Աստվածաշնչի հայտնի հատվածներ Ioan 8-ից

Iesu á ddywedodd wrthynt drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith; chwi á ’m ceisiwch i, ac á fyddwch feirw yn eich pechodau; lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. Yna yr Iuddewon á ddywedasant, A ladd efe ei hun, gàn ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod? Efe á ddywedodd wrthynt, Chychwi ydych oddi isod; minnau wyf oddi uchod. Chychwi ydych o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn; am hyny y dywedais, Chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau; oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi á fyddwch feirw yn eich pechodau. Yna hwy á ofynasant iddo, Pwy wyt ti? Iesu á atebodd, Yr un un ag y dywedais i wrthych gynt. Y mae genyf fi lawer o bethau iddeu dywedyd am danoch, ac iddeu ceryddu ynoch chwi; eithr gwiwgred yw yr hwn à’m hanfonodd i; a nid wyf fi ond cyhoeddi i’r byd y pethau à ddysgais ganddo ef. Ni chanfuant hwy mai y Tad á feddyliai efe. Iesu, gàn hyny, á ddywedodd wrthynt, Pan godoch chwi Fab y Dyn yn uchel, yna y cewch wybod beth ydwyf fi; a nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun, nac yn dywedyd dim ond à ddysgodd y Tad i mi. A’r hwn à’m hanfonodd i sy gyda myfi. Ni adawodd y Tad fi yn unig, oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd yn rhyngu ei fodd ef. Tra yr ydoedd efe yn llefaru fel hyn, llawer á gredasant ynddo ef. Yna y dywedodd Iesu wrth yr Iuddewon hyny à’i credasant ef, Os parêwch yn fy nysgeidiaeth i, dysgyblion i mi ydych yn wir. A chwi á gewch wybod y gwirionedd; a’r gwirionedd á’ch rhyddâa chwi.

Rhai á atebasant, Hiliogaeth Abraham ydym ni, a ni buom gaethion i neb erioed. Pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi á wneir yn rhyddion? Iesu á adatebodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, pwybynag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn gaethwas i bechod. A nid yw y caethwas yn aros yn y teulu byth; y Mab sydd yn aros byth. Os y Mab, gàn hyny, á’ch rhyddâa chwi, rhyddion fyddwch yn wir. Mi á wn mai hiliogaeth Abraham ydych; èr hyny yr ydych yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy athrawiaeth i yn cael lle ynoch chwi. Yr wyf fi yn llefaru yr hyn à welais gyda ’m Tad i; ac yr ydych chwithau yn gwneuthur yr hyn à ddysgasoch gàn eich tad chwithau. Hwythau á atebasant, Ein tad ni yw Abraham. Iesu á adatebodd, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham á wnaech. Ond yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn à ddywedodd i chwi y gwirionedd yr hwn á dderbyniais i gàn Dduw. Nid fel hyn y gwnaeth Abraham. Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Hwythau á atebasant, Nid drwy buteindra y cenedlwyd ni. Un Tad sy genym ni, sef Duw. Iesu á adatebodd, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi á’m carech i; canys oddwrth Dduw y deilliais, ac y daethym i. Nid o honof fy hun y daethym i. Efe á’m hanfonodd i. Paham nad ydych yn deall fy iaith i? Am na ellwch wrandaw fy athrawiaeth i. Eich tad chwi yw y diafol, a chwantau eich tad á fỳnwch chwi eu boddiaw; lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; efe á wyrodd oddwrth y gwirionedd, am nad oes eirwiredd ynddo. Pan y mae yn dywedyd celwydd, y mae yn llefaru yn gydweddol â’i nodweddiad; canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad y celwydd. Am danaf fi, am fy mod yn dywedyd y gwir, nid ydych yn fy nghredu i. Pwy o honoch á’m hargyhoedda i o anwiredd? Ac od wyf fi yn dywedyd gwirionedd, paham nad ydych yn fy nghredu i? Yr hwn sydd o Dduw, sydd yn ystyried geiriau Duw. Nid ydych chwi yn eu hystyried, am nad ydych o Dduw.