Ioan 6

6
Porthi y pum' mil
[Mat 24:13–21; Marc 6:30–44; Luc 9:13–17]
1Wedi y pethau hyn aeth yr Iesu ymaith yn groes i Fôr Galilea, sef Tiberias#6:1 Yma 23, a 21:1. Gelwid y Môr ar ol Tiberias, y ddinas a adeiladodd Herod y Tetrarch, a'r hon a alwodd ar ol yr Amherawdwr Tiberius. Llyn Gennesaret a Môr Galilea yw yr enwau ddefnyddir yn yr Efengylau eraill, ond y mae yn debyg fod Môr Tiberias yn fwy adnabyddus pan yr ysgrifenodd Ioan, yn enwedig i ddyeithriaid.. 2A thyrfa fawr oedd yn ei ganlyn ef, canys yr oeddynt yn#6:2 yn dal sylw ar [etheôroun] A B D L Brnd.: yn gweled [eôrôn] א Δ. dal sylw ar ei arwyddion y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. 3Ond yr Iesu a aeth i fyny i'r mynydd, ac yno efe a eisteddodd gyd â'u Ddysgyblion. 4A'r Pasc, Gŵyl yr Iuddewon, oedd yn agos. 5Am hyny yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfyddodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato, ac y mae yn dywedyd wrth Philip, O ba le y gallwn#6:5 gallwn brynu [agorasômen, modd ammodol], א A B D Brnd., y prynwn [agorasomen, modd dangosol] K U. brynu bara#6:5 Llyth.: torthau., fel y bwytâo y rhai hyn? 6A hyn a ddywedodd efe, gan ei brofi ef: canys efe ei hun a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur. 7Philip a'i hatebodd ef, Gwerth dau can denarion#6:7 Gweler Mat 22:2. o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y derbynio pob un ychydig. 8Un o'i Ddysgyblion, Andreas, brawd Simon Petr, a ddywed wrtho, 9Y mae yma fachgenyn#6:9 un A; gad. א B D L Brnd., a chanddo bum torth haidd#6:9 Yma ac adn 13. Dynoda y gair hefyd yr hyn sydd is‐raddol, ac y mae yn derm o waradwydd: geilw Suetonius un yn ‘areithiwr haidd.’ Gweler 2 Br 4:42; Barn 7:13., a dau bysgodyn#6:9 Gr. opsaria. Llyth.: pethau bychain at fwyta: yr hyn a fwyteir gyd â bara. Y mae yn cyfateb yn hollol i'r gair enllyn: ond yn Nghymru caws ac ymenyn yw yr enllyn cyffredin; yn Palestina pysgod oedd y cyfryw: felly daeth y gair i ddynodi pysgod; 21:9, 10, 13.: ond beth yw y rhai hyn i gymaint? 10Yr Iesu a ddywedodd, Gwnewch i'r gwrywod orwedd i lawr#6:10 Llyth.: syrthio yn ol.. Ac yr oedd glaswellt#6:10 Chortos, yn wreiddiol, lle amgauedig, yna, lle er porthi, yna, glaswellt, porfa. lawer yn y lle. Am hyny y gwŷr a orweddasant i lawr#6:10 Llyth.: syrthio yn ol. mewn nifer ynghylch pum mil. 11Yr Iesu gan#6:11 gan hyny א A B D L Brnd. hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch#6:11 Yma ac 21:41., efe a'u rhanodd i'r#6:11 i'r Dysgyblion, a'r Dysgyblion D. Gad א A B L. rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod#6:11 Gr. opsaria. Llyth.: pethau bychain at fwyta: yr hyn a fwyteir gyd â bara. Y mae yn cyfateb yn hollol i'r gair enllyn: ond yn Nghymru caws ac ymenyn yw yr enllyn cyffredin; yn Palestina pysgod oedd y cyfryw: felly daeth y gair i ddynodi pysgod; 21:9, 10, 13. cymaint ag a fynent. 12A phan y digonwyd#6:12 Llyth.; y llanwyd. hwynt, efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Cesglwch ynghyd y darnau toredig sydd yn ngweddill, fel na choller dim. 13Am hyny hwy a'u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid#6:13 Gweler Mat 15:37. o'r darnau toredig o'r pum torth haidd, y rhai oedd dros ben i'r rhai a fwytasant#6:13 Bibrôskô, bwyta; yma yn unig yn y T.N.. 14Am hyny y dynion#6:14 Neu, y bobl. Sylwer y defnyddir andres, gwrywod, yn adnod 10, ac anthrôpoi, dynion, pobl, yma., pan welsant yr#6:14 yr arwydd א A D L Al. Tr. Diw. yr arwyddion B WH. arwydd a wnaeth yr Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Proffwyd sydd yn dyfod i'r byd#Deut 18:15–18.
Crist yn rhodio ar y mor
[Mat 14:22–36; Marc 6:45–53]
15Yr Iesu gan hyny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod hyd y nod i'w gipio#6:15 harpazô, cymmeryd trwy rym neu drais, cipio ymaith, dal gafael ar; “Yr hwn ni thybiodd bod yn ogyfuwch â Duw yn beth i'w ddal yn gyndyn,” Phil 2:6. ymaith, fel y gwnelent ef yn frenin, a#6:15 a ymneillduodd A B D L La. Tr. WH. Al. Diw.: a ffordd א Ti. ymneillduodd drachefn i'r mynydd, wrtho ei hun#6:15 Llyth.: ei hunan yn unig.. 16A phan ddaeth yr hŵyr, ei Ddysgyblion ef a aethant i waered at y môr; 17a hwy a aethant i gwch, ac yr oeddynt yn myned yn groes i'r môr i Capernäum. Ac yr#6:17 yr oedd y tywyllwch wedi eu goddiweddyd א D. Ti. oedd y cyfnos#6:17 Llyth.: Ac yr oedd y tywyllwch yn barod wedi dyfod. weithian wedi dyfod, a'r Iesu nid oedd eto#6:17 eto א B D L Brnd.: gad A. wedi dyfod atynt. 18A'r môr fel yr oedd gwynt mawr yn chwythu, oedd yn cyffroi#6:18 diegeirô, dihuno, cyfodi, cyffroi, “fel cawr o'i gwsg.” 19Gan hyny, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau#6:19 Stadion, ystad; 600 o droedfeddi Groeg, 625 o droedfeddi Rhufeinig, neu 606 o droedfeddi o'n mesur ni. Yr oedd y môr ddeugain o ystadiau o led yn y man lletaf, felly yr oedd y Dysgyblion yn mhell o'r lan., y maent yn dal sylw ar yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn dyfod yn agos at y cwch: a hwy a ofnasant. 20Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21Yr oeddynt yn ewyllysio gan hyny gymmeryd ef i'r cwch, ac yn ebrwydd yr oedd y cwch wrth y tir yr oeddynt yn myned ymaith iddo.
Dymuniadau cnawdol a gwaith ysprydol.
22Tranoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll yr ochr arall i'r môr nad oedd cwch bychan arall yno ond un#6:22 hono, i'r hon yr aethai di Ddysgyblion ef א D. E. Gad. A B L Brnd., ac nad aethai yr Iesu gyd â'i Ddysgyblion i'r cwch, ond myned o'i Ddysgyblion ymaith eu hunain: 23(er hyny daeth cychod bychain#6:23 eraill, yn ol rhai cyfieithiadau, gan gymmeryd alla, eraill, yn lle alla ond, eithr. o Tiberias, yn agos i'r fan lle y bwytasant y bara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:) 24pan welodd y dyrfa gan hyny nad yw yr Iesu yno, na'i Ddysgyblion, hwy eu hunain#6:24 hefyd gad. A B Brnd. a aethant i gychod#6:24 cychod bychain B N L; cychod A. bychain, ac a ddaethant i Capernaum, gan geisio yr Iesu. 25Ac wedi iddynt ei gael ef yr ochr arall i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych yn fy ngheisio i, nid oblegyd i chwi weled arwyddion, eithr oblegyd i chwi fwyta o'r torthau, a'ch digoni#6:26 Chortazô, porthi, yn enwedig âg esborth anifeiliaid. Awgryma y gair nad oeddynt wedi codi yn uwch na'r anifail. Nid oeddynt wedi gweled yr arwydd yn y bara, ond yn unig y bara yn yr arwydd.. 27Ymegniwch#6:27 ergazomai, gweithio, enill trwy weithio, llafurio. Y mae gweithgarwch a chael meddiant yn ddwy elfen amlwg yn nefnyddiad y gair. Golyga ymdrafferthiad difrifol., nid am y bwyd sydd yn darfod, ond am y bwyd sydd yn parhâu i fywyd tragywyddol, yr hwn a ddyry Mab y Dyn i chwi: canys hwn a seliodd y Tâd, sef Duw. 28Dywedasant gan hyny wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw#6:28 gweithredoedd a ofynir gan Dduw.? 29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, fel y credoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30Dywedasant gan hyny wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti gan hyny yn ei wneuthur, fel y gwelom ac y credom i ti? Pa beth yr wyt ti yn ei weithredu#6:30 Neu, yn ymegnio yn ei gylch. Cymmerant i fyny y gair a ddefnyddiodd efe, gan awgrymu fod ganddo yntau ei waith? 31Ein Tadau a fwytasant y manna#6:31 O'r Heb man, bod yn garedig, haelionus; felly dynoda manna, rhodd. yn yr Anialwch#Ex 16:1–36, fel y mae yn ysgrifenedig,
Bara allan o'r Nefoedd a roddodd efe iddynt i fwyta.#Salm 78:24, LXX.
32Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi y Bara allan o'r Nef, ond fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y Bara allan o'r Nef, y Gwir Fara. 33Canys bara Duw yw yr hwn sydd yn dyfod i waered o'r Nef, ac yn rhoddi bywyd i'r byd.
Y Gwir Fara a bywyd tragywyddol.
34Am hyny hwy a ddywedasant wrtho, Syr#6:34 Llyth.: Arglwydd, Dyro i ni yn wastadol y Bara hwn. 35Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw Bara Bywyd: Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna ddim; a'r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda ddim un amser. 36Eithr dywedais wrthych, eich bod yn wir wedi fy ngweled#6:36 yn gwneuthur arwyddion, &c. i, ac ni chredwch. 37Yr hyn oll y mae y Tâd yn ei roddi i mi, a gyrhaedda#6:37 Dynoda êkô, y canlyniad, (cyrhaedd) ac erchomai, y weithred, o ddyfod at Grist. ataf fi; a'r hwn sydd yn dyfod#6:37 Dynoda êkô, y canlyniad, (cyrhaedd) ac erchomai, y weithred, o ddyfod at Grist. ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. 38Canys yr ydwyf wedi dyfod i waered o'r#6:38 apo, (o, oddiwrth) A B L T; ek א D.#6:38 “Dynoda apo, ‘o'r Nef,’ aberth; ek, ‘allan o'r Nef,’ Ddwyfoldeb,” Nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i. 39A hyn yw ewyllys yr#6:39 y Tâd E. Gad. A B D L Brnd. hwn a'm hanfonodd i: Fod yr oll y mae efe wedi ei roddi i mi, na chollwn ddim o hono, eithr bod i mi ei adgyfodi y Dydd Diweddaf. 40Canys#6:40 Canys א A B C D; Ac E. Y mae cysylltiad agos rhwng y ddwy adnod. hyn yw ewyllys fy#6:40 fy Nhâd א B C D Brnd.; yr hwn a'm hanfonodd i A (o 39). Nhâd: cael i bob un sydd yn gweled#6:40 theôreô, dal sylw ar, craffu yn ddifrifol. y Mab, ac yn credu ynddo, fywyd tragywyddol: a bod i mi ei adgyfodi ef y Dydd Diweddaf. 41Yr oedd yr Iuddewon gan hyny yn grwgnach am dano ef#6:41 Neu, am hyn., o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw y Bara yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef, 42ac a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu, mab Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? Pa fodd yr#6:42 yr awrhon [nun] B C T Tr. Al. WH. Diw.; gan hyny [oun] א A D. awrhon y mae efe yn dywedyd, Yr wyf fi wedi dyfod i waered o'r Nef? 43Yr Iesu a atebodd ac#6:43 gan hyny א A D: gad. B C L T. a ddywedodd wrthynt, Na rwgnachwch wrth#6:43 gyd â. eich gilydd. 44Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei at‐dynu#6:44 elkuô, tynu, yna, tynu drwy allu moesol a nerth mewnol, cymhell, at‐dynu. Golyga surô, llusgo, neu ddwyn trwy rym, megys troseddwyr o flaen barnwyr (Act 8:3; 14:19; 17:6). Defnyddir elkuô gyd â'r un ystyr, ond nid yw yr elfen orfodol, o angenrheidrwydd, yn perthyn iddo, “Os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, mi a dynaf [at‐dynaf] bawb ataf fy hun,” Mewn ystyr foesol, golyga at‐dynu. “Am hyny tynais di [elkusa se, LXX.] â thrugaredd” Jer 31:3. ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf. 45Y mae yn ysgrifenedig yn y Proffwydi#6:45 Dosrenid yr Hen Destament i dair rhan. Y Gyfraith, Yr Hagiographa (‘Ysgrifeniadau Sanctaidd,’ megys, Y Salmau, &c.) a'r Proffwydi.
A phawb a fyddant ysgolheigion Duw#6:45 Llyth.; rai addysgedig Duw [diaktoi theou]. Y mae yr ymadrodd yn dangos eu perthynas â Duw, y y dyddordeb a deimla ynddynt, a'r wybodaeth a gyfrana iddynt. Gweler 1 Thess 4:9.#Es 54:13.
Pob un#6:45 gan hyny A. Gad. א B C D L S T. a glywodd oddi wrth y Tâd, ac a ddysgodd#6:45 Neu, a glywodd ac a ddysgodd oddiwrth y Tâd. Y mae y ddwy ferf yn yr amser anmhenodol (aorist), ac felly yn arddangos y clywed a'r dysgu fel dygwyddiadau sengl, yn cyfateb i alwad a dadguddiad penodol. Y mae y credadyn yn gweled ac yn dysgu ar unwaith fod y dadguddiad yn Ddwyfol, er mai yn raddol y dealla ei lawn gynwysiad. Felly gellir helaethu yr aorist i'r perffaith, “Pob un sydd wedi clywed,” &c., ac hyd y nod i'r presenol, “Yr hwn sydd yn clywed,” &c. Dalier sylw, felly, ar ystwythder a grym yr amser anmhenodol hwn yn y Groeg., sydd yn dyfod ataf fi. 46Nid am fod neb wedi gweled y Tâd, oddi eithr yr hwn sydd oddi wrth#6:46 Golyga para, gyd â, ac hefyd oddi wrth. Dynoda yma berthynas yn hytrach na chenadwri, fel mab wedi deilliaw oddi wrth dâd. Dduw, hwnw sydd wedi gweled y#6:46 y Tâd A B C Brnd. ond Ti. Duw א D Ti. Tâd. 47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu#6:47 ynof fi A C D [Al.] [Tr.] La. Gad. א B L Ti. WH. Diw., y mae ganddo fywyd tragywyddol. 48Myfi yw Bara y Bywyd. 49Eich Tadau a fwytasant y manna yn yr Anialwch, ac fuont feirw#Num 26:63–65: hwn yw y Bara sydd yn dyfod i waered o'r Nef#6:49 Neu, Y Bara sydd yn dyfod i waered o'r Nef yw hwn, [neu, y fath] fel, &c., 50fel y bwytâo unrhyw un o hono, ac na byddo marw. 51Myfi yw y Bara Bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o'r Nef: os bwyty neb o'r Bara#6:51 Bara hwn B C D Brnd. ond Ti.; fy Mara א Ti. hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A'r Bara a roddaf fi, fy nghnawd#6:51 Gwahaniaetha Crist rhwng ei gnawd a'i gorff. Nid oes yma unrhyw gyfeiriad at y Swper ac effeithiau tybiedig cyfranogiad o'r bara a'r gwin, ond at ei ymgnawdoliad a'i waith iawnol yn marw dros bechodau y byd. Defnyddia sôma, corff, am y Swper, ac nid sarx, cnawd. Dynoda yr olaf y natur ddynol yn ei chyfanrwydd. i ydyw#6:51 yr hwn a roddaf Γ Δ; dros fywyd y byd yw fy nghnawd א Ti.; Fel yn y Testyn, B C D L Brnd. ond Ti., dros fywyd y byd.
Gwaith iawnol Crist.
52Yr Iuddewon gan hyny a ymrysonasant#6:52 Llyth.; ymladdasant. â'u gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i'w fwyta? 53Yr Iesu gan hyny a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytêwch gnawd Mab y Dyn, ac oni yfwch ei waed ef#6:53 Yma yn unig y cawn yr ymadrodd yn y T. N. Bu Crist fyw a marw drosom. Y mae ‘bwyta ei gnawd’ yn cynyrchu tebygolrwydd i'w fywyd ymgnawdoledig, ac y mae ‘yfed ei waed’ yn dynodi cymmeryd meddiant o'r bendithion a lifant o'i fywyd aberthedig., nid oes genych fywyd ynoch eich hunain. 54Yr hwn sydd yn bwyta#6:54 Trôgô a ddefnyddir gan Ioan yn unig, gyd â'r eithriad o Mat 24:38. Cynwysa yr elfen o bleser a geir wrth fwyta. Hyfrydwch yw ymborthi ar Grist. fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragywyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef y Dydd Diweddaf. 55Canys fy nghnawd i sydd wir#6:55 wir [alêthês] B C L: yn wir א D. fwyd, a'm gwaed i sydd wir#6:55 wir [alêthês] B C L: yn wir א D. ddiod. 56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau#6:56 Y mae yn D yr ychwanegiad rhyfedd canlynol: fel ag y mae y Tâd ynof fi, a minau yn y Tâd. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, oddi eithr i chwi derbyn corff Mab y Dyn fel Bara y Bywyd, nid oes genych fywyd ynddo ef.. 57Fel yr anfonodd y Tâd Bywiol fi, ac yr ydwyf fi yn byw o herwydd y Tâd; felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw o'm herwydd i. 58Hwn yw y Bara a ddaeth i waered o'r Nef. Nid megys y bwytâodd y#6:58 eich D, y manna E; gadewir allan y ddau gan א B C L T. Tadau, ac y buont feirw: yr hwn sydd yn bwyta y Bara hwn a fydd byw yn dragywydd. 59Y pethau hyn a ddywedodd efe mewn Synagog#6:59 Gadewir allan y fannod o flaen Synagog yma a 18:20, yn unig. Tebygol y gelwir sylw, felly, at natur y cyfarfod yn hytrach na'r lle y cynelid ef, yn y gwasanaeth, ar adeg addoliad, &c., wrth ddysgu yn Capernaum.
Anghrediniaeth Dysgyblion.
