聖書アプリのロゴ
検索アイコン

Job 25

25
Ymateb Bildad: dydy dyn ddim yn gyfiawn
1A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:
2“Mae gan Dduw awdurdod a gallu dychrynllyd,
ac mae’n sefydlu heddwch yn y nefoedd uchod.
3A ellir cyfrif ei fyddinoedd?
Ydy ei olau e ddim yn disgleirio ar bawb?
4Sut all person dynol fod yn iawn gyda Duw?
Sut all un sydd wedi’i eni o wraig fod yn lân?
5Os nad ydy’r lleuad yn ddisglair,
na’r sêr yn lân yn ei olwg,
6pa obaith sydd i berson dynol, sydd fel pryfyn,
creadur meidrol, sy’n ddim ond pryf genwair?”

選択箇所:

Job 25: bnet

ハイライト

コピー

比較

シェア

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。