôt newydd i drwsio hen un. Petai’n gwneud, fe fyddai wedi rhwygo’r un newydd, ac ni fyddai’r darn newydd yn cydweddu â’r hen.
37“Nid yw neb chwaith yn arllwys gwin newydd i hen boteli crwyn. Os gwna, fe rwyga’r gwin newydd y poteli, a dyma’r gwin wedi ei golli a’r poteli wedi eu difetha. 38Rhaid arllwys gwin newydd i boteli newydd. 39A does neb yn gofyn am win newydd wedi iddo yfed hen win, ond mae’n dweud, ‘mae’r hen yn ardderchog.’ ”
انتخاب شده:
Luc 5: FfN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Ffa.png&w=128&q=75)
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971