Ioan 5

5
PEN. V.
8 Iesu yn iachau y dyn a fuase glaf amyn dwy flynedd deugain, 10 yr Iddewon yn ei gyhuddo ef, 19 Crist yn atteb trosto ei hun, ac yn eu hargyoeddu hwy, 32 yn dangos drwy destiolaeth ei Dad, 33 ac Ioan, 36 a’i weithredoedd ei hun, 39 a’r Scruthyr lân, pwy yw efe.
1Wedi hyn #Lefit.23.3. Deut.16.1.yr oedd gŵyl yr Iddewon, ac Iesu a aeth i fynu i Ierusalem.
2Ac y mae yn Ierusalem wrth #Nehem.3.1. & 32. & 12.39.[borth] y defaid lynn a elwir yn Hebræ-aec Bethesda, ac iddo bum porth.
3Yn y rhai hyn yr oedd lliaws mawr o gleifion, o ddeillion, o gloffion, a gwywedigion yn gorwedd, [ac] yn disgwil am gynhyrfiad y dwfr.
4Canys angel a ddescynne ar amserau i’r llyn, a’r dwfr a gynhyrfe: yna pwy bynnac yn gyntaf ar ôl cynhyrfiad y dwfr a ddescynne i mewn, a iachauid o ba ryw glefyd bynnac a fydde arno.
5Ac yr oedd yno ryw ddyn yr hwn a fuase yn glaf am yn dwy deugain o flynyddoedd.
6Pan welodd yr Iesu ef yn gorwedd, a gwybod gael o honaw ef lawer o amser bellach, efe a ddywedodd wrtho, a fynni di dy wneuthur yn iach?
7A’r claf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennif neb pan gynhyrfer y dwfr a’m bwrio fi i’r llynn: onid tra fyddwyf yn dyfod, arall a ddescyn o’m blaen.
8Iesu a ddywedodd wrtho ef, cyfot, cyfot dy wely, a rhodia.
9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dŷn yn iach, ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd, a’r Sabboth oedd y diwrnod hwnnw.
10Am hynny ’r Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethyd yn iach, [dydd] Sabboth yw hi,* ni ddylit ti godi dy wely.
11Efe a attebodd iddynt, yr hwn a’m hiachâodd fi, efe a ddywedodd wrthif: cyfot dy wely, a rhodia.
12Yna hwynt a ofynnasant iddo ef, pwy ydyw ’r dŷn yr hwn a ddywedodd wrthit ti cyfot dy wely, a rhodia?
13A’r hwn a iachausid ni ŵydde pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliase o’r dyrfa yr hon oedd yn y fann [honno.]
14Wedi hynny Iesu a’i cafodd ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, wele ti a iachauwyd: na phecha mwyach rhac digwyddo peth a fyddo gwaeth i ti.
15Y dŷn a aeth ymmaith, ac a fynegodd i’r Iddewon, mai Iesu oedd efe yr hwn a’i gwnaethe ef yn iach.
16Am hynny ’r Iddewon a erlidiasant Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, o blegit iddo ef wneuthur hyn ar y Sabboth.
17Ond Iesu ai hattebodd hwynt, y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finne yn gweithio.
18O herwydd hynny ’r Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, nid yn vnic o blegit iddo ef dorri ’r Sabboth, ond am iddo ef ddywedyd mai Duw oedd ei Dâd, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.
19Yna Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, ni ddichon y Mab wneuthur dim o honaw ei hunain, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur, canys beth bynnac y mae efe yn ei wneuthur hynny y mae y Mab hefyd yn ei wneuthur.
20Canys y Tâd sydd yn caru y Mâb, ac yn dangos iddo ’r hyn oll y mae efe yn ei wneuthur, ac efe a ddengis iddo ef weithredoedd mwy nâ ’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21O blegit megis y mae y Tâd yn cyfodi y rhai meirw, ac yn bywhâu: felly y mae’r Mâb hefyd yn bywhau y neb a fynno.
22Canys y Tâd nid yw yn barnu neb: eithr efe a roddes bob barn i’r Mab.
23Fel yr anrhydedde pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad, yr hwn a’i hanfonodd ef.
24Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fyng-air, ac yn crêdu i’r hwn a’m hanfonodd i a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25Yn wir, yn wîr meddaf i chwi, yr awr a ddaw ac y mae hi eusus pan glywo y meirw lef Mab Duw, a’r rhai a glywant a fyddant byw.
26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mâb hefyd, fod ganddo fywyd ynddo ei hun.
27Ac efe a roddes iddo ef allu i wneuthur barn, o herwydd ei fod efe yn Fab dŷn,
28Na ryfeddwch er hyn, canys yr awr a ddaw yn yr hon y caiff pawb oll a’r a ydynt yn y beddau glywed ei lef ef.
29A’r #Math.25.41.rhai a wnaethant ddaioni a ddeuant allan i adgyfodiad y bywyd: ond y rhai a wnaethant ddrygioni i adgyfodiad barn.
30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan, fel y clywyf y barnaf, a’m barn sydd gyfiawn: canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, onid ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
31Os myfi a destiolaethwn am danaf fy hunan, ni bydde fy nhestiolaeth i yn wîr.
32Arall sydd yn testiolaethu o honofi, ac mi a wn mai gwir yw y destiolaeth yr hon y mae efe yn ei destiolaethu o honofi.
33Chwy chwi #Pen.1.27.a anfonasoch at Ioan, ac efe a destiolaethodd o’r gwirionedd.
34Ond nid ydwyfi yn derbyn testiolaeth oddi wrth ddŷn: eithr dywedyd yr ydwyf y pethau hyn, fel i’ch gwaredid chwi.
35Efe oedd gannwyll yn llosci, ac yn goleuo: ac ennyd awr y mynnech chwi lawenychu yn ei oleuni ef.
36Ond y mae gennifi destiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tâd i mi iw gorphen, y gweithredoedd hynny y rhai ’r ydwyfi yn eu gwneuthur sy’n testiolaethu o honofi, mai’r Tâd a’m hanfonodd i.
37A’r Tâd yr hwn a’m hanfonodd i, efe a destiolaethodd am danafi: ond ni wrandawsoch chwi ar ei lais ef vn amser, ac #Math.3.17. & 17.5.ni welsoch ei wedd ef.
38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys nid ydych chwi yn credu yn yr hwn a anfonodd efe.
39 # Act.17.18. Chwiliwch yr scrythyrau, canys yr ydych chwi yn tybied gael ynddynt fywyd tragywyddol, a hwynt hwy ydynt yn testiolaethu o honofi.
40Ond ni fynnwch chwi ddyfod attafi, fel y caffech chwi fywyd.
41Nid ydwyfi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42Ond myfi a’ch adwen chwi, nad oes gariad Duw ynoch.
43Myfi a ddaethym yn enw fy Nhâd, ac ni dderbynniasoch chwi mo honof: os daw arall yn ei enw ei hun, ef a dderbyniwch chwi.
44Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd, ac heb geisio y gogoniant yr hwn sydd oddi wrth Dduw yn vnic?
45Na thybiwch y cyhuddafi chwi wrth y Tâd: y mae a’ch cyhudda chwi, [sef] Moses: yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46Canys pe chredasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minne: o blegit am danafi yr scrifennodd efe.
47Ond os chwi ni chredwch iw scrifennadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau maufi?

Pilihan Saat Ini:

Ioan 5: BWMG1588

Sorotan

Berbagi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan di semua perangkat Anda? Daftar atau masuk