聖書アプリのロゴ
検索アイコン

Salm 149

149
Emyn o fawl
1Haleliwia!
Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD,
Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o’i bobl ffyddlon.
2Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!
Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
3Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;
ac ar y drwm a’r delyn fach.
4Achos mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl!
Mae’n gwisgo’r rhai sy’n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
5Boed i’r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu,
a gweiddi’n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
6Canu mawl i Dduw
gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
7yn barod i gosbi’r cenhedloedd,
a dial ar y bobloedd.
8Gan rwymo’u brenhinoedd â chadwyni,
a’u pobl bwysig mewn hualau haearn.
9Dyma’r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;
a’r fraint fydd i’r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.
Haleliwia!

選択箇所:

Salm 149: bnet

ハイライト

コピー

比較

シェア

None

すべてのデバイスで、ハイライト箇所を保存したいですか? サインアップまたはサインインしてください。