Luc 15

15
Ymddygiad gwahanol y Treth‐gasglwyr a'r Phariseaid.
1Ac yr oedd yr holl Dreth‐gasglwyr#15:1 Gwel Mat 5:46 a'r pechaduriaid#15:1 Y dosparthiadau gwrthodedig neu esgymunedig yn mhlith yr Iuddewon. yn agoshâu ato, i wrando arno. 2A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion#15:2 ynghyd (Gr. te) א B D L: Gad. A X. ynghyd oeddynt yn grwgnach yn ddirfawr, gan ddywedyd, Y mae hwn yn gwahodd pechaduriaid, ac yn bwyta gyd â hwynt.
Dammeg y ddafad golledig
[Mat 18:12–14]
3Ac efe lefarodd y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd, 4Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un o honynt, nid yw yn gadael yn gyfangwbl y naw‐deg a naw yn yr anialwch#15:4 Lle anwrteithiedig, ond lle yr oedd porfeydd i'r defaid. Ni esgeuluswyd y naw‐deg a naw., ac yn myned ar ol yr hon oedd wedi ei cholli, hyd oni chaffo efe hi? 5Ac wedi iddo ei chael, efe a'i gesyd hi ar ei ysgwyddau#15:5 ei ysgwyddau א B D L: ei ysgwyddau ei hun A. gan lawenhâu#15:5 Gwel Salm 119:176; Es 53:6; Ioan 8:11; 1 Petr 2:24. 6A phan ddêl adref, y mae yn galw ynghyd ei gyfeillion a'i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd‐lawenhêwch â mi#15:6 “Am y llawenydd a osodwyd iddo,” &c. Heb 12:2, canys cefais fy nafad a gollasid. 7Yr wyf yn dywedyd i chwi, Felly y bydd llawenydd yn y Nef dros un pechadur yn edifarhâu, mwy na thros naw‐deg a naw o rai cyfiawn, y cyfryw nid oes eisieu#15:7 Yr oedd angen, ond nid oeddynt yn teimlo eisieu, edifeirwch. edifeirwch arnynt.
Y darn arian colledig.
8Neu pa wraig a chanddi ddeg drachma#15:8 Drachma, darn arian, gwerth tua wyth ceiniog a dimai, ac felly yn gyfwerth a denarion. Gwisgai llawer o wragedd y darnau hyn fel addurniadau ar eu talceni. Hyn a roddai werthfawredd ar y darn yn ngolwg y wraig. Yma yn unig yn y T. N., os cyll hi un drachma, oni oleu lamp, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal hyd onis caffo ef? 9Ac wedi iddi ei gael, y mae yn#15:9 yn galw א B L X Ti. WH. yn galw ati ei hun A D Tr. Al. galw ati ei hun ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais y drachma a gollais#15:9 Nid “a gollwyd,” ond “a gollais:” dengys deimlad o golled bersonol ac hefyd mai ei bai hi ydoedd.. 10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd Angelion Duw dros un pechadur yn edifarhâu.
Y Mab Afradlon: y Tâd Cariadlon: y brawd cul digllon.
11Ac efe a ddywedodd, Rhyw wr oedd ganddo ddau fab: 12a'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy Nhâd, dyro i mi y gyfran o'r meddianau#15:12 Llyth.: sylwedd, yn cynwys pob math o feddianau; tiroedd, tai, personau, arian, &c. sydd yn syrthio i mi: ac efe a ranodd iddynt y fywoliaeth#15:12 Llyth.: bywyd [Gwel 8:43]; yna, adnoddau neu gynaliaeth bywyd; y modd i fyw, 21:4; Ioan 3:17. Yn ol y Gyfraith Iuddewig yr oedd gan y mab hynaf hawl i gymaint arall a'r mab ieuengaf.. 13Ac ar ol nid llawer o ddyddiau, y mab ieuengaf a gasglodd bob peth ynghyd, ac a aeth oddi cartref#15:13 Gwel Mat 25:14; Marc 12:1 i wlad bell: ac yno efe a wastraffodd#15:13 Llyth.: wasgarodd ar led: y gair a ddefnyddir am nithio, [gwel Mat 25:24, 26; Esec 5:2, 10, 12 LXX.] ei feddianau, gan fyw yn afradlon#15:13 asôtôs, llyth.: byw fel un nas gellir ei achub, byw yn ysgeler, yn benrydd, yn wastraffus; yma yn unig. Defnyddir yr enw asôtia, anfadrwydd, penrhyddid, ysgelerder, yn Eph 5:18; Titus 1:6; 1 Petr 4:4. 14Ac wedi iddo dreulio y cwbl, daeth newyn mawr#15:14 Gr. cryf. Gwel Amos 8:11–13 drwy y wlad hono: ac efe ei hun a ddechreuodd ddyoddef eisieu. 15Ac efe a aeth ac a lynodd#15:15 Llyth.: gludio [S. glue] “A Saul … a geisiodd ymwasgu â'r Dysgyblion” Act 9:26 wrth un o ddinaswyr y wlad hono; ac efe a'i hanfonodd ef i'r meusydd i borthi moch#15:15 Ni wnai yr Iuddewon gymaint ag enwi mochyn; galwent ef “y peth arall.”. 16Ac yr oedd efe yn awyddu cael#15:16 cael ei ddigoni (neu ei lenwi) א B D L WH. Diw.: llanw ei fol A X Δ Al. Tr. ei ddigoni a'r cibau#15:16 Neu, ffrwyth y pren carob. Golyga keratia, cyrn bychain, oddiwrth ffurf cibau y pren. Bwyteid hwy gan y bobl dlodion. Yr oedd o ran ffurf yn debyg i locustiaid. Gelwir hwynt hefyd Bara Ioan Fedyddiwr, gan y dywedir mai y cibau hyn (fel locustiaid) oedd ei fwyd yn y Diffaethwch. a fwytäi y moch: ac nid oedd neb yn rhoddi dim iddo. 17A phan ddaeth ato ei hun#15:17 Ynfydrwydd ydyw annuwioldeb: “pan ddaeth i'w lawn synwyr” Gwel Act 12:11; Preg 9:3, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd ganddynt gyflawnder#15:17 bod mewn helaethrwydd “y mae genyf helaethrwydd” Phil 4:18 o fara, a minau yma#15:17 yma, neu, yn y modd hyn א B D L Brnd.: Gad. A. ar ddarfod am danaf gan newyn! 18Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: 19mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.
20Ac efe a gododd#15:20 Neu, a gyfododd drachefn, felly adn 18., ac a aeth at ei#15:20 ei dad ei hun A B Al. WH. Diw.: ei dad D Tr. dâd ei hun. A phan oedd efe eto yn mhell oddi wrtho, ei dâd a'i gwelodd ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf, ac a'i cusanodd yn wresog#15:20 Neu, a'i cusanodd lawer, Mat 26:49; Marc 14:45. Y mae y cusan yn rhywbeth amgenach nag arwydd o serch; y mae hefyd yn wystl o faddeuant a chymod. Gen 33:4; 2 Sam 14:33; Salm 2:12. 21A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti#15:21 gwna fi fel un o'th weision cyflog א B D WH. Gad. A La. Al. Ti. Tr. Diw.. 22Eithr y tâd a ddywedodd wrth y gweision#15:22 Gr. caeth‐weision., Dygwch allan#15:22 ar frys א B L X Brnd. ond Ti. Gad. A. ar frys#15:22 wisg א A B D L Brnd. wisg, y goreu#15:22 Llyth.: y blaenaf. Dynoda y wisg yma, wisg laes werthfawr, i'w gwisgo ar adeg priodas‐wleddoedd, &c. 20:46; Ioan 19:23; Dad 3:18, a gwisgwch hi am dano ef, a rhoddwch fodrwy#15:22 Y mae y fodrwy a'r sandalau yn nodau o ddyn rhydd. Y caeth‐weision ni wisgent sandalau. am ei law, a sandalau am ei draed. 23A dygwch y llô pasgedig, a lleddwch#15:23 Llyth.: aberthwch. ef, a bwytawn, a byddwn lawen#15:23 Neu, mwynhawn ein hunain.: 24canys fy mab hwn oedd farw#15:24 Eph 2:1; 5:14; Dad 3:1, ac a aeth yn fyw drachefn: yr oedd efe wedi ei golli, ac a gafwyd; a hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25Ond yr oedd ei fab hynaf ef mewn maes: a phan ddaeth efe a neshâu at y tŷ, efe a glywodd gynghanedd a dawnsio#15:25 Gr. choros, lle i ddawnsio, yna, nifer yn dawnsio, dawnsio.. 26Ac efe a alwodd ato un o'r gweision#15:26 Llyth.: bechgyn., ac a ymofynodd beth allai y pethau hyn fod. 27Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd#15:27 Llyth.: aberthwch. y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn yn ol yn iach. 28Ond efe a aeth yn ddigllawn, ac nid oedd foddlawn i fyned i mewn. A#15:28 A A B D L X Brnd. daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd âg ef. 29Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu#15:29 Llyth.: yr wyf yn gaethwas i ti. Yspryd caethwas oedd ynddo. di: ac nid esgeulusais i erioed dy orchymyn: ac ni roddaist erioed fyn#15:29 myn א Brnd. myn ieuanc B. i mi, fel y byddwn lawen gyd â'm cyfeillion: 30ond pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywoliaeth#15:30 Gwel adn 12. gyd â'r puteiniaid, ti a leddaist iddo ef lô pasgedig. 31Ond efe a ddywedodd wrtho, Fy Mhlentyn, Yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r oll sydd eiddof fi sydd eiddo ti#15:31 Rhuf 9:4, 5. 32Ond rhaid oedd mwynhâu a llawenychu#15:32 Neu, Ond dylasit tithau fwynhau, &c.; canys dy frawd hwn oedd farw, ac a ddaeth yn fyw#15:32 yn fyw א B L Brnd.: yn fyw drachefn A D., ac a fu golledig, ac a gafwyd.

Tällä hetkellä valittuna:

Luc 15: CTE

Korostus

Jaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään