YouVersion logo
Ikona pretraživanja

Luc 21

21
A.D. 33. —
1 Crist yn canmol y weddw dlawd: 5 yn rhagfynegi dinistr y deml a dinas Jerwsalem; 25 a’r arwyddion a fydd o flaen y dydd diwethaf: 34 ac yn eu hannog hwy i fod yn wyliadwrus. 37 Arfer Crist tra fu yn Jerwsalem.
1Ac wedi iddo edrych i fyny, efe #Marc 12:41a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. 2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy #21:2 Edrych Marc 12:42hatling. 3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, #2 Cor 8:12fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: 4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl #21:4 gyfoeth.fywyd a oedd ganddi.
5 # Mat 24:1; Marc 13:1 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, 6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai #Pen 19:44ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir. 7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? 8Ac efe a ddywedodd, #Eff 5:6; 2 Thess 2:3Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt. 9A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10#Mat 24:7Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef. 12#Marc 13:9; Dat 2:10Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac #Act 4:3; 5:18; 12:4; 16:24i garcharau, #Act 25:23wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13Eithr #Phil 1:28; 2 Thess 1:5fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14#Mat 10:19; Marc 13:11; Pen 12:11Am hynny #21:14 gosodwch yn eich calonnau, na, & c.rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch: 15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, #Act 6:10yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. 16#Micha 7:6A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac #Act 7:59; 12:2 i rai ohonoch y parant farwolaeth. 17A #Mat 10:22chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i. 18#Mat 10:30Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi. 19Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau. 20#Mat 24:15; Marc 13:14A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu. 21Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi. 22Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, #Dan 9:26, 27; 12:7; Sech 11:1i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd. 23Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, #Rhuf 11:25hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25 # Act 2:20; 2 Pedr 3:10, 12 A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; 26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27Ac yna y gwelant Fab y dyn #Dat 1:7; 14:14yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr. 28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys #Rhuf 8:19, 23y mae eich ymwared yn nesáu. 29#Mat 24:32; Marc 13:28Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; 30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos. 31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. 32Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33#Mat 24:35Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34Ac #Rhuf 13:13; 1 Thess 5:6; 1 Pedr 4:7edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35Canys #1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Dat 3:3; 16:15efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36#Mat 24:42; Marc 13:33Gwyliwch gan hynny a #Pen 18:1gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac #Salm 1:5; Eff 6:13i sefyll gerbron Mab y dyn. 37#Ioan 8:1, 2A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r #Pen 22:39nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.

Trenutno odabrano:

Luc 21: BWM1955C

Istaknuto

Podijeli

Kopiraj

None

Želiš li svoje istaknute stihove spremiti na sve svoje uređaje? Prijavi se ili registriraj