Luc 4
4
Temtiad Crist yn yr Anialwch
[Mat 4:1–11; Marc 1:12, 13]
1A'r Iesu yn llawn o'r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd yn#4:1 Neu, gan. yr Yspryd yn#4:1 yn yr א B L Al. Tr. La. Ti. WH.: i'r A Δ. yr Anialwch 2ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio#4:2 Peirazô, gwneyd prawf o, profi, temtio i ddrwg. Hyn yw ystyr gyffredin y gair yn y T. N. lle y dygwydda 35 o weithiau; ho Peirazôn, y Temtiwr [1 Thess 3:5] gan y Diafol#4:2 Gwel Mat 4:1.. Ac ni fwytäodd efe ddim yn y dyddiau hyny, a phan oeddynt ar derfynu, daeth#4:2 o'r diwedd, neu, ar ol hyny daeth A Δ; Gad. א B D L Brnd. chwant bwyd arno. 3A'r Diafol a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y gareg hon, fel y delo yn fara#4:3 Neu, dorth.. 4A'r Iesu a atebodd iddo,#4:4 gan ddywedyd A; Gad. א B L Brnd., Y mae yn ysgrifenedig,
Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn#4:4 ond ar bob gair Duw A D (rhan fwyaf o'r hen gyfieithiadau): Gad. א B L Brnd. [o Matthew gyd âg ychydig o wahaniaeth].#Deut 8:3 LXX..
5Ac efe#4:5 Diafol A; Gad. א B D L Brnd. a'i harweiniodd i fyny#4:5 i fynydd uchel A D; Gad. א B L Ti. Al. Tr. WH. Diw., ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad#4:5 Stigmê, llyth.: pwynt, nod, manigyn, mynydyn [yma yn unig yn y T. N.] o amser: 6a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo#4:6 Llyth.: traddodi i fyny.; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi. 7Os tydi, gan hyny, a addoli#4:7 Neu, a ymgrymu. o fy mlaen i, eiddot ti fydd hi#4:7 hi oll (sef yr awdurdod) א B D L, &c., Brnd.; hwy (y pethau) oll Test. Derb. [neb o'r prif‐law. ysg.]. oll. 8A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,#4:8 Dos ymaith yn fy ol i, Satan A; Gad. א B D L, &c., Brnd. [o Matthew]: yr un demtasiwn o enau Petr a alwodd allan yr un cerydd [Mat 16:23]., Y mae yn ysgrifenedig,
Yr Arglwydd dy Dduw a addoli#4:8 Yn Deut 6:13 ofni.,
Ac efe yn unig a wasanaethi#Deut 6:13.
9Ac efe a'i harweiniodd ef i Jerusalem, ac a'i gosododd ar binacl#4:9 Aden, canllaw, mur [yn debyg, uwch Dyffryn Jehosaphat]. y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddiyma: 10canys ysgrifenedig yw,
Efe a orchymyn i'w Angelion am danat ti, dy warchod di#4:10 Gadawa y Temtiwr allan y geiriau yn y Salm, “I'th gadw yn dy holl ffyrdd,” gan y gwnelent filwrio yn erbyn ei ddadl a'i ymresymiad. Nid un o ffyrdd appwyntiedig Duw oedd i'r Ceidwad i daflu ei hun i lawr o binacl y Deml.,
11Ac,
Ar eu dwylaw y'th ddygant#4:11 Airô, cyfodi, yna, cludo neu ddwyn yr hyn a gyfodir, cynal i fyny.,
Rhag i ti un amser daro dy droed wrth gareg#Salm 91:11, 12.
12A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y mae hyn wedi ei lefaru,
Na themtia i'r eithaf#4:12 Ekpeirazo, temtio allan o fesur, yn ormodol, yn eithafol. yr Arglwydd dy Dduw#Deut 6:16.
13Ac wedi i'r Diafol orphen pob temtasiwn, efe a ymadawodd oddiwrtho ef hyd#4:13 Nid dros, ond hyd (achri) adeg gyfleus, gyfleustra, dymhor cyfaddas. Daeth yn ol yn ei nerth yn Gethsemane. dymhor cyfaddas.
Crist yn ei wlad ei hun
[Mat 4:12, 13, 24; 13:53–58; Marc 6:1–6; Ioan 2:1–12; 4:44–54]
14A'r Iesu a ddychwelodd yn nerth yr Yspryd i Galilea: a sôn a aeth allan drwy yr holl wlad o amgylch am dano ef. 15Ac yr oedd efe yn dysgu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael ei ganmol gan bawb. 16Ac efe a ddaeth i Nazareth#4:16 Nazara B Ti. WH.; Nazared D; Nazaret L K Tr.; Nazarat A Nazarath Δ., lle yr oedd efe wedi ei ddwyn i fyny: ac efe a aeth, yn ol ei arfer, ar y Sabbath, i'r Synagog, ac a safodd i fyny i ddarllen. 17A rhoddwyd iddo Lyfr y Proffwyd Esaiah: ac wedi iddo agoryd#4:17 agoryd A B L Tr. La. WH.; dadrolio א Al. y Llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi:
O herwydd efe a'm heneiniodd#4:18 Yn yr amser gorphenol; Crist a eneiniwyd unwaith am byth. i bregethu Efengyl i dlodion#4:18 i iachâu y drylliedig o galon A D; Gad. א B D L Brnd. [o Es 61:1].;
Y mae wedi fy anfon#4:18 Yn yr amser perffaith: y mae efe yn parhau i gyhoeddi rhyddhâd. i gyhoeddi rhyddhâd i gaethion#4:18 Aichmalôtos, carcharor rhyfel, o aichmê, picell, ac aliskomai, cymmeryd neu orchfygu.#Es 61:1
Ac adferiad golwg i ddeillion#4:18 Hwn yw darlleniad y LXX.; ac agoriad carchar i'r rhai sydd yn rhwym, yw yr Hebraeg.;
I ollwng ymaith mewn rhyddid y rhai oedd wedi tori eu calon#Es 58:6,
19I gyhoeddi blwyddyn#4:19 Gwel Lef 25:10 gymeradwy#4:19 Gair (dektos) a ddefnyddir gan Paul a Luc yn unig. yr Arglwydd#Es 61:2. 20Ac wedi iddo gau#4:20 Llyth.: rolio i fyny. y Llyfr, efe a'i rhoddodd yn ol i'r is‐swyddog, ac a eisteddodd, a llygaid pawb yn y Synagog oedd yn craffu#4:20 Llyth.: estyn allan, dirdynu, tynhau, yna tynhau y llygaid, craffu. Defnyddir y gair un‐ar‐ddeg gwaith gan Luc, a dwywaith gan Paul [2 Cor 3:7, 13] — yr unig engheifftiau yn y T. N. arno. 21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y mae yr Ysgrythyr hon wedi ei chyflawnu yn eich clustiau chwi. 22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol#4:22 Llyth.: geiriau gras. a ddeuent allan o'i enau ef; ac yr oeddynt yn dywedyd, Onid hwn yw Mab Joseph? 23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Er mwyn pob dim chwi a ddywedwch wrthyf y ddammeg#4:23 Parabolê, Llyth.: gosodiad yn ymyl, yna, cymhariaeth. Fel rheol y mae dammeg yn ymhelaethiad o ddiareb. hon, Feddyg, iachâ dy hun: pa bethau bynag y clywsom eu gwneuthur yn#4:23 Llyth.: i; efallai felly, y golyga tu ag at, ar ran, yn ffafr. Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlâd dy hun. 24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlâd ei hun. 25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn nyddiau Elias yn yr Israel, pan gauwyd y Nefoedd dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr dros yr holl dir#4:25 Neu, ddaear.: 26ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarephtah#4:26 Gr. Sarepta, Heb. Zarephath. Yr oedd yn dref Phoeniciaidd, yn ymyl y môr, rhwng Tyrus a Sidon. yn Sidon, at wraig weddw#1 Br 17:1–25. 27A llawer o wahan‐gleifion oedd yn yr Israel, yn amser Elisëus y Proffwyd; ond ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad#2 Br 5:1–27. 28A phawb yn y Synagog a lanwyd o gynddaredd#4:28 Thumos, o thuô, rhuthro yn mlaen, anadlu yn aruthr, fel arwydd o gynddaredd a llid. [Golyga orgê, deimlad mwy sefydlog, fel digllonedd Duw at bechod]. pan glywsant y pethau hyn: 29ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i harweiniasant ef hyd at ael y bryn, ar yr hwn yr oedd eu Dinas hwy wedi ei hadeiladu, fel y bwrient ef i lawr dros y dibyn#4:29 Gwel 2 Cr 25:12 Dyma y gosp yn Phocis am gysegr‐lygriad neu ysbeiliad.. 30Ond efe a aeth drwy eu canol hwynt, ac a aeth ei ffordd.
Crist yn iachâu yn Galilea: Bwrw allan yspryd aflan
[Marc 1:21–28]
31Ac efe a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd efe yn eu dysgu hwy ar y Sabbathau#4:31 Neu ar y dydd Sabbath.: 32a hwy a darawyd â syndod mawr wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys gyd âg awdurdod yr oedd ei Air ef. 33Ac yn y Synagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul#4:33 Gr. demon. aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,#4:33 gan ddywedyd A C D; Gad. א B L., 34Ah! Pa beth sydd i ni a wnelom â thi#4:34 Llyth.: Pa beth i ni ac i ti?, Iesu o Nazareth? A ddaethost i'n dyfetha ni? Mi a'th adwaen di, pwy ydwyt; un Sanctaidd#4:34 Salm 16:10; Dan 9:24 Duw. 35A'r Iesu a'i ceryddodd#4:35 Llyth.: gosod pris ar, yna penodi dirwy neu gosp, felly, ceryddu. ef, gan ddywedyd, Dystawa, a thyred allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo. 36A syndod#4:36 Neu, syfrdandod a oddiweddodd bawb. a ddaeth ar bawb, a hwy a gyd-ymddiddanasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Beth yw y Gair hwn? canys mewn awdurdod a gallu y mae efe yn gorchymyn#4:36 Llyth.: trefnu, ordeinio. i'r ysprydion aflan, ac y maent yn dyfod allan. 37A sôn#4:37 êchos [Lladin echo] swn, yna sôn. am dano ef a aeth allan i bob lle o'r wlâd oddi amgylch.
Iachâu mam gwraig Petr o dwymyn
[Mat 8:14, 15; Marc 1:29–31]
38A phan gyfododd efe o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. A chwegr Simon oedd yn dyoddef#4:38 Llyth.: yn cael ei dàl gan. oddiwrth dwymyn#4:38 Puretos, o pur, tân, poethder; felly twymyn. galed, a hwy a atolygasant#4:38 Llyth.: ofynasant. iddo drosti hi. 39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y dwymyn, a hi a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a weinyddodd iddynt.
Iachâu amrywiol glefydau, a bwrw allan gythreuliaid
[Mat 8:16, 17; Marc 1:32–34]
40A'r haul yn machlud, pawb a'r oedd ganddynt gleifion o amryw glefydau a'u dygasant ato ef; ac efe, gan roddi ei ddwylaw ar bob un o honynt, a'u hiachâodd hwynt. 41A chythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, gan waeddi allan, a dywedyd, Ti yw Mab#4:41 Ti yw y Crist, Mab Duw A. Ti yw Mab Duw א B C D Brnd. Duw: ac efe a'u ceryddodd, ac ni chaniatâodd iddynt lefaru, canys hwy a wyddent mai efe ei hun oedd y Crist.
Y Gylchdaith yn Galilea
[Mat 4:23, 24; Marc 1:35–39]
42A phan ddaeth yn ddydd, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le anghyfanedd, a'r torfeydd oeddynt yn ei daer‐geisio#4:42 daer‐geisio א A B C D &c., Brnd.; geisio E G H K. ef, ac a ddaethant hyd ato, ac a fynent ei atal#4:42 Llyth.: ei ddàl yn dyn., fel nad elai efe oddiwrthynt. 43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae yn rhaid i mi bregethu newyddion da Teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill#4:43 Llyth.: gwahanol. hefyd: canys ar gyfer hyn y'm danfonwyd. 44Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilea#4:44 Galilea A D La. Tr. Ti. Diw.: Judea א B C L Al. WH. Nid oes son am weinidogaeth Judea yn Matthew, Marc, a Luc. Os Judea yw yr iawn ddarlleniad yma, dyma yr unig gyfeiriad ynddynt ati; ond os felly y mae yn hynod allan o le yn y fan hon..
Tällä hetkellä valittuna:
Luc 4: CTE
Korostus
Jaa
Kopioi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Ffi.png&w=128&q=75)
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.