Luc 6
6
Ynglŷn â pharchu’r Dydd Gorffwys
1Ar y Dydd Gorffwys, roedd yr Iesu yn mynd drwy’r meysydd ŷd, ac roedd ei ddisgyblion yn tynnu’r tywysennau, yna’n eu rhwbio â’u dwylo, a’u bwyta. 2Gofynnodd rhai o’r Phariseaid, “Pam y gwnewch yr hyn mae’r Ysgrythur yn ei wahardd ar y Dydd Gorffwys?”
3Atebodd yr Iesu, “Ddarllensoch chi ddim beth wnaeth Dafydd a’i gymdeithion pan oedd arnyn nhw eisiau bwyd? 4Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta o’r bara cysegredig a’i roi i’r rhai oedd gydag ef, er na ddylai neb ond yr offeiriaid yn unig ei fwyta?”
5Yna ychwanegodd, “Mae Mab y Dyn yn Arglwydd, felly, hyd yn oed ar y Dydd Gorffwys.”
6Ar Ddydd Gorffwys arall, aeth i mewn i’r synagog i ddysgu, ac roedd yno ddyn â’i law dde wedi gwywo. 7Roedd athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid â’u llygaid arno i weld a fyddai yn ei wella ar y Dydd Gorffwys, er mwyn dod â chyhuddiad yn ei erbyn. 8Ond fe wyddai beth oedd yn eu meddyliau, a dywedodd wrth y dyn â’i law wedi gwywo, “Cod, a saf yn y canol.”
Cododd y dyn a safodd. 9Gofynnodd yr Iesu iddyn nhw, “Gadewch i minnau ofyn rhywbeth i chithau. Beth ddylid ei wneud ar y Dydd Gorffwys, da neu ddrwg, achub bywyd neu ei ddifetha?”
10Wedi edrych o amgylch arnyn nhw i gyd, dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” A phan wnaeth, daeth ei grym yn ôl. 11Ond roedden nhw wedi cynddeiriogi, ac yn trafod â’i gilydd beth fedren nhw ei wneud i’r Iesu.
Apostolion
12Tua’r un adeg oedd hi pan weddïodd Iesu drwy’r nos ar Dduw ar y mynydd. 13Pan ddaeth yn ddydd, galwodd ei ddisgyblion ato, a dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw, y rhai a alwodd yn apostolion — 14Simon (a alwodd hefyd yn Pedr), Andreas ei frawd, Iago ac Ioan, Philip, Bartholomeus, 15Mathew (neu Lefi), Thomas, Iago mab Alffeus, Simon y Selot, 16Jwdas mab Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn a drodd yn fradwr.
Yr Iesu’n dysgu
17Wedi dod i lawr gyda nhw, safodd ar lecyn gwastad. Yno hefyd roedd torf fawr o’i ddisgyblion, a llaweroedd o bobl o bobman yn Jwdea ac o Jerwsalem, a gwlad glan môr Tyrus a Sidon, 18wedi dod i’w wrando, ac i gael iachâd o’u clefydau. Iacheid y rhai a ddioddefai oddi wrth ysbrydion aflan; 19ac roedd pawb yn awyddus i’w gyffwrdd, am fod nerth yn mynd allan ohono, ac yn iacháu pawb.
20Gan syllu ar ei ddisgyblion, dywedodd,
“Mor ddedwydd ydych chi sydd yn dlawd, chi biau teyrnas Dduw.
21“Mor ddedwydd ydych chi sydd yn newynu yn awr, fe gewch chi eich bodloni.
“Mor ddedwydd ydych chi sy’n wylo’n awr. Fe fyddwch chi’n chwerthin.
22“Mor ddedwydd ydych pan fyddoch yn gas gan ddynion, a phan fyddon yn eich osgoi a’ch sarhau, a rhoi ichi enw drwg am ichi fod yn ffyddlon i Fab y Dyn. 23Pan ddigwydd hynny, byddwch ddiolchgar a neidiwch gan lawenydd; bydd eich gwobr yn fawr yn y nefoedd. Felly’n hollol y triniodd eu tadau y proffwydi.
24“Ond druain ohonoch chi’r rhai cyfoethog, fe gawsoch bob cysur a fydd ichi.
25“Mor druenus ydych chi sydd uwchben eich digon nawr; fe ddaw newyn.
Chithau’r rhai a chwardd yn awr, fe wylwch a galaru.
26“Mor druenus ydych chi pan fydd pawb yn eich canmol: dyna a wnaeth eu tadau hefyd â’r ffug-broffwydi.”
Cariad at Elyn
27Dywedaf wrth bob un sydd yn gwrando, “Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai sy’n eich casáu, 28bendithiwch y sawl sy’n eich rhegi, a gweddïwch dros bob un sydd yn eich cam-drin.
29“Os tery dyn di ar dy foch, cynnig y llall iddo hefyd! Os cymer dy siaced, na wrthod dy grys iddo chwaith. 30Dyro i bawb fydd yn ceisio gennyt. A phan gymer dyn yr hyn sydd yn eiddo iti, paid â gofyn amdano’n ôl.
31“Gwnewch chithau i eraill bopeth y dymunech i eraill ei wneud i chi. 32Os cerwch yn unig y rhai sy’n eich caru chi, pa glod sydd i chi yn hynny? Mae hyd yn oed y troseddwyr yn gwneud hynny. 33Os gwnewch dda yn unig i’r rhai a fydd yn dda wrthych chithau, pa glod sydd i chi yn hynny? Mae hyd yn oed troseddwyr yn ymddwyn cystal â hynny. 34Ac os rhoddwch fenthyg yn unig i’r rhai a’i tâl yn ôl ichi, pa glod sydd i chi yn hynny? Y mae’r troseddwyr yn rhoi benthyg i’w gilydd, er mwyn cael y cyfan yn ôl. 35Na, cerwch eich gelynion a gwnewch dda, a rhoddwch fenthyg, heb ddisgwyl dim ad-daliad. Bydd eich gwobr yn fawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig i’r rhai anniolchgar a drwg. 36Byddwch yn drugarog, fel y mae eich Tad yn drugarog.”
Barnu eraill
37“Peidiwch â barnu pobl eraill, ac ni’ch bernir chithau. Peidiwch â chondemnio, ac ni’ch condemnir chithau. Maddeuwch, ac fe gewch faddeuant. 38Rhoddwch, ac fe dderbyniwch — fe dywalltan nhw i’ch arffed fesur hael, wedi ei bwyso i lawr, wedi ei ysgwyd yn dda, ac yn rhedeg drosodd. Fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain.”
39Dywedodd hefyd ddameg wrthyn nhw, “A all dyn dall arwain dyn dall? Onid syrthio i’r ffos fydd hanes y ddau? 40Nid yw’r disgybl yn rhagori ar ei athro, ond bydd yn debyg iddo wedi iddo gael hyfforddiant llawn.
41“Pam rwyt ti’n gweld y smotyn sy yn llygad dy frawd, a heb hyd yn oed sylwi ar yr ystyllen yn dy lygad dy hun? 42Neu pam rwyt ti’n dweud wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r smotyn yna o’th lygad di,’ a thithau heb weld yr ystyllen yn dy lygad dy hun? Y rhagrithiwr! Tyn yr ystyllen o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna fe weli’n well i dynnu’r smotyn o lygad dy frawd.
Coeden a’i ffrwyth
43“All pren da ddim rhoi ffrwyth afiach, na phren afiach roi ffrwyth da. 44Wrth ei ffrwyth ei hun y bydd dynion yn adnabod pob pren. Ni chesglir byth ffigys oddi ar ddrain, na grawnwin oddi ar fieri! 45O’r daioni a drysorodd yn ei galon, mae dyn da yn dod â daioni i’r amlwg, a’r dyn drwg ddrygau o stôr ei galon ddrwg yntau. Nid yw geiriau yn ddim ond mynegiant o’r hyn sydd yn y galon.
Y ddau sylfaen
46“Pa ddiben sydd mewn galw arnaf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, a chithau’n anufudd imi? 47Mae pob un sy’n dod ataf ac yn clywed fy ngeiriau, ac yn ufuddhau i mi, 48yn debyg i ddyn yn adeiladu tŷ, ac wedi cloddio’n ddwfn i osod y sylfeini ar graig. Yna, pan ddaeth y llifeiriant, er i’r dyfroedd sgubo’n ei erbyn, ni symudodd y tŷ hwnnw, am iddo gael ei godi’n iawn. 49Ond am y dyn a glywodd heb ufuddhau, y mae fel y dyn a adeiladodd ei dŷ ar bridd heb sylfaen. Pan sgubodd y dyfroedd yn ei erbyn, datgymalodd ar unwaith, ac roedd dinistr y tŷ hwnnw’n llwyr.”
انتخاب شده:
Luc 6: FfN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Ffa.png&w=128&q=75)
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

:
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)