Hosea 7

7
1Wrth iacháu ohonof Israel,
Yna datguddir anwiredd Effraim,
Ac aml ddrygioni Samaria;
Canys gweithredasant gelwydd,
A daw lleidr i mewn,
Rhuthro torf oddi allan.
2Ac ni ddywedant wrthynt eu hunain
Y cofiaf eu holl ddrygioni;
Yn awr cylchynodd eu harferion hwynt,
Y maent ger bron fy wyneb.
3Â’u drygioni y llawenhânt frenin,
A thywysogion â’u haml dwyll.
4Godinebwyr ydynt oll,
Fel ffwrn wedi ei thwymo gan bobydd,
Yr hwn a baid â phrocio
O dylino toes hyd ei lefeinio.
5Ar ddydd ein brenin clafychodd tywysogion gan dwymyn gwin,
Estynnodd ei law gyda dirmygwyr.
6Canys llosgodd#7:6 Felly LXX; Heb. nesasant eu calon yn eu cynllwyn fel ffwrn,
Cysgodd eu digllonedd#7:6 Felly Syr.; Heb. pobydd drwy’r nos,
Yr oedd ef yn llosgi y bore fel fflam dân.
7Poethent oll fel ffwrn,
Ac ysent eu barnwyr;
Cwympodd eu holl frenhinoedd,
Nid oedd a alwai arnaf yn eu plith.
8Ymgymysga Effraim yntau â’r bobloedd,
Aeth Effraim yn deisen heb ei throi.
9Bwytaodd estroniaid ei nerth,
Ac ef nis gwyddai;
Ymdaenodd penwynni hefyd arno,
Ac nis gwyddai ef.
10A thystia godidowgrwydd Israel yn ei wyneb,
Ond ni ddychwelasant at Iafe eu Duw,
Ac ni cheisiasant ef er hyn oll.
11Ac yr oedd Effraim fel colomen ffôl, ddi-ddeall;
Galwasant ar yr Aifft, aethant i Asyria.
12Fel yr ânt, taenaf fy rhwyd arnynt,
Dygaf hwynt i lawr fel ehediad yr awyr;
Disgyblaf hwynt yn ol y sôn wrth eu cynulliad.
13Gwae hwynt! canys ymadawsant oddiwrthyf;
Difrod arnynt! canys troseddasant i’m herbyn.
A brynaf innau hwynt,
A hwy wedi dywedyd celwyddau arnaf?
14Ac ni waeddasant arnaf a’u calon,
Eithr udant ar eu gorweddfâu,
Ymgasglant am yd a melyswin,
Ystyfnigant i’m herbyn.
15Disgyblais innau hwynt, cryfheais eu breichiau,
Eto dychmygasant ddrwg amdanaf.
16Dychwelant, nid i fyny;
Y maent fel bwa twyllodrus.
Syrth eu tywysogion drwy’r cleddyf, gan lid eu tafod;
Dyma eu sen yng ngwlad yr Aifft.

Tällä hetkellä valittuna:

Hosea 7: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään