Genesis 7
7
Y Dilyw
1Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch, ti a'th holl deulu, oherwydd gwelais dy fod di yn gyfiawn ger fy mron yn y genhedlaeth hon. 2Cymer gyda thi saith bâr o'r holl anifeiliaid glân, y gwryw a'i gymar; a phâr o'r anifeiliaid nad ydynt lân, y gwryw a'i gymar; 3a phob yn saith bâr hefyd o adar yr awyr, y gwryw a'r fenyw, i gadw eu hil yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. 4Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum.” 5Gwnaeth Noa bopeth fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo. 6Chwe chant oed oedd Noa pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
7Aeth Noa i mewn i'r arch, a'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion gydag ef, rhag dyfroedd y dilyw. 8Cymerodd o'r anifeiliaid glân a'r anifeiliaid nad oeddent lân, o'r adar a phopeth oedd yn ymlusgo ar y tir, 9a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa. 10Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
11Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd, 12fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos. 13Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch, 14hwy a phob bwystfil yn ôl ei rywogaeth, a phob anifail yn ôl ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei rywogaeth, a'r holl adar yn ôl eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog. 15Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo. 16Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno.
17Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear. 18Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd. 19Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd; 20cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd. 21Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd; 22bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau. 23Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch. 24Parhaodd y dyfroedd ar y ddaear am gant a hanner o ddyddiau.
Attualmente Selezionati:
Genesis 7: BCND
Evidenziazioni
Condividi
Copia
Vuoi avere le tue evidenziazioni salvate su tutti i tuoi dispositivi?Iscriviti o accedi
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004