Luk 18
18
PENNOD XVIII.
Am y weddw daer. Y Pharisai ar publican. Dwyn plant at Ghrist. Y llywydd a fynnai ganlyn Christ, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth; ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.
1AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastadol, ac heb ddiffygio; 2Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchái ddyn. 3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. 4Ac efe ni’s gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn. 5Etto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. 6A’r Arglwydd a ddywedodd, Chwi a glywsoch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn, 7Ac oni ddïal Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dïal efe hwynt ar frys, pan ddêl Mab y dyn, os caiff efe ffydd ar y ddaear? 9Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: 10Dau ŵr a aethant i fynu i’r deml i weddïo; un yn Pharisai, a’r llall yn bublican. 11Y Pharisai a safodd wrth ei hun ag a weddïodd fel hyn; O Dduw, yr wyf yn dïolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; nag fel y publican hwn. 12Yr wyf yn unprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymmu cymmaint oll ag a feddaf. 13A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai cymmaint a chodi ei olygon tu a’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog i mi bechadur. 14Dywedaf i chwi, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn fwy nâ’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir. 15A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadêwch i’r plant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw breniniaeth Duw. 17Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio breniniaeth Duw fel plentyn, nid â efe i mewn iddi. 18A rhyw lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw da, pa beth a wnaf fel yr etifeddaf fi fywyd tragywyddol? 19A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw. 20Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam. 21Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuengctid. 22A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth etto yn ol i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion: a thi a gai drysor yn y nef: a dyred, canlyn fi. 23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn. 24A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i freniniaeth Duw! 25Canys haws yw i gable fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i freniniaeth Duw. 26A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig? 27Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd analluog i ddynion, sydd alluog i Dduw. 28A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di. 29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rïeni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn breniniaeth Duw. 30A’r ni’s derbyn lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol. 31Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy y prophwydi am Fab y dyn. 32Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a ammherchir, ac a boerir arno: 33Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a adgyfyd. 34A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd. 35A bu, ac efe yn nesâu at Iericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta: 36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynodd pa beth oedd hyn. 37A hwy a ddywedasant, Mai Iesu o Nazaret oedd yn myned heibio. 38Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 39A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 40A’r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef atto. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo, 41Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg. 42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd. 43Ac yna y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
اکنون انتخاب شده:
Luk 18: JJCN
هایلایت
به اشتراک گذاشتن
کپی
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: