1
Matthew 7:7
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
比較
Matthew 7:7で検索
2
Matthew 7:8
Canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn, a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
Matthew 7:8で検索
3
Matthew 7:24
Pob un, gan hyny, sydd yn gwrandaw fy ngeiriau [hyn], ac yn eu gwneuthur, a gyffelybir i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig
Matthew 7:24で検索
4
Matthew 7:12
Gan hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch i ddynion eu gwneuthur i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw y Gyfraith a'r Proffwydi.
Matthew 7:12で検索
5
Matthew 7:14
Oblegyd cul yw y porth a chyfyngedig yw y ffordd sydd yn arwain i'r Bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.
Matthew 7:14で検索
6
Matthew 7:13
Ewch i fewn drwy y porth cyfyng, canys llydan yw y porth ac eang yw y ffordd sydd yn arwain ymaith i'r Golledigaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi.
Matthew 7:13で検索
7
Matthew 7:11
Os chwychwi, gan hyny, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?
Matthew 7:11で検索
8
Matthew 7:1-2
Na fernwch, fel na'ch barner. Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir, ac â pha fesur y mesuroch y mesurir i chwithau.
Matthew 7:1-2で検索
9
Matthew 7:26
A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod
Matthew 7:26で検索
10
Matthew 7:3-4
A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd ac nad wyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele, y trawst yn dy lygad dy hun?
Matthew 7:3-4で検索
11
Matthew 7:15-16
Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddifewn y maent yn fleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A ydynt yn casglu grawnsypiau oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall?
Matthew 7:15-16で検索
12
Matthew 7:17
Felly, pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren gwael sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
Matthew 7:17で検索
13
Matthew 7:18
Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg na phren gwael ffrwythau da.
Matthew 7:18で検索
14
Matthew 7:19
Pob pren heb ddwyn ffrwyth da a dorir i lawr ac a deflir i dân.
Matthew 7:19で検索
ホーム
聖書
読書プラン
ビデオ