Luc 7:21-22

Luc 7:21-22 CTE

Ac yn yr awr hono efe a wellhâodd lawer o glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhad‐roddodd efe iddynt i weled. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'ch ffordd, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn gweled drachefn, a chloffion yn rhodio; rhai gwahan‐glwyfus yn cael eu glanhâu, byddariaid yn clywed, meirwon yn cyfodi, a thlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.