Luwc 22

22
1-6Ac â gwyl y bara croew, yr hon á elwir y pasc, wedi nesâu, yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion á geisient pa fodd y lladdent ef; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl. Yna yr aeth Satan i fewn i Iuwdas, yr hwn á gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi y deuarddeg. Ac efe á aeth ac á gydluniodd â’r archoffeiriaid a’r swyddogion, pa fodd y traddodai efe Iesu iddeu dwylaw hwynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt, a hwy á gyttunasant i roddi iddo sum pènodol; yr hwn wedi i Iuwdas ei dderbyn; efe á wyliai am gyfle iddei fradychu ef yn ddiderfysg.
7-13Gwedi dyfod dydd y bara croew, àr yr hwn yr aberthid y pasc, Iesu á ddanfonodd Bedr ac Ioan, gàn ddywedyd, Ewch, parotöwch i ni y pasc, fel y bwytäom. Hwythau á ofynasant iddo, Pa le y parotöwn ef? Yntau á atebodd, Pan eloch i fewn i’r ddinas, cyferfydd á chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr; dylynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i fewn, a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae yr Athraw yn gofyn i ti, Pa le mae y gwestle, lle y gallwyf fwyta y pasc gyda ’m dysgyblion? Ac efe á ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei dodrefnu; yno parotowch. Felly yr aethant, ac á gawsant bob peth fel y dywedasai efe wrthynt, ac á barotoisant y pasc.
14-20Pan ddaeth yr awr, efe á osododd ei hun wrth y bwrdd gyda ’r deg a dau Apostol, ac á ddywedodd wrthynt, Mi á chwennychais yn fawr fwyta y pasc hwn gyda chwi cyn dyoddef o honof: canys yr wyf yn gwirio i chwi, na chyfranogaf mwyach o’r un arall, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Duw. Yna gwedi iddo gymeryd cwpan, efe á ddiolchodd, ac a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhànwch yn eich plith; canys yr wyf yn sicrâu i chwi, nad yfaf drachefn o gynnyrch y winwydden, hyd oni ddelo Teyrnasiad Duw. Yna efe á gymerodd fara, a gwedi diolch, á’i tòrodd, ac á’i rhoddes iddynt, gàn ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch. Gwnewch hyn èr coffa am danaf. Efe á roddes y cwpan yr un modd, wedi cwynosa, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw y Sefydliad newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21-23Ond daliwch sylw, bod llaw yr hwn sydd yn fy mradychu, ar y bwrdd gyda ’r eiddof fi. Y mae Mab y Dyn yn myned ymaith, megys y mae gwedi ei luniaethu: èr hyny, gwae y dyn hwnw drwy yr hwn y bradychir ef! Yna y dechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn à wnai hyny.
24-30Buasai ymryson hefyd yn eu plith, pwy o honynt á gyfrifid y mwyaf. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Y mae breninoedd y cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai à’u gorthrymant, á elwir yn gymwynaswyr. Ond nid felly y bydd gyda chwi; eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded fel y lleiaf; a’r hwn sydd yn llywodraethu fel yr hwn sydd yn gwasanaethu. Canys pa un fwy, ai yr hwn sydd wrth y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? Onid yr hwn sydd wrth y bwrdd? Eto yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. Chychwi yw y rhai à arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf yn trefnu i chwi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn fy nheyrnas, (megys y trefnodd fy Nhad i mi deyrnas), ac eistedd àr orseddau, yn barnu deg a dau lwyth Israel.
31-34Yr Arglwydd á ddywedodd hefyd, Simon, Simon, Satan á gafodd gènad i’ch nithio chwi fel gwenith; ond mi á weddiais drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd; tithau, gan hyny, pan ymadferych, cadarnâa dy frodyr. Yntau á atebodd, Feistr, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar ac i angeu. Iesu á adatebodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, na chan y ceiliog heddyw, nes i ti wadu deirgwaith yr adwaeni fi.
35-39Yna y dywedodd efe wrthynt, Pan ych anfonais heb nac alwar, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisieu dim? Hwy á atebasant, Naddo ddim. Ond yn awr, meddai efe, y neb sy ganddo alwar, cymered ef, a’r un modd ei god; a’r neb nid oes ganddo gleddyf, gwerthed ei fantell a phryned un; canys yr wyf yn dywedyd i chwi, bod yn raid i’r ysgrythyr hon, “Gyda drygweithredwyr y cyfrifwyd ef,” gael yn awr ei chyflawni ynof fi; canys rhaid i’r pethau à berthynant i mi gael eu cwblâu. Hwythau á ddywedasant, Feistr, y mae yma ddau gleddyf. Yntau á atebodd, Digon yw. Yna efe á aeth allan, ac á aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Oleẅwydd, a’i ddysgyblion á’i canlynasant ef.
40-46Gwedi cyrhaedd yno, efe á ddywedodd wrthynt, Gweddiwch na byddo i chwi ymroddi i brofedigaeth. Yna, gwedi iddo gilio oddwrthynt tuag ergyd càreg, efe á aeth àr ei liniau ac á weddiodd, gàn ddywedyd, O Dad, os wyt yn ewyllysio, cỳmer y cwpan hwn oddwrthyf; èr hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti, á wneler. Ac angel o’r nef á ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, á weddiodd yn ddyfalach, a’i chwys oedd fel tolchenau o waed yn disgyn àr y ddaiar. Pan gododd efe o’i weddi, a dychwelyd at y dysgyblion, efe á’u cafodd hwynt yn cysgu, gwedi eu gorthrechu gàn dristwch; ac á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch a gweddiwch, rhag i’r brofedgaeth eich gorchfygu chwi.
47-53Cyn gorphen o hono lefaru, efe á welai dyrfa, a’r hwn à elwid Iuwdas, un o’r deuarddeg, oedd yn cerdded o’u blaen hwynt, ac á ddaeth i fyny at Iesu, iddei gusanu ef. Iesu á ddywedodd wrtho, Iuwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn? A’r rhai oedd gydag ef, yn rhagweled beth á fyddai, á ddywedasant wrtho, Feistr, á daraẅwn ni â’r cleddyf? Ac un o honynt á darawodd was yr archoffeiriad, ac á dòrodd ymaith ei glust ddëau ef. Iesu á ddywedodd, Bydded hyn yn ddigon; a gwedi cyfhwrdd â’i glust, efe á’i hiachaodd ef. Yna Iesu á ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a swyddogion gwarchodlu y deml, a’r henuriaid, y rhai á ddaethent iddei ddal ef, Ai fel rhai yn ymlid àr ol ysbeiliwr yr ydych yn dyfod, â chleddyfau ac â ffyn? Tra yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn y deml, ni cheisiasoch fy nal i. Ond hon yw eich awr chwi, a gallu y tywyllwch.
DOSBARTH XIV.
Y Croeshoeliad.
54-62Yna hwy á’i daliasant ef, ac á’i harweiniasant ymaith i dŷ yr archoffeiriad. A Phedr á ganlynodd o hirbell. Wedi iddynt gynneu tân yn nghanol y cyntedd, ac eistedd o’i gylch ef, Pedr á eisteddodd yn eu plith hwynt. A rhyw lances, wedi ei ganfod ef yn eistedd wrth y tân, a dàl sylw arno, á ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. Yntau á’i gwadodd ef, gàn ddywedyd, Ddynes, nid adwaen i ef. Yn mhen ychydig wedi, un arall á’i gwelai ef, ac á ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un o honynt. Pedr á atebodd, Ddyn, nac ydwyf. Yn mhen tuag awr wedi, un arall á daerai yr un peth, gàn ddywedyd, Yr oedd hwn yn ddiau gydag ef, oblegid Galilead yw. Pedr á atebodd, Nid wyf fi yn gwybod dim am y peth hwn. A chyda ei fod yn dywedyd y gair, canodd ceiliog. Yna yr Arglwydd á droes, ac á edrychodd àr Bedr. A Phedr á gofiodd y gair à ddywedasai yr Arglwydd wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. Ac efe á aeth allan, ac á wylodd yn chwerwdost.
63-65Yn y cyfamser, y rhai oedd yn cadw Iesu, á’i gwatwarasant ac á’i tarawsant ef; a gwedi rhoddi mwgwd arno, hwy á’i tarawsant ef àr ei wyneb, ac á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Dewinia pwy á’th darawodd di. A llawer o bethau sarâus ereill á ddywedasant yn ei erbyn ef.
66-71Cygynted ag yr aeth hi yn ddydd, ymgynnullodd senedd y genedl, yn nghyd â’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a gwedi iddynt beru iddo gael ei ddwyn iddeu hystafell gynghor, hwy á ddywedasant wrtho, Os tydi yw y Messia, dywed i ni. Yntau á atebodd, Os dywedaf i chwi, ni chredwch: ac os gofynaf holiad, ni’m hatebwch, a ni’m gollyngwch yn rydd. Ar ol hyn y seddir Mab y Dyn àr ddeheulaw Duw Hollallnog. Hwythau oll á atebasant, Mab Duw, gàn hyny, wyt ti? Yntau á atebodd, Yr ydych yn dywedyd y gwir. Yna hwy á lefasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? Ni á glywsom ddigon ein hunain o’i enau ef ei hun.

Արդեն Ընտրված.

Luwc 22: CJW

Ընդգծել

Կիսվել

Պատճենել

None

Ցանկանու՞մ եք պահպանել ձեր նշումները ձեր բոլոր սարքերում: Գրանցվեք կամ մուտք գործեք