60Llawer o'i Ddysgyblion gan hyny, pan glywsant, a ddywedasant, Caled#6:60 Gweler Mat 25:24. yw yr ymadrodd#6:60 Neu, traethiad, araeth hwn: pwy a ddichon wrando arno#6:60 arno, sef, ar yr ymadrodd, neu, ar Grist? 61A'r Iesu yn gwybod ynddo ei hun fod ei Ddysgyblion yn grwgnach yn nghylch hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn peri i chwi dramgwydd#6:61 Gweler Mat 5:29.? 62Beth gan hyny os gwelwch#6:62 craffwch yn daer ar Fab y Dyn yn esgyn lle yr oedd efe o'r blaen#6:62 Brawddeg anorphenedig: i'w chwblhâu dysgwylid rhywbeth tebyg i: nydd achos tramgwydd i chwi yn fwy, neu, beth a ddywedwch wedy'n? neu, yna achos tramgwydd a fydd drosodd. Ymddybyna hyn ar ystyr yr ‘esgyn’ yn yr adnod: os ei Esgyniad i'r Nef, yna bydd y tramgwydd yn darfod, os i'r Groes, fel, mewn gwirionedd, ddechreuad ei Esgyniad, yna bydd y tramgwydd yn fwy.? 63Yr Yspryd yw yr hwn sydd yn bywhâu: y cnawd nid yw yn lleshâu dim: yr ymadroddion yr wyf fi wedi#6:63 wedi eu llefaru א B C D L, &c. yn eu llefaru E. [Cyfeiria at yr ymadroddion penodol yn y rhanau blaenorol]. eu llefaru wrthych, yspryd ydynt, a bywyd ydynt. 64Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o'r dechreuad pwy oedd y rhai nid oeddynt yn credu, a phwy oedd yr hwn ai traddodai ef i fyny. 65Ac efe a ddywedodd, O herwydd hyn yr wyf wedi dywedyd wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oddi eithr ei fod wedi ei roddi iddo oddi wrth y#6:65 Felly א B C D L; fy Nhâd C3. Tâd.
Cyffes Petr a chymeriad Judas.
66Ar hyn#6:66 Llyth.: allan o hyn, h. y. y canlyniad o hyn., llawer yn#6:66 yn mhlith [ek, allan o] B G T. Gad. א C D. mhlith ei Ddysgyblion ef a aethant ymaith at y pethau ar ol#6:66 Sef, y pethau, y gorchwylion, &c., y rhai a adawsant pan y dechreuasant ganlyn Crist.; ac nid oeddynt yn rhodio mwyach gyd âg ef. 67Am hyny yr Iesu a ddywedodd wrth y Deuddeg, A ewyllysiwch chwithau hefyd fyned ymaith#6:67 C mae yn y gofyniad yn dysgwyl ateb yn y nacaol. A yw bosibl y mynwch chwithau hefyd fyned ymaith?? 68Simon Petr a atebodd iddo, Arglwydd, at bwy yr awn ni ymaith? Genyt ti y mae geiriau y bywyd tragywyddol: 69ac yr ydym ni wedi credu, ac wedi dyfod i wybod#6:69 ginôskô, dyfod i wybod: gwybod drwy sylwi a myfyrio, &c. mai Tydi yw Sanct#6:69 Felly א B C D Brnd.; y Crist, Mab (o Mat 16:16) Γ Δ. Duw#6:69 Duw א B C D L Brnd.; y Duw byw (o Mat 16:16) E.. 70Iesu a'u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y Deuddeg? Ac o honoch un sydd Ddiafol#6:70 Diabolos, cyhuddwr, enllibiwr, athrodwr.. 71Ac efe a ddywedasai am Judas, mab Simon#6:71 Simon Iscariot B C G L Brnd.; Judas Iseariot E. Iscariot; canys hwn oedd ar fedr ei draddodi ef i fyny, ac yntau yn un o'r Deuddeg.

Tällä hetkellä valittuna:

Ioan 6: CTE

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään

Video Ioan 6