Salm 15
15
Sut mae Duw am i ni fyw?
Salm Dafydd.
1 ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di?
Pwy sy’n cael byw ar dy fynydd cysegredig?
2Y sawl sy’n byw bywyd di-fai,
yn gwneud beth sy’n iawn,
ac yn dweud y gwir bob amser.
3Dydy e ddim yn defnyddio’i dafod i wneud drwg,
i wneud niwed i neb,
na gwneud hwyl am ben pobl eraill.
4Mae’n ffieiddio’r rhai mae Duw’n eu gwrthod,
ond yn anrhydeddu’r rhai sy’n parchu’r ARGLWYDD.
Mae’n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny’n gostus iddo.
5Dydy e ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian,#Lefiticus 25:35-38; Deuteronomium 23:19,20
na derbyn breib i gondemnio’r dieuog.
Fydd yr un sy’n byw felly byth yn cael ei ysgwyd.
Sélection en cours:
Salm 15: bnet
Surbrillance
Copier
Comparer
Partager
Tu souhaites voir tes moments forts enregistrés sur tous tes appareils? Inscris-toi ou connecte-toi
© Cymdeithas y Beibl 2023