Matthaw 6
6
PENNOD VI.
Christ yn traethu am elusen, gweddi, maddeuant i’n brodyr, y gwir drysor, ac am geisio Duw.
1GOCHELWCH rhag gwneuthur eich elusen yngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: onitte ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. 2Am hynny pan wnelych elusen, na udgana o’th flaen, fel y gwna’r rhagrithwŷr, yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. 3Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau; 4Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5¶ A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwŷr: canys hwy a garant weddïo yn sefyll yn y synagogau, ac ynghonglau y cynteddeu, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. 6Ond tydi, pan weddïech, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg. 7A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau. 8Na fyddwch gan hynny yn debyg iddynt; canys fe ŵyr eich tad pa bethau sydd eisiau arnoch, cyn i chwi eu gofyn ganddo. 9Am hynny gweddïwch chwi fel hyn: Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd; sancteiddier dy enw. 10Deued dy lywodraeth: gwneler dy ewyllys felly ar y ddaear, megis y mae yn y nefoedd. 11Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. 12A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeiwn ninnau in dyledwŷr. 13Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag y drwg: canys eiddot ti yw’r lywodraeth, a’r gallu, a’r gogoniant, dros bob oesoedd. 14Oblegyd os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu hefyd i chwithau: 15Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau. 16A pan unprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist: canys y maent yn anffurfio eu hwynebau, fel yr ymddangosant i ddynion eu bod yn un-prydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr. 17Eithr pan unprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb; 18Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn unprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel a dal i ti yn yr amlwg. 19Na thrysorwch i’wch dryssorau ar y ddaear, lle y mae llyngyr a bwytad yn difa, a lle y mae lladron yn trosgloddio ac yn lladratta. 20Eithr tryssorwch i’wch dryssorau yn y nef, lle nid oes na llyngyr na bwytad yn difa, a lle nid oes lladron yn trosgloddio nag yn lladratta. 21Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. 22Y llygad yw canwyll y corph, am hynny os bydd dy lygad yn bûr, fe fydd dy holl gorph yn oleu. 23Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, fe fydd dy holl gorph yn dywyll. Os gan hynny bydd y goleu sydd ynot yn dywyllwch, pa mor fawr fydd y tywyllwch.
24¶ Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys efe a gasa y naill, ac a gar y llall; neu efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon. 25Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; nac am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corph yn fwy na’r dillad? 26Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegyd nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? 27A phwy o honoch gan ofalu, a ddichon ychwanegu un cufydd at ei einioes? 28A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio, nac yn nyddu: 29Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 30Am hynny os dillada Duw felly lyseuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i’r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, O chwi o ychydig ffydd? 31Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwyttawn, neu Beth a yfwn, neu A pha beth yr ymddilladwn? 32(Canys yr holl bethau hyn y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio) oblegyd gwyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau yr holl bethau hyn. 33Eithr yn gyntaf, ceisiwch lywodraeth Duw, a’i gyfiawnder ef, a’r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. 34Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.