Marc 14:27-31

Marc 14:27-31 DAW

Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Bydd pob un ohonoch chi yn colli ei ffydd ynof fi, am fod yr Ysgrythur yn dweud: ‘Caiff y bugail ei daro gennyf fi, a bydd y defaid yn cael eu gwasgaru i bobman.’ Ar ôl i mi gyfodi af o'ch blaen chi i Galilea.” Dwedodd Pedr wrtho, “Gall bob un o'r lleill golli'i ffydd, ond wna i ddim.” Atebodd Iesu, “Cred fi, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe fyddi di wedi fy ngwadu i deirgwaith.” Mynnodd Pedr ddweud yn wahanol, “Petai'n rhaid i mi farw gyda thi, wna i byth dy wadu di,” a dwedodd pob un o'r lleill yr un peth.