Ioan 15

15
PEN. XV.
Parabl Crist am y win-wydden a’i changhenhau. 9 Am gariad perffaith. 17 Am y byd hwn. 24 Am weithredoedd Crist.
1 # 15.1-11 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Marc. Myfi yw’r wîr win-wydden, a’m Tad yw’r llafurwr.
2Pob #Math.15.13.cangen heb ddwyn ffrwyth ynofi, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phob vn a ddygo ffrwyth, efe a’i glânhâ, fel y dygo fwy o ffrwyth,
3Yn #Ioan.13.10.awr yr ydych chwi yn lân gan y gair a leferais i wrthych.
4Arhoswch ynof, a mi ynoch, fel na all cangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, [sef] onid erys yn y win-wydden, felly ni [ellwch] chwithau, onid arhoswch ynof.
5Myfi yw’r win-wydden, chwithau yw’r canghennau: yr hwn a arhoso ynof, a minne ynddo yntef, hwnnw a ddŵg ffrwyth lawer. Canys hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.
6Os #Coloss.1.23.neb nid erys ynof fi, efe a deflir allan fel cangen, ac a wywa: a [rhai] a’i casclant, ac a’i bwriant yn tân, ac a loscir.
7O’s archoswch ynof, ac os erys fyng-eiriau ynoch, #Ioan.3.22.beth bynnac a ewyllysioch gofynnwch, ac fe a’i gwneir i chwi.
8Yn hyn y gogoneddir fy Nhâd ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer: a’ch gwneuthur yn ddiscyblion i mi.
9Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais chwithau, arhoswch yn fyng-hariad.
10Os cedwch fyng-orchymynnion, chwi a arhoswch yn fyng-hariad: fel y cedwais i orchymynnion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
11Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhôso fy llawenydd ynoch, a bod eich llawenydd yn gyflawn.
12 # 15.12-16 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl S. Barnabe. # Ioan.13.34. 1.thess.4.9. Dymma fyng-orchymyn i, ar i chwi garu eu gilydd, fel y cerais chwi.
13 # 1.Ioan.3.1. Cariad mwy nâ hyn nid oes gan neb, na rhoi o vn ei einioes dros ei gyfeillion.
14Chwy chwi fyddwch fyng-hyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnac yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.
15Nid ydwyf yn eich galw yn weisiō mwy, am nas gŵyr gwâs beth y mae ei Arglwydd yn ei wneuthur, ond mi a’ch gelwais chwi’n gyfeillion, canys pob peth a’r a glywais gā fy Nhâd, a hyspysais i chwi.
16Nid chwy chwi am dewisâsoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais i fyned i ddwyn ffrwyth, a bod i’ch ffrwyth aros: a pha beth bynnac ar a ofynnoch i’r Tâd yn fy enw, efe a’i rhydd i chwi.
17 # 15.17-27 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Simon a ac Iudas. Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eu gilydd.
18Os y bŷd a’ch casâ, gŵybyddwch gashau o honaw fy fi o’ch blaen chwi.
19Pe buasech o’r byd, y byd a garase yr eiddo, eithr am nad ydych o’r byd, ond i mi eich dewis o’r byd, am hynny y mae y byd yn eich casau chwi.
20Cofiwch yr #Ioan.13.16. Math.24. & 24.9. Luc.6.40.ymadrodd a ddywedais i wrthych, nad yw gwâs yn fwy nâi arglwydd, os erlidiâsant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwâsant fyng-orchymyn i, hwy a gadwant yr eiddoch chwithau.
21Eithr #Ioan.16.4.hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.
22Oni bai ddarfod i mi ddyfod ac ymddiddan â hwynt, ni bydde arnynt bechod: ond yr awr hon nid oes ganddynt ddim i escusodi eu pechod.
23Y sawl sydd yn fyng-hasau i, sydd yn casau fy Nhâd hefyd.
24Pe buaswn heb wneuthur gweithredoedd yn eu plith hwy, y rhai ni wnaeth neb arall, ni buase arnynt bechod, ond yr awr hon, hwy a welsant, ac a’m casâsant i, a’m Tâd.
25Eithr fel y cyflawnid yr gair yr hwn sydd scrifennedic yn eu cyfraith hwynt: #Psal.35.19.hwy a’m casâsant yn ddi-achos.
26Ond pan ddêl #Luc.24.49. Ioan.14.26.y diddanwr yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, [sef] Yspryd y gwirionedd yr hwn a ddeillia oddi wrth y Tâd, hwnnw a destiolaetha o honofi.
27A chwithau hefyd a destiolaethwch, a’m eich bod o’r dechreuad gyd â mi.

انتخاب شده:

Ioan 15: BWMG1588

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید