Hosea 7

7
PEN. VII.—
1A mi yn troi ymaith gaethglud fy mhobl,
A mi#ac fel yr oeddwn yn. yn meddyginiaethu Israel,
Datguddiwyd anwiredd Ephraim a drygioni Samaria;
Canys gwnaethant ffalsder:#o’m blaen. Syr.
A lleidr a ddaw;
Mintai#ysbeilydd yn diosg. LXX. a ysbeilia yn yr heol.#allan.
2Ac ni#dywedont wrth eu calon. Hebr. feddyliant yn eu calon;
Fy mod#cofiais eu holl. LXX. i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt:
Yn awr eu gweithredoedd a’u hamgylchant;
Y maent#gwnaed hwynt. Vulg. gerbron fy wyneb.
3Llawenhant#freninoedd. LXX. frenin â’u drygioni:
A thywysogion â’u celwyddau.
4Y maent oll yn odinebwyr;#yn llywodraethwyr puteinllyd. Syr.
Y maent fel ffwrn wedi ei phoethi gan bobydd:
Efe a baid#deffro, dihuno. peidiodd y ddinas ychydig rhag cymysgu surdoes. Vulg. a chodi;
Rhag tylino toes nes lefeinio o hono.
5Ar ddydd ein brenin;#dyddiau eich breninoedd. LXX. breninoedd. Syr.
Clafychodd tywysogion#dechreuodd tywysogion gynddeiriogi. Vulg. LXX. o wres gan win;
Estynodd ei law gyda gwatwarwyr.
6Canys wrth gynllwyn o honynt gwnaethant eu calon agos fel ffwrn:#canys llosgwyd eu calonau hwynt fel ffwrn. LXX.
Eu pobydd a gwsg ar hyd y nos;
Y boreu y llysg fel fflam dân.
7Pawb o honynt a wresogant fel y ffwrn,
Ac a ysant eu barnwyr:
Eu holl freninoedd a gwympasant,
Heb un o honynt yn galw arnaf fi.
8Ephraim a ymgymysgodd â’r bobloedd;
Ephraim sydd fel teisen heb ei throi.
9Estroniaid a fwytasant ei gryfder:
Ac nis gŵyr efe;
Ymdaenodd penwyni ar hyd-ddo,
Ac nis gwybu efe.
10Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb;
Ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw,
Ac ni ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw;
Ac nis ceisiasant ef er hyn oll.
11A bu Ephraim;
Fel colomen ynfyd#ddifeddwl. LXX. heb galon:
Galwant#daethant, aethant. Syr. ar yr Aipht,
Ant#daethant, aethant. Syr. i Assuria.#Assuriaid. LXX., Vulg.
12Fel yr elont,
Taenaf fy rhwyd drostynt;
Tynaf hwynt i lawr fel adar yr awyr:
Ceryddaf#dysgaf. LXX. hwynt y modd y clybu eu cynulleidfa#nes y clywer eu cystudd hwynt. LXX. yn ol son eu tystiolaeth hwynt. Syr. hwynt.
13Gwae hwynt,
Canys ffoisant#llithrasant. LXX. oddiwrthyf;
Dinystr arnynt,#ofnus ydynt. LXX. anrheithir hwynt. Vulg.
O herwydd iddynt droseddu i’m herbyn:
A mi a’u gwaredais hwynt,
A hwythau a ddywedasant gelwyddau arnaf fi.
14Ac ni lefasant arnaf â’u calon,#ni lefodd eu calon arnaf LXX. a’u holl galon. Syr.
Pan gwynfanasant ar eu gwelyau;
A’m ŷd a gwin yr ymgasglasant.#y torwyd hwynt. LXX. y buont yn ymryson. Syr.
15Troisant i’m herbyn,
A minau wedi hyfforddi;
Cryfheais eu breichiau hwynt;
Ac i’m herbyn y meddyliasant ddrwg.
16[Troisant at ddim. — LXX.]
[Troisant at yr hwn nad yw ddim. — Syr.#nid at y Goruchaf. Cyf cyhoeddus. fel y byddent heb iau Vulg., Houbigant. nid yn ddidwyll. Dathe. nid i fynu. Rosenmuller]
Buost fel bwa twyllodrus;
Eu tywysogion a syrthiant trwy y cleddyf, am gynddaredd#diddysgrwydd. LXX. haerllugrwydd. Syr. eu tafod.
Hyn fydd eu gwaradwydd#ynfydrwydd. Vulg. penbleth, dyryswch. Syr. hwynt yn ngwlad yr Aifft.

انتخاب شده:

Hosea 7: PBJD

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید