YouVersion logo
Ikona pretraživanja

Luc 2

2
Y bumed Flwyddyn cyn y Cyfrif Cyffredin a elwir Anno Domini. —
1 Augustus yn trethu holl ymerodraeth Rhufain. 6 Genedigaeth Crist. 8 Angel yn ei fynegi i’r bugeiliaid; 13 a llawer yn canu moliant i Dduw amdano. 21 Enwaedu Crist. 22 Puredigaeth Mair. 28 Simeon ac Anna yn proffwydo am Grist: 40 ac yntau yn cynyddu mewn doethineb: 46 yn ymresymu â’r doctoriaid yn y deml, 51 ac yn ufudd i’w rieni.
1Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu’r holl fyd. 2(Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) 3A phawb a aethant i’w trethu, bob un i’w ddinas ei hun. 4A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i #Ioan 7:42ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd), 5I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. 6A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. 7#Mat 1:25A hi a esgorodd ar ei mab #2:7 y cyntaf‐anedig.cyntaf‐anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.
8Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu #2:8 diadellau.praidd liw nos. 9Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant. 10A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl: 11Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd. 12A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb. 13Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, 14#Pen 19:38Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear #Esa 57:19; Eff 2:17tangnefedd, i ddynion ewyllys da. 15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, #2:15 Gr. y dynion y bugeiliaid.y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. 16A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. 17A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. 18A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. 19Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. 20A’r bugeiliaid a ddychwelsant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21A #Gen 17:12; Lef 12:3phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef #Mat 1:21; Pen 1:31IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddŵyn ef yn y groth. 22Ac wedi cyflawni #Lef 12:2, 3, 4, 6dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23(Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, #Exod 13:2; 22:29; Num 3:13; 18:15Pob gwryw #2:23 yn agoryd y groth.cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;) 24Ac i roddi aberth, yn ôl #Lef 12:2, 6, 8yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen. 25Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, #Esa 40:1; Ad. 38yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno. 26Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith; 28Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29#Gen 46:30; Phil 1:23Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: 30Canys fy #Esa 52:10; Pen 3:6llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, 31Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd; 32#Esa 42:6; 49:6; Act 13:47; 28:28Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef. 34A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd #Esa 8:14; Hos 14:9; Mat 21:44; Rhuf 9:32, 33; 1 Cor 1:23, 24; 2 Cor 2:16; 1 Pedr 2:7, 8yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac #Act 28:22yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35(A #Ioan 19:25thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau. 36Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; 37Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll #Marc 15:43; Ad. 25; Pen 24:21oedd yn disgwyl ymwared yn #2:38 Israel.Jerwsalem. 39Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelsant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth. 40#Ad. 52; Pen 1:80A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41A’i rieni ef a aent i Jerwsalem #Deut 16:1, 16bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl. 43Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: 44Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelsant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47#Mat 7:28; Marc 1:22; Pen 4:22, 32 Ioan 7:15, 46A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion. 48A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod #Ioan 2:16ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad? 50A #Pen 9:45; 18:34hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52A’r Iesu #1 Sam 2:26; Ad. 40a gynyddodd mewn doethineb #2:52 ac oedran.a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

Trenutno odabrano:

Luc 2: BWM1955C

Istaknuto

Podijeli

Kopiraj

None

Želiš li svoje istaknute stihove spremiti na sve svoje uređaje? Prijavi se ili registriraj