Y Salmau 5

5
SALM V
Verbamea auribus.
Gweddi yn erbyn ei elynion, gan ddangos ei ymddygiad ei hun tuag at Dduw, heb wneuthur cam â’i elynion.
1Arglwydd clyw ’ngweddi yn ddiball,
Duw deall fy myfyrdod:
2Erglyw fy llais a’m gweddi flin,
Fy Nuw, a’m brenin hyglod.
3Yn forau gwrando fi fy Naf,
yn forau galwaf arnad:
4Cans nid wyd Dduw i garu drwg,
ni thrig i’th olwg anfad.
5Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na’r rhai a wnaen anwiredd:
Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,
sef diflas yt bob gwagedd.
6Y rhai a ddwedant ffug a hud,
a phob gwyr gwaedlud creulon,
Ti a’i tynni hwyntwy o’r gwraidd,
fel ffiaidd annuwiolion.
7Dof finnau tu a’th dy mewn hedd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,
i’th sanctaidd eglwys treiglaf.
8I’th gyfiownder arwain fi: Ner
rhag blinder a chasineb.
Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd,
yn wastad rhag fy wyneb.
9Cans iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bedd,
a gwagedd ar eu tafod.
10Distrywia hwynt iw camwedd,
Ion, o’i holl gynghorion cwympant,
Hwnt a hwy, a’i holl ddrygioni,
i’th erbyn di rhyfelant.
11A’r rhai a’ mddiried ynot ti,
am yt’ gysgodi drostynt:
(Llawen a fydd pob rhai a’th gâr)
cei fawl yn llafar ganthynt.
12Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith
dy fendith ar y cyfion:
A’th gywir serch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.

Chwazi Kounye ya:

Y Salmau 5: SC

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte