Luwc 22:14-20

Luwc 22:14-20 CJW

Pan ddaeth yr awr, efe á osododd ei hun wrth y bwrdd gyda ’r deg a dau Apostol, ac á ddywedodd wrthynt, Mi á chwennychais yn fawr fwyta y pasc hwn gyda chwi cyn dyoddef o honof: canys yr wyf yn gwirio i chwi, na chyfranogaf mwyach o’r un arall, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Duw. Yna gwedi iddo gymeryd cwpan, efe á ddiolchodd, ac a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhànwch yn eich plith; canys yr wyf yn sicrâu i chwi, nad yfaf drachefn o gynnyrch y winwydden, hyd oni ddelo Teyrnasiad Duw. Yna efe á gymerodd fara, a gwedi diolch, á’i tòrodd, ac á’i rhoddes iddynt, gàn ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch. Gwnewch hyn èr coffa am danaf. Efe á roddes y cwpan yr un modd, wedi cwynosa, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw y Sefydliad newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.