Ioan 3

3
1Ac yr oedd un o’r Phariseaid, Nicodemus wrth ei enw, cynghorwr gyda’r Iddewon. 2Daeth hwn ato yn y nos, a dywedodd wrtho: “Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, gan na all neb wneuthur yr arwyddion yma yr wyt ti’n eu gwneuthur, oni bydd Duw gydag ef.” 3Atebodd Iesu, a dywedodd wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni enir dyn yr eilwaith, ni all weled teyrnas Dduw.” 4Medd Nicodemus wrtho: “Pa fodd y gall dyn gael ei eni, ag yntau’n hen ŵr? A all ef fyned i mewn yn ei ôl i groth ei fam a’i eni?” 5Atebodd Iesu: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni bydd dyn wedi ei eni o ddwfr ac ysbryd, ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw. 6Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn a aned o’r ysbryd, ysbryd yw. 7Na ryfedda i mi ddywedyd wrthyt, ‘Rhaid eich geni chwi yr eilwaith.’ 8Mae’r gwynt #3:8 Neu: Mae’r ysbryd. yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei lais, ond ni wyddost o ba le y mae’n dyfod nac i ba le y mae’n myned. Felly y mae pob un a aned o’r ysbryd.” 9Atebodd Nicodemus a dywedodd wrtho: “Pa fodd y gall y pethau hyn fod?” 10Atebodd Iesu a dywedodd wrtho. “Oni wyddost ti’r pethau hyn, a thithau’n ddysgawdwr yn yr Israel? 11Ar fy ngwir, meddaf i ti, am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, â’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystio, a’n tystiolaeth ni nis derbyniwch. 12Os am bethau’r ddaear y dywedais wrthych ac ni chredwch, pa fodd os dywedaf am bethau’r nefoedd, y credwch? 13Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nefoedd ond yr hwn a ddisgynnodd o’r nefoedd, mab y dyn. 14Ac fel y dyrchafodd Moesen y sarff yn yr anialwch, felly ei ddyrchafu sydd yn rhaid i fab y dyn, 15er mwyn i bob un a gredo ynddo gael bywyd tragwyddol; 16canys cymaint y carodd Duw y byd ag y rhoes ei uniganedig fab fel na chyfrgoller neb a gredo ynddo, ond cael ohono fywyd tragwyddol; 17oherwydd ni ddanfonodd Duw y mab #3:17 Darlleniad arall: ei fab. i’r byd er mwyn barnu’r byd, ond er mwyn achub y byd drwyddo ef. 18Y neb a gredo ynddo nis bernir; y neb nid yw’n credu, y mae ef wedi ei farnu eisoes, am nad yw wedi credu yn enw uniganedig fab Duw. 19A dyma’r farn, bod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd mai drygionus oedd eu gweithredoedd. 20Canys y mae pob un sy’n gwneuthur pethau drwg yn cashau’r goleuni, ac ni ddaw at y goleuni rhag dadlennu ei weithredoedd. 21Ond daw’r hwn sy’n gwneuthur y gwir at y goleuni, fel yr amlyger ei weithredoedd mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur.”
22Ar ôl hyn aeth yr Iesu a’i ddisgyblion i dir Iwdea, ac yno y trigai gyda hwy ac y bedyddiai. 23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn ymyl Salim, am fod llawer o ddyfroedd yno, ac yr oedd cyrchu yno a bedyddio, 24canys yr oedd Ioan eto heb ei fwrw i’r carchar. 25A chyfododd dadl gan ddisgyblion Ioan gydag Iddew yng nghylch defod glanhad. 26A daethant at Ioan a dywedasant wrtho: “Rabbi, yr hwn oedd gyda thi dros Iorddonen, ac yr wyt ti wedi tystio amdano, dyma ef yn bedyddio a phawb yn dyfod ato.” 27Atebodd Ioan a dywedodd: “Ni all neb dderbyn dim heb ei fod wedi ei roddi iddo o’r nefoedd. 28Yr ydych chwi eich hunain yn dystion imi ddywedyd ‘Nid myfi yw’r Eneiniog,’ ond ‘Wedi f’anfon yr wyf o flaen hwnnw.’ 29Y priodfab yw hwnnw y mae’r briodferch ganddo, ond y mae cyfaill y priodfab sydd yn sefyll ac yn ei glywed yn llawenhau’n fawr wrth lais y priodfab. Dyna fy llawenydd i sydd yn awr yn gyflawn. 30Am hwn, rhaid iddo gynyddu, ac i minnau leihau.” 31Yr hwn sy’n dyfod oddiuchod, y mae ef uwch ben pawb.#3:31 Neu: popeth. Yr hwn sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae ac o’r ddaear y mae’n siarad. Yr hwn sy’n dyfod o’r nefoedd, y mae ef uwchben pawb.#3:31 Neu: popeth. 32Yr hyn a welodd ac a glywodd, hynny a dystia, a’i dystiolaeth ef nis derbyn neb. 33Yr hwn sy’n derbyn ei dystiolaeth ef, y mae ef yn gwarantu bod Duw yn eirwir, 34canys y mae’r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw, oherwydd nid wrth fesur y bydd yn rhoddi’r ysbryd. 35Y mae’r tad yn caru’r mab, ac wedi rhoddi popeth yn ei law. 36Yr hwn sy’n credu yn y mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo, ond am yr hwn sydd yn anghredu yn y mab, ni wêl ef fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.

Tällä hetkellä valittuna:

Ioan 3: CUG

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään

Video Ioan 3