Luc 14

14
1-35Dy Sabbath âth‑e i dy un o'r pen Ffariseied i gâl pryd o fwyd, wen‑nhwy in i watsho fe. O'i flân e we dyn â'r dropsi arno. Gwedo Iesu wrth o rhei we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied, “Odi 'ddi'n iawn o dan i gifreth i wella pobl ddy Sabbath neu beido?” Ond wedon‑nhwy ddim byd. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Os buse asyn neu ych un onoch chi in gwmpo miwn i bwll dwfwn ar ddydd Sabbath, busech‑chi'n i dinnu fe mas ar unweth, on'd busech‑chi?” Allen‑nhwy ddim ateb 'ny.
Gwedodd‑e ddameg wrth i rhei we wedi câl u gofyn i ddwâd, wrth iddo silwu bo nhwy i gyd in mynd i ishte in i llefydd gore. Gwedodd‑e wrthyn nhwy. “Pan ŷch‑chi'n câl i’ch gofyn i briodas, peidwch ishte in i llefydd gorew. Falle bo'r un sy wedi’ch gofyn chi wedi gofyn i riwun pwysicach na chi, a bydd i'r un nâth ofyn i chi’ch doun in gweu’thot ti, ‘Rho di le di i'r dyn 'ma’; a wedyn, wedi di ddrisu i gyd gei‑di'r lle dwetha. Ond pan gei‑di di ofyn i riwle, cer a ishte in i lle dwetha, fel pan ddeith i'r un sy wedi di ofyn di wedith‑e wrthot ti, ‘Ffrind, dere lan in uwch.’ Wedi gei‑di le o anrhydedd in ganol bob un sy'n ishte 'da ti; achos bydd bob un sy'n codi i unan lan in uchel in câl i dinnu lawr, a bydd bob un sy'n rhoi u hunen lawr in câl u codi lan in uchel.” Gwedodd‑e wrth i dyn we wedi holi iddo fe ddwâd ato, “Pan wit‑ti'n neud cino neu ffest, paid gofyn i di ffrindie na di frodyr na di berthnase na cimdogion cifoethog i ddod. Falle newn‑nhwy di ofyn di nôl a buset‑ti'n câl di dalu nôl. Na, pan fiddi‑di'n câl parti gofyn i'r dinion llwm, i methjedig, i cloff, i dall; a biddi‑di'n hapus, achos sdim ffordd 'da nhwy i dalu ti nôl; achos gei‑di di dalu nôl amser atgifodiad i dinion da i gyd.”
Pan gliwo un o'r rhei we'n ishte wrth i ford gidag e i geire 'ma gwedodd e wrtho, “Ma'r dyn fydd in bita in Teyrnas Dduw in ddyn hapus!” Gwedo Iesu wrtho, “We dyn i gâl we'n trefnu parti mowr a wedyn gofyn i lot fowr i ddwâd. Amser i parti halodd e i geithwas i weu‑'th i rhei we wedi cael u gofyn, ‘Dewch nawr, ma popeth in barod.’ Dachreuodd bob un onyn nhwy 'da'i gily i hala esgusodion. Gwedo'r cinta wrtho, ‘Dw‑i newy bernu parc a ma rhaid ifi fynd i weld e. Sorri mowr.’ Gwedo un arall, ‘Dw‑i newy bernu pum pâr o ichen a dw‑i ar in ffordd i weld os yw nhwy'n galler neud u gwaith in iawn. Sorri mowr.’ Gwedod un arall, ‘Dw‑i newy briodi, a 'na pam dw‑i'n ffeilu dod.’ Dâth i ceithwas a gweith i fishtir i pethe 'ma i gyd. Âth hwnnw'n grac a gweu‑’th i ceithwas, “Cer mas glou i bob styd a feidir in i dre, a dere â'r rhei llwm, i methedig, i dall a'r cloff.’ Gwedo'r ceithwas, “Mishtir, dw‑i wedi neud fel wedoch‑chi, a ma lle ar ôl o hyd.’ Gwedo'r mishtir wrth i ceithwas, “Cer mas i bob hewl a claw a fforsa'r dinion i ddwâd miwn, fel bo'n dŷ i in llawn. Dw‑i'n gweu‑’thoch chi ceith neb o'r rhei gâs u gofyn in i lle cinta gâl blasu in ffest i.’”
We crowde mowr in i ddilyn e rownd, a droiodd‑e atyn nhwy a gweu‑'thyn nhwy, “Os deith rhiwun ata a nhwy ddim in casáu u tad, mam, plant, brodyr a whiorydd, a hyd in ôd u hunen, gallan‑nhwy ddim bod in ddisgiblion i fi. Gall neb sy ddin in cario u crwes u hunen a dod ar in ôl i fod in ddisgiblion i fi. Sawl un onoch chi os busen‑nhwy in codi tŵr, fuse ddim in ishte lawr a gweitho mas faint buse fe'n costu? Rhaid ichi weld bo digon 'da chi i fennu'r gwaith, achos os busech‑chi'n rhoi'r silfen lawr a ddim in galler bennu buse bob un in wherthin ar ich penne chi, a gweud, ‘Dachreuodd hwn fildo on ffeilodd‑e fenuu.” Neu beth os buse brenin in mynd i rifel in erbyn brenin arall, fydd‑e ddin in ishte lawr in i lle cinta i weld a gall‑e 'da deg mil o ddinion fynd in erbyn dyn â ugen mil? Os nadi e'n galler mae‑e'n hala rhei at i brenin arall, â hwnnw'n bell bant o hyd, i ofyn am ffordd o gâl heddwch. In ir un ffordd in gowir, gall ddim un onoch chi fod in ddisgibl i fi os nadych in troi’ch cewn ar ich eiddo i gyd. “Ma halen in gwd thing; os os yw'r halen i unan in colli i flas, beth gallwch‑chi iwso i roi blas arno? Seno‑fe werth dim i'r tir na'r domen. Man‑nhwy in i dowlu e bant. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy!”

انتخاب شده:

Luc 14: DAFIS

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید