Marc 12

12
12. IESU YN DYSGU YN EI DEML
Dameg y Winllan a'r Tenantiaid (Marc 12:1-12)
1-12Dechreuodd Iesu ddysgu drwy ddamhegion. “Un tro, plannodd rhyw ddyn winllan. Gosododd glawdd o'i hamgylch, cloddiodd gafn ar gyfer y gwinwryf ac adeiladodd dŵr. Yna, rhoddodd y lle allan ar rent i denantiaid, ac aeth i ffwrdd. Pan ddaeth y cynhaeaf, anfonodd was at y tenantiaid i gasglu'r rhent. Cafodd hwnnw ei guro a'i yrru oddi yno yn waglaw. Anfonodd was arall, a chafodd hwnnw hefyd ei glwyfo a'i gam‐drin. Anfonodd un arall eto, a lladdwyd hwnnw. Yr un fu ymateb y tenantiaid i'r holl weision a anfonwyd: curwyd rhai a lladdwyd eraill. Roedd un mab annwyl gan y perchennog, ac anfonodd ef hwnnw atynt, gan feddwl y bydden nhw'n siwr o'i barchu ef. Pan ddeallodd y tenantiaid pwy ydoedd, lladdwyd ef er mwyn iddyn nhw etifeddu'r winllan. Nawr, beth wnaiff perchen y winllan? Daw a distrywio'r tenantiaid hynny, a rhoi'r winllan i bobl eraill. Ydych chi ddim wedi darllen yr Ysgrythur:
‘Y garreg a wrthododd yr adeiladwyr,
a ddaeth yn garreg gornel;
Yr Arglwydd a wnaeth hyn,
ac mae'n rhyfedd yn ein golwg ni’?”
Ceision nhw ei ddal ef, ond roedden nhw'n ofni'r dyrfa ac am eu bod yn gwybod mai yn eu herbyn nhw y dwedodd Iesu'r ddameg, aethon nhw i ffwrdd.
Talu Trethi i Gesar (Marc 12:13-17)
13-17Cafodd rhai o'r Phariseaid a'r Herodianiaid eu hanfon at Iesu i geisio'i ddal â chwestiynau. Dwedon nhw wrtho, “Athro, rydyn ni'n gwybod dy fod ti'n ddiffuant, a dwyt ti ddim yn hidio am farn pobl nac am eu golwg allanol. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw yn gwbl ddidwyll. Ydy hi'n iawn talu treth i Gesar, ai peidio?” Deallodd Iesu eu twyll a dwedodd, “Pam rydych chi'n ceisio fy nal i? Dewch â darn o arian i mi.” Wedi ei gael, gofynnodd iddyn nhw, “Llun ac enw pwy sy arno?” Atebon nhw, “Cesar.” Dwedodd Iesu, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Roedden nhw yn rhyfeddu ato.
Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad (Marc 12:18-27)
18-27Daeth nifer o Sadwceaid, y bobl nad oedd yn credu mewn atgyfodiad, i holi Iesu. “Athro, mae Moses wedi gorchymyn, ‘Os bydd brawd dyn farw, a gadael gwraig ond heb adael plant, mae disgwyl i hwnnw briodi'r wraig a chodi plant er mwyn ei frawd’. Un tro, roedd saith o frodyr. Priododd yr hynaf, ond doedd dim plant gydag ef. Wedi iddo farw priododd ei frawd y wraig, a bu yntau farw heb blant. Digwyddodd yr un peth i'r trydydd. Ni adawodd un o'r saith blant ar ei ôl. Yn y diwedd bu farw'r wraig hefyd. Gwraig i bwy fydd hi yn yr atgyfodiad, oherwydd bu'r saith yn briod â hi?” Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Rydych chi'n gwneud camsyniad, dydych chi ddim yn deall yr Ysgrythyrau na gallu Duw. Yn yr atgyfodiad, ni fydd neb yn priodi, byddan nhw fel angylion yn y nefoedd. Ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, ydych chi ddim wedi darllen yn stori'r Berth yn llosgi, yn Llyfr Moses, sut y dwedodd Duw wrtho fe, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob?’ Duw y rhai byw ydy e, nid Duw y rhai meirw. Rydych chi wedi gwneud camsyniad mawr.”
Y Gorchymyn Mawr (Marc 12:28-34)
28-34Roedd un o'r ysgrifenyddion wedi bod yn gwrando ar y dadlau. Gwelodd fod Iesu wedi ateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'un ydy'r gorchymyn cyntaf?” Atebodd Iesu, “Y cyntaf ydy, ‘Clyw Israel, yr Arglwydd dy Dduw ydy'r unig Arglwydd, ac mae'n rhaid i ti garu'r Arglwydd dy Dduw gyda'th holl galon, dy holl enaid, dy holl feddwl a'th holl nerth.’ A'r ail orchymyn ydy hwn, ‘Mae'n rhaid i ti garu dy gymydog fel ti dy hun.’ Does dim gorchymyn arall yn fwy na'r rhain.” Dwedodd yr ysgrifennydd, “Athro, atebaist yn dda; un Duw sy, ac mae i bawb ei garu ef gyda'i holl galon, ei holl ddeall, ei holl nerth, a charu ei gymydog fel ef ei hun, yn bwysicach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.” Pan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn synhwyrol, dwedodd, “Dwyt ti ddim ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Wedi hyn, ni feiddiodd neb ofyn rhagor o gwestiynau iddo.
Holi ynglŷn â Mab Dafydd (Marc 12:35-37)
35-37Pan oedd Iesu'n dysgu yn y deml, gofynnodd i'r rhai oedd yn gwrando, “Sut mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd? Dwedodd Dafydd ei hun, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân:
‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy llaw dde
hyd nes i mi drechu dy elynion di.” ’
Gan fod Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd, sut felly y gall ef fod yn fab iddo?” Roedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.
Cyhuddo'r Ysgrifenyddion (Marc 12:38-40)
38-40Wrth eu dysgu dwedodd Iesu, “Byddwch ofalus ynglŷn â'r ysgrifenyddion sy'n hoffi cerdded o amgylch mewn gwisgoedd llaes, derbyn cyfarchion cyhoeddus, eistedd yn y seddau blaen yn y synagogau a mynnu'r lleoedd gorau mewn gwleddoedd. Maen nhw'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac yn gweddïo'n faith er mwyn tynnu sylw. Fe gân nhw eu beirniadu'n llym.”
Rhodd y Weddw (Marc 12:41-44)
41-44Roedd Iesu'n eistedd yn y deml gogyfer â chist y drysorfa, ac yn sylwi ar y ffordd roedd y dyrfa yn cyfrannu eu harian. Roedd llawer o'r bobl gyfoethog yn rhoi yn hael. Daeth gweddw dlawd heibio a rhoddodd ddwy hatling i mewn — swm bach iawn o arian. Galwodd Iesu'r disgyblion ynghyd a dwedodd wrthyn nhw, “Credwch fi, rhoddodd y weddw dlawd yma fwy na neb arall. Roedden nhw'n rhoi o'u cyfoeth, ond rhoddodd hon, o'i thlodi, y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”

Chwazi Kounye ya:

Marc 12: DAW

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte