Luc 24

24
1-53Ar i dy Sabbath nethon‑nhwy orffwys fel ma'r gochimyn in gweud, ond ar ddwarnod cinta'r wsnoth, in ginnar iawn in i bore, dethon‑nhwy at i twm, in cario'r sbeisiys wen‑hwy wedi'u paratoi. Ffindon‑nhwy bo'r garreg wedi câl i simud o'r twm, ond pan ethon‑nhwy miwn nethon‑nhwy ddim ffindo cordd ir Arglwidd Iesu. Wen‑nhwy wrthi'n pwslo dros beth we wedi digys, pan ddâth dou ddyn miwn dillag we'n sheino a sefyll ar u pwys nhwy. We ofon ofnadw ar i mewnod a gadwon‑nhwy i wmede in drych i'r llawr, ond gwedo'r dinion wrthyn nhwy, “Pam ŷch‑chi'n whilio am ir un sy'n fyw in ganol i rhei sy'n farw? Seno‑fe 'ma; mae‑e wedi codi. Cofiwch shwt wedodd‑e wrthoch chi pan wech‑chi'n Galilea o hyd, bise Crwt i Dyn in gorffod câl i roi in dwylo dinon pechadurus, câl i groeshoelo a wedyn codi ar i tridydd dydd.” Cofion‑nhwy i eire fe, a pan ddethonnhwy nôl o'r tŵm wedon‑nhwy popeth wrth ir Un-ar-ddeg a bob un o'r lleill. Mair o Magadala, Joanna, a Mair mam Iago wen‑nhyw; a gida'r mewnod erill wedon‑nhwy bopeth wrth ir apostolion. We beth wedo'r menwod in nonses ing golwg ir apostolion a nethon‑nhwy ddim mo'u credu nhwy. Ons cododd Pedr a rheg at i tŵm, pligon‑nhwy lawr a gweld dim byd on i llienie; âth‑e gatre, wedi sinnu at beth we wedi digwydd.
We dou o'r disgiblion in mynd ar ir un dwarnod i bentre o enw Emmaus, rhyw saith milltir o Jerwsalem; a wen‑nhwy'n sharad obitu'r pethe i gyd we wedi digwydd. Pan wen‑nhwy'n sharad a'n trafod, dâth Iesu i unan in agos a mynd gida nhwy; ond we rhwbeth in u stopo nhwy i nabod e. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Beth yw'r pethe 'ma ŷch‑chi'n dadle amdanyn nhwy wrth gered?” Safon‑nhwy fan 'ny, in ishel u hisbryd. Atebo un onyn nhwy o'r enw Cleopas, “Sdim posib taw ti yw'r unig un sy wedi dwâd i Jerwsalem sy ddim in gwbod beth sy wedi digwydd 'ma in i diddie dwetha 'ma?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Beth sy wedi digwydd?” Gwedon‑nhwy wrtho, “We Iesu o Nasareth in broffwid, in neud a gweud pethe nerthol o flân Duw a'r bobol i gyd, on rhoiodd in penffeiradon ni a'n harweinwyr ni fe lan i gâl i hala i’w ladd, a'i groeshoelo e. Ond wen‑ni'n gobeitho taw fe fise'r un fidde'n dwâd â Isrel in rhydd. Ond ddim fel 'na fuodd‑i, a ar ben i cwbwl ma tri dwarnod wedi mynd 'ddar 'ny. Ond, ma rhei menwod o'n cwmni ni wedi'n sinnu ni. Ethon‑nhwy at i tŵm in ginnar; ffeilon‑nhwy ffindo'i gorff e a dethon‑nhwy nôl in gweud i bo nhwy wedi gweld angilion wedodd wrthyn nhwy i fod e'n fyw. A âth rhei o'r rhei we 'da ni at i tŵm u hunen a gweld fel we'r menwod wedi geud, ond nethon‑nhwy ddim mo'i weld e.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy. “O 'na ddinion twp ŷch‑chi! ‘Na slow ŷch‑chi i gredu bopeth nâth i proffwydi weud! Wenodd‑i'n rhaid i'r Meseia ddiodde'r pethe 'ma cyn mynd miwn i’w ogoniant e?” A dachreuodd‑e gida Moses a'r proffwydi i gyd in dangos iddyn nhwy mas o'r Isgrithurau i parte we'n sôn amdano'i unan.
Dethon nhwy'n agos i'r pentre lle wen‑nhwy'n mynd, a nâth‑e roi'r argraff bo fe'n mynd in bellach; ond nethon‑nhwy fegian arno i aros gida nhwy, “Mae'n hwyr a'r dydd bitu ddwâd i ben.” So âth‑e miwn i aros gida nhwy. Pan wedd‑e wedi ishte lawr cwmrodd e'r bara a gweud i fendith, i dori e a'i roi e iddyn nhwy. Gâs u lliged nwhy u hagor a nethon‑nhwy i nabod e; a âth‑e o'u golwg nhwy. Gwedon‑nhwy wrth i gilydd, “Wenon calonne ni'n in llosgi tu-fiwn i ni pan wedd‑e'n sharad gida ni ar i rhewl a'n ecspelino istyr ir Isgrithurau inni.?” Codon‑nhwy ar unweth a mynd nôl i Jerwsalem; fan 'ny dethon‑nhwy o hyd i'r Un-ar-ddeg a'r rhei we wedi dod atyn nhwy. Wen‑nhwy'n gweud bo'r Arglwidd wedi codi in wir, a'i fod e wedi dangos i unan i Simon. So nâth i ddou o Emmaus adel nhwy wbod beth we wedi digwydd ar ir hewl a shwt wen‑nhwy wedi'i nabod e wrth dorri'r bara.
Fel wen‑nhwy'n sharad am i pethe hyn dâth‑e i hunan a sefyll in i canol nhyw a gweud, “Heddwch i chi.” Gethon‑nhwy sindod mowr a ofon, achos wen‑nhwy'n meddwl bo nwhy'n gweld drichioleth. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pam ŷch‑chi becso gwmint? Pam ŷch‑chi'n cwestjwnnu popeth in ich meddile? Drichwch ar in inddwylo a'n drâd i; fi yw e. Teimlwch fi a drych; sdim cig a esgyrn 'da drichioleth fel ŷch‑chi'n gweld sy 'da fi.” Wedi 'do weud hyn, dangosodd ei i ddwylo a'i drâd iddyn nhwy. Ond wenyn‑nhwy'n galler credu weth, so tra wen‑nhwy'n teimlo llawenydd a sindod wedi'u cimisgu 'da i gily gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Wes rhwbeth 'da chi fita 'ma?” Rhoion nhwy bishyn o bisgodyn wedi'i gwcan iddo fe. Cwrmodd e'r pisgodyn a'i fita fe o'u blân nhwy.
Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Co beth wedes‑i wrthoch chi pan wen‑i 'da chi, pan wedes‑i fod popeth sy wedi câl i reito amdana i in Cifreth Moses, in i Proffwydi a'r Salme in gorffod dod in wir.” Wedyn agorodd‑e u meddilie nhwy i ddiall ir Isgrithure; a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Co beth ma'r Isgrithur in gweud: rhaid i'r Meseia ddiodde, a codi wrth i marw ar i tridydd dwarnod, a rhaid cihoeddi edifeirwch a maddeuant pechode in i enw e i bob cenedl, in dachre in Jerwslaem. Ŷch‑chi'n distion i'r peth 'ma. A dw‑i ar hala arnoch chi beth ma'n Dad i wedi addo; ond ma'n rhaid ichi aros in i ddinas nes ichi gâl ich gwisho â neth o lan fry.”
Nâth‑e u hebrwng nhwy mas in agos i Bethania, codi'i ddwylo lan a'u bendithio nhwy. Pan wedd‑e'n u bendithio nhwy âth‑e bant wrthyn nhwy, a châl i gario lan i'r nefodd. Nethon‑-nhwy i addoli e, a mynd nôl i Jerwslaem in llawen iawn; a halon-‑nhwy u hamser i gyd in i demel in moli Duw.

اکنون انتخاب شده:

Luc 24: DAFIS

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید