Luc 21
21
Y Weddw dlawd haelfrydig
[Marc 12:41–44]
1Ac efe a edrychodd i fyny, ac a welodd y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa#21:1 Gwel Marc 12:41; 2 Br 12:9; Neh 10:38: llyth. efe a welodd y rhai oedd yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa — rhai goludog.. 2Ac efe a welodd ryw wraig weddw dlawd#21:2 Penichros, [un yn gweithio am ei fywoliaeth], anghenus, tlawd. Yma yn unig. Yn Marc defnyddir ptôchos, fel rheol, yr hwn a ga ei fywoliaeth drwy gardota. Defnyddir hwn yn agos i ddeugain o weithiau yn y T. N. iawn yn bwrw yno ddwy hatling#21:2 Gwel Marc 12:42. 3Ac efe a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, y wraig weddw dlawd hon a fwriodd i mewn fwy na hwynt oll#21:3 2 Cor 8:12. 4Canys y rhai hyn oll o'r gorlawnder#21:4 Neu, gweddill. sydd ganddynt a fwriasant at y#21:4 y rhoddion א B L Ti. Al. WH. Diw.: at roddion Duw A D La. [Tr.] rhoddion#21:4 oedd yn y Drysorfa.; eithr hon o'i phrinder a fwriodd yr holl fodd i fyw#21:4 Llyth.: bywyd, yna, bywoliaeth, cynaliaeth. oedd ganddi.
Yn rhag‐fynegi diwedd yr Oes, a'r hyn a gyd‐fynedai
[Mat 24:1–14; Marc 13:1–13]
5Ac fel yr oedd rhai#21:5 y Dysgyblion. yn dywedyd am y Deml, ei bod wedi ei haddurno â meini prydferth ac offrymau#21:5 Anathêma, rhodd wedi ei chysegru a'i gosod mewn teml, offrwm diofrydig. Rhydd Josephus grynodeb o'r offrymau hyn, “Holl Freninoedd Asia a anrhydeddasant y Deml âg offrymau cysegredig” Hyn. xiii. 3 “O amgylch y Deml y crogai yr ysbail a gymmerasid oddiwrth genedloedd barbaraidd, wedi eu cyflwyno gan Herod,” xv. 11. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd y Winwydden Aur a roddwyd gan Herod; Cadwyn Aur Agrippa, tarianau, coronau &c. Yma yn unig y defnyddir anathêma, rhodd gysegredig (mewn ystyr dda). Defnyddir anathema (e fer) yn y LXX. am yr hyn a ddiofrydir i Dduw, h. y. i'w ddinystrio, i'w ladd &c., fel y Canaaneaid, y creaduriaid a aberthid (Lef 27:28, 29). Yr oedd y fath beth a bod yn “felldigedig i'r Arglwydd,” (Jos 6:17; Deut 13:16; Num 21:1–3). Defnyddir y gair chwech o weithiau yn y T. N. (Act 23:14; Rhuf 9:3; 1 Cor 12:3; 16:22; Gal 1:8, 9). cysegredig, efe a ddywedodd, 6O berthynas i'r pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, y dyddiau a ddeuant yn y rhai ni adewir yma#21:6 yma א B L Brnd. faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol. 7A hwy, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Pa bryd gan hyny y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd pan fyddo y pethau hyn ar ddyfod? 8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na'ch cam‐arweinier chwi: canys llawer a ddeuant yn#21:8 Llyth.: ar, ar sail. fy enw i#21:8 1 Ioan 2:18, gan ddywedyd, Myfi yw, ac, Y mae yr Adeg#21:8 Kairos, yr amser addfed neu benodedig, yr argyfwng. wedi neshâu: nac ewch ar#21:8 gan hyny A: Gad. א B D L X Brnd. eu hol hwynt. 9Eithr pan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd#21:9 akatastasia, y sefyllfa o ansefydlogrwydd, annhrefn, anghydfod, &c.; yn y lluosog, dymchweliadau, cynhyrfiadau, cyffroadau, ymrafaelau, anghydfyddiaethau, (2 Cor 12:20), terfysgoedd, (2 Cor 6:5)., na frawycher#21:9 Yma a 24:37 chwi; canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond nid yw y diwedd yn y man. 10Yna y dywedodd efe wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11a bydd hefyd ddaear‐grynfäau mawrion, ac#21:11 ac [o flaen mewn manau] א B L Al. Tr. WH. Diw.: ac [ar ol mewn manau] A D. mewn manau newynau#21:11 heintiau a newynau [loimoi kai limoi] B Al.: newynau a heintiau א A D L Tr. WH. Diw. a heintiau; ac ymddangosiadau echrydus#21:11 Gr. phobêthra: llyth,: pethau a achosant fraw neu echryd: ymddangosiadau sydyn, gwrthun, dyeithr; fel bwbach, hwdwg. Defnyddir y gair hefyd am fwgwd (mask), y Treniaid (Furies). Yma yn unig yn y T. N.: hefyd Es 19:17 LXX. Defnyddir ef mewn iaith feddygol i ddynodi y cysgodolion neu y drychiolaethau a ymddangosant mewn afiechyd., ac hefyd arwyddion mawrion a fydd o'r Nef#21:11 Ceir hanes am y rhai hyn yn Josephus: “Arwyddion amlwg a gydfynedent a Gwarchae a Dinystr Jerusalem: seren ar lun cleddyf, a chomed a ymddangosasant uwch y Ddinas am flwyddyn; yn nyfnder y nos Porth Mawr y Deml a agorodd o hono ei hun; a chyn machludiad haul un dydd, cerbydau a chatrodau o filwyr arfog a ruthrasant drwy y cymylau; yr Offeiriaid yn y Deml a glywsant lef yn dywedyd, Symudwn oddi yma; ac un Jesus, amaethwr, a aeth o amgylch am 7½ o flynyddoedd, gan waeddi, ‘Gwae Jerusalem.’ ” Josephus vi. 5.. 12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant arnoch eu dwylaw, ac a'ch erlidiant, ac a'ch traddodant i'r Synagogau a charcharau, wedi eich arwain ymaith o flaen Breninoedd a Llywodraethwyr, er mwyn fy enw i#21:12 Act 4:3; 6:11; 12:2; 16:19; 25:23. 13Hyn a dry allan i chwi yn dystiolaeth#21:13 Nid yn dystiolaeth iddynt hwy eu bod yn credu yn Nghrist, ond yn dystiolaeth iddo ef. Hwy oeddynt dystion iddo, Phil 1:17; 2 Tim 4:16.. 14Gosodwch hyn gan hyny yn eich calonau: i beidio rhagfyfyrio#21:14 Yma yn unig, gwel 1 Tim 4:15 i amddiffyn eich hun#21:14 Nid yn unig nid oeddynt i ragfyfyrio pa fodd i amddiffyn eu hun: ond nid oeddynt i feddwl am amddiffyniad fel y cyfryw o gwbl. Yr oeddynt hwy i feddwl am dano ef: gofalai efe am danynt hwy.. 15Canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr ei#21:15 Felly א B Brnd.: ei gwrth‐ddywedyd na'i gwrth‐sefyll A R X. gwrth‐sefyll na'i gwrth‐ddywedyd. 16A chwi a draddodir i fyny hyd y nôd gan rieni, a brodyr, a pherthynasau, a chyfeillion; a hwy a roddant rai o honoch i farwolaeth. 17A chwi a fyddwch gas#21:17 Gan ddangos y teimlad dwfn arosol, “A chwi a fyddwch yn parhâu i gael eich cashâu.” gan bawb o herwydd fy enw i. 18Ac eto blewyn o'ch pen chwi ni chollir ddim: 19yn eich dyfal‐barhâd amyneddgar#21:19 Gwel 8:15 chwi#21:19 chwi a enillwch A B Brnd. ond Ti. enillwch [modd gorchymynol] א D L Ti. a enillwch#21:19 enill yn wrthgyferbyniol i feddianu: yr oedd yr enaid wedi ei golli: yr oeddynt i'w gael neu ei enill yn ol drwy ffyddlondeb; eu gweithgarwch yn cyfodi o ffydd yn Nghrist. eich eneidiau#21:19 Neu, bywyd: cyferbynir y bywyd ysprydol a'r bywyd naturiol (adn 17)..
Dinystr a chaethglud
[Mat 24:15–22; Marc 13:14–20]
20Ond pan weloch Jerusalem yn cael ei hamgylchu gan fyddinoedd#21:20 Llyth.: milwyr mewn gwastadedd neu wersyll, yna byddin, yn enwedig y Llengoedd Rhufeinig. “Y mae gan y Rhufeiniaid bedair byddin frodorol neu lengoedd” Polybius., yna gwybyddwch fod ei Hanghyfanedd‐dra hi wedi neshâu. 21Yna bydded i'r rhai#21:21 Sef y Cristionogion: llawer o honynt a gofiasant y rhybudd hwn, neu, yn ol Eusebius, a gawsant ddadguddiad uniongyrchol, a chawsant noddfa yn Pella, yn Perea. a fyddant yn Judea ffoi i'r mynyddoedd: a bydded i'r rhai a fyddant yn ei chanol hi#21:21 Jerusalem. ymadael allan o honi; ac na fydded i'r rhai a fyddant yn y wlad#21:21 Neu, yn y talaethau. fyned i mewn iddi. 22Canys dyddiau cyfiawn daledigaeth#21:22 Gwneuthur llawn gyfiawnder [ek‐dikësis]. Defnyddir y gair naw o weithiau, (gwel Act 7:24; Rhuf 12:19; 2 Cor 7:11; 1 Petr 2:14). yw y rhai hyn, i gyflawnu yr holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu#21:22 Gwel Deut 28:49–57; 1 Br 9:6–9; Hos 10:14, 15; Es 29:2–4; Mic 3:8–12. 23Gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau yn y dyddiau hyny! Canys bydd cyfyngder#21:23 anangkê, angenrheidrwydd, gorfodaeth; yna, caledi, adfyd, cyfyng‐gynghor, angen, 1 Cor 7:26; 1 Thess 3:7; 2 Cor 6:4; 12:10. mawr ar y ddaear, a digofaint ar y bobl hyn. 24A hwy a syrthiant trwy fin#21:24 Llyth.: genau, safn; yna, man pellaf, felly, min. Defnyddir y gair yn y ddau ystyr yn Heb 11:33, 34 “Safnau llewod,” “Min y cleddyf.” Dywedir i dros un filiwn a chan mil gael eu dyfetha yn Ninystr Jerusalem, a chan mil eu gwerthu fel caethion. y cleddyf, a chaethgludir hwynt i bob cenedl: a Jerusalem a fydd yn cael ei mathru#21:24 gan gasineb a dirmyg. gan Genedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y Cenedloedd#21:24 Llyth.: tymhorau, amseroedd penodol; y tymhor yn yr hwn y byddai y Cenedloedd yn offerynau barnedigaethau Dwyfol, ac yn gwneuthur defnydd o'r cyfleusderau a offrymid iddynt hwythau yn eu tro. Yn ol eraill: hyd yr amser y cawsent en hefengyleiddio, (Rhuf 9:25)..
Arwyddion o'r Diwedd
[Mat 24:29–31; Marc 13:24–27]
25A bydd arwyddion mewn haul, a lleuad, a sêr#21:25 Iaith ffugyrol am gwymp llywiawdwyr, &c. Cym. Joel 2:30, 31; Amos 8:9; Dad 6:12–14.; ac ar y ddaear gyfyngder#21:25 Sunochê, gwasgu ynghyd, cyfyngu; cyfyngder, ing, helbul. Yma a 2 Cor 2:4 “O gyfyngder calon yr ysgrifenais atoch.” Cenedloedd mewn dyryswch#21:25 mewn dyryswch, y mor a'i ymchwydd yn rhuo D: Testyn א A B C Brnd. wrth ruad y môr a'i ymchwydd#21:25 Salos (yma yn unig) chwyddiad neu ymgyrchiad (Jer 5:22) y môr.: 26dynion yn llewygu ymaith gan ofn a dysgwyliad o'r pethau sydd yn dyfod ar y byd trigianol: oblegyd Galluoedd y Nefoedd a ysgydwir#21:26 Y mae gwreidd‐air ‘ysgwyd’ ac ‘ymchwydd’ [saleuô, a salos] yr un.#Es 5:30; 8:22. 27Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyd â gallu a gogoniant mawr,#Dan 7:13. 28Ond pan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, sefwch yn union‐syth, a chodwch eich penau#21:28 mewn agwedd obeithiol a gwrol., canys y mae eich gwaredigaeth yn neshâu.
Dammeg y Ffigys‐bren, proffwyd yr Hâf
[Mat 24:32–35; Marc 13:28–31]
29Ac efe a lefarodd ddammeg wrthynt: Gwelwch y ffigys‐bren a'r holl brenau: 30pan ddeiliant#21:30 Llyth.: saethant allan. hwy weithian, wrth ddal sylw yr ydych yn gwybod o honoch eich hunain fod yr hâf yn agos. 31Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dygwydd, gwybyddwch fod Teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio ddim, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33Y Nef a'r ddaear a ânt heibio: ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
Y ddyledswydd o wylio
[Mat 24:36–42; Marc 13:32–33]
34Ond ystyriwch arnoch chwi eich hunain, rhag un amser i'ch calonau gael eu gorlwytho âg effeithiau glythineb#21:34 Kraipalê [o kras, pen; a pallô, ysgwyd]: y penddaredd a'r cur yn y pen ar ol bwyta ac yfed i ormodedd; h. y. effeithiau glythineb, gwrthwyneb, chwydiad, &c. Felly cyfeiria at lythineb y ddoe, at feddwdod y dydd heddyw, ac at y pryder ynghylch yfory., a meddwdod, a phryderon bywyd#21:34 Sef ynghylch cynal bywyd a mwynhâu moethau, yr hyn a wisgir a'r hyn a fwyteir, &c., a'r Dydd hwnw ddyfod arnoch yn ddisymwth#21:34 Aiphnidios, yr hyn nid ymddengys, felly, anysgwyliadwy, sydyn. Yma a 1 Thess 5:3, fel#21:34 fel magl א B D L Brnd.: canys fel magl y daw A C. magl; 35canys felly y daw efe i mewn ar bawb a'r sydd yn eistedd yn dawel#21:35 Gwel Jer 25:29; eistedd yn gysurus neu yn ddifeddwl. dros wyneb yr holl ddaear. 36Eithr gwyliwch chwi yn mhob tymhôr, gan wneyd deisyfiadau, fel y#21:36 y caffoch nerth א B L Brnd.: caffoch eich cyfrif yn deilwng A C D. caffoch nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll#21:36 Neu, i gael eich gosod i sefyll, (Meyer). ger bron Mab y Dyn.
37Ac yr oedd efe ar hyd y dyddiau hyny yn dysgu yn y Deml: ond y nosweithiau yr oedd efe yn myned allan i dreulio y nos#21:37 Aulizomai, treulio y nos yn yr awyr agored, fel bugeiliaid. Efallai iddo gysgu, fel y gwna llawer o'r Dwyreinwyr, yn yr awyr agored: neu, yn hytrach, cawn yma awgrym iddo dreulio y noson olaf neu ddwy yn y Mynydd mewn gweddi ar, a chymundeb â'i Dâd. Yma a Mat 21:17. yn y Mynydd a elwir Olew‐wydd. 38A'r holl bobl a gyrchent gyd â'r wawr ato yn y Deml, i wrando arno.
Tällä hetkellä valittuna:
Luc 21: CTE
Korostus
Jaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